Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 1 - Dydd Mercher, 30ain Ionawr, 2019 10:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

44.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Gwnaed y Datganiadau o Fuddiant canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd N Burnett fuddiant personol yn eitem 4 yr agenda - Canlyniadau Addysg gan fod ei mab yn mynychu Ysgol Uwchradd Brynteg.

 

Datganodd y Cynghorydd J-P B Blundell fuddiant personol yn eitem 4 yr agenda - Canlyniadau Addysg fel llywodraethwr Ysgol Babanod Cefn Glas. 

 

Datganodd y Cynghorydd B Sedgebeer fuddiant personol yn eitem 4 yr agenda - Canlyniadau Addysg fel llywodraethwr Ysgol Uwchradd Pencoed ac Ysgol Gynradd Croesty. 

 

Datganodd y Parchedig Ganon E Evans fuddiant personol yn eitem 4 yr agenda - Canlyniadau Addysg fel llywodraethwr Ysgol Uwchradd Bryntirion ac mae ei wraig yn gweithio i'r Gwasanaeth Cynhwysiant.

 

Datganodd y Cynghorydd AJ Williams fuddiant personol yn eitem 4 yr agenda - Canlyniadau Addysg fel llywodraethwr Ysgol Gynradd Coety ac mae ganddi blentyn sy'n mynychu Ysgol Uwchradd Brynteg.

 

Datganodd y Cynghorydd R Stirman fuddiant personol yn eitem 4 yr agenda - Canlyniadau Addysg fel llywodraethwr Ysgol Gynradd Tynyrheol. 

 

Datganodd y Cynghorydd C Webster fuddiant personol yn eitem 4 yr agenda - Canlyniadau Addysg gan fod ganddi blentyn

sy'n derbyn addysg Uwchradd yn y Fwrdeistref Sirol. 

 

Datganodd y Cynghorydd TH Beedle fuddiant personol yn eitem 4 yr agenda - Canlyniadau Addysg gan mai ef yw Cadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr.   

45.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 54 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 03/12/2018

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           I dderbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 1 a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2018 fel rhai cywir. 

46.

Canlyniadau Addysg pdf eicon PDF 533 KB

Gwahoddedigion:-

 

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd               

Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio                     

Nicola Echanis,   Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar                                     

Andy Rothwell,   Uwch Ymgynghorydd Her,Consortiwm Canolbarth y De                                            

Mike Glavin,  Cyfarwyddwr Rheoli, Consortiwm Canolbarth y De                                                      

Sarah Merry, Cadeirydd, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cyd Consortiwm Canolog y De

 

Cynrychiolwyr addysgol  

 

Neil Clode

Hannah Castle

Andrew Slade

Jeremy Evans

Lisa James-Smith

Meurig Jones

Angela Keller

Jeremy Thompson

Carmen Beveridge

Rhiannon Dixon

 

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â chategoreiddio ysgolion, cyrhaeddiad disgyblion (gan gynnwys disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol), yr heriau a wynebir gan ysgolion a gwaith Consortiwm Canolbarth y De.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gwall yn yr adroddiad a dywedodd fod Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn arwain ac yn mynychu'n llawn y Canolfannau Cyfrwng Cymraeg sy'n gysylltiedig â Gyda'n Gilydd a Cyfleoedd+, a ariennir drwy'r Consortiwm, ond hefyd y gwaith y mae'r ysgol yn ei wneud â Cydag.  Roedd gwaith YG Llangynwyd wedi cael ei gynnwys o fewn adroddiadau ac ymweliadau cynghorwyr herio yn y gorffennol, a bod ymgysylltu'n digwydd ar draws ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws y Consortiwm.

 

Adroddodd yr Uwch Gynghorydd Herio ar wybodaeth am gategorïau ysgolion ar gyfer 2018-19, sydd, ar hyn o bryd, yn cael ei chymedroli a'i dilysu, gyda'r bwriad o'i chyhoeddi ym mis Chwefror 2019.  Amlygodd gategorïau cymorth ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr dros y 3 blynedd diwethaf.  Rhoddodd wybod i'r Pwyllgor fod y rhan fwyaf o'r ysgolion wedi dangos gwelliant mewn canlyniadau ôl-16 o waelodlin gymaradwy yn 2011-12. Tynnodd sylw at berfformiad ysgolion uwchradd Pen-y-bont ar Ogwr o ran disgyblion a gyflawnodd y trothwy Lefel 3, 2 Safon Uwch neu fwy gradd A*-E. Rhoddwyd rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am safleoedd ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer cyfnod allweddol 4; canlyniadau ar gyfer y cyfnod sylfaen Canlyniadau 5+ a 6+; cyfnod allweddol 2; canlyniadau ar gyfer cyfnod allweddol 2 Lefel 4+ a 5+ a chyfnod allweddol 3; canlyniadau ar gyfer cyfnod allweddol 3 Lefel 5+, 6+ a 7+.  Dywedodd fod targedau a chyraeddiadau gwirioneddol yng nghyfnod allweddol 2 wedi eu halinio'n agos gyda'r holl dargedau yn cael eu cyrraedd neu eu methu o drwch blewyn.  Ar gyfer cyfnod allweddol 3, ar lefel 5, methwyd â chyrraedd targedau o dipyn mwy na chyfnod allweddol 2. Mae Cynghorwyr Herio yn mynd i'r afael â hyn, er mwyn sicrhau bod cymaint o ddisgyblion ag sy'n bosibl yn cyrraedd eu targedau a bod y bwlch yn cael ei leihau.  Methwyd â chyrraedd targedau ar drothwy Lefel 2+ o 7.8%. Mae angen lleihau'r ffigwr ymhellach er mwyn sicrhau ei fod yn unol â pherfformiad yn 2015-16.  Dywedodd fod y lleihad yn cynrychioli dealltwriaeth well o'r fanyleb arholiadau a'r gwaith y mae Cynghorwyr Herio wedi ei wneud wrth gefnogi ysgolion. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor pa gamau y mae'r Consortiwm yn eu cymryd i gael ysgolion yn ôl yn y Categori Gwyrdd.  Hysbysodd yr Uwch Gynghorydd Herio y Pwyllgor, fod ysgol yn symud o'r categori Gwyrdd i'r categori Melyn, yn arwydd ei bod yn cael y cymorth gofynnol.  Gall Ysgolion mewn categori Melyn gael 10 diwrnod o gymorth y flwyddyn a bydd newid yn cael ei weithredu yn ystod y flwyddyn drwy arweinyddiaeth.  Hysbysodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Consortiwm y Pwyllgor ei bod hi'n bosibl fod ysgolion wedi symud i'r categori Melyn gan eu bod wedi adnabod y cymorth sydd ei angen arnynt.  Dywedodd y bydd categoreiddio wedi newid eleni. 

 

Gofynnodd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 46.

47.

Diweddariad ar y Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu'r Flaenraglen Waith a hysbysodd y Pwyllgor y byddai'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 3 yn dilyn cyfarfod Aelodau'r Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, yn ei gyfarfod yn ystyried adroddiad ar y Strategaeth Ddigartrefedd a bydd aelodau o'r Pwyllgor hwn yn cael gwahoddiad i fynychu.

48.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd yna unrhyw eitemau brys.