Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

49.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

 

Cofnodion:

L M Walters

50.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Fe wnaeth A J Williams ddatgan diddordeb personol yn Eitem 4 ar yr Agenda, oherwydd ei fod yn Llywodraethwyr Ysgol i Ysgol Gynradd Coety.

51.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 88 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 30/01/2019

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1, dyddiedig 30 Ionawr 2019, fel cofnod gwir a chywir.

52.

Landlord Corfforaethol pdf eicon PDF 109 KB

Invitees:

Cllr Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd

Mark Shephard, Prif Weithredwr (Dros Dro)

Zak Shell, Pennaeth Gweithrediadau Gwasanaethau Cymunedol

Tim Washington, Pennaeth Dros Dro y Landlord Corfforaethol

Mike Butler, Rheolwr Gyfarwyddwr Peopletoo

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad i’r Pwyllgor, a phwrpas hwn oedd rhoi diweddariad i'r Aelodau ynghylch y cynnydd oedd yn cael ei wneud ar weithredu model y ‘Landlord Corfforaethol’ ar draws portffolio eiddo’r awdurdod, yr hyn a gyflawnwyd hyd yma a’r camau nesaf yn y broses.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y Cyngor yn hanesyddol wedi rheoli ei bortffolio eiddo mewn dull gwasgaredig, lle roedd y cyfrifoldeb am ystad y Cyngor wedi ei daenu dros dair cyfarwyddiaeth a nifer o feysydd gwasanaeth. Amlinellodd Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol fod y Model Corfforaethol, yn ei ystyr symlaf, yn ymwneud â chanoli’r holl swyddogaethau cysylltiedig ag eiddo o dan un tîm integredig, oedd yn rhyddhau amser i’r meysydd gwasanaeth ganolbwyntio ar eu hamcanion craidd.

 

Yn dilyn hyn, rhoddodd Pennaeth Dros Dro’r Landlord Corfforaethol, ynghyd â Rheolwr Gyfarwyddwr ‘Pobl Hefyd’ gyflwyniad i’r Pwyllgor, yn egluro i’r Pwyllgor fanteision y model, y cynnydd a wnaed hyd yma, y cyfleoedd arbedion yn y dyfodol a'r ffrydiau gwaith allweddol fyddai’n digwydd dros y 18 mis nesaf.

 

Roedd y Pwyllgor yn cefnogi manteision model y Landlord Corfforaethol o ran dileu dyblygu, symleiddio gwasanaethau a gweithio fel ‘Un Cyngor’, ond mynegent rai pryderon ynghylch blaenoriaethau gwaith trwsio a chynnal a chadw. Holai’r Aelodau sut yr oedd tîm y Landlord Corfforaethol yn blaenoriaethu anghenion y naill ysgol dros y llall, a dilynodd y Cadeirydd hyn drwy holi a fyddai ysgol - cwsmer oedd yn talu yn cael blaenoriaeth ar gyfer trwsio o flaen problem yn un o adeiladau’r Cyngor. Esboniodd Pennaeth Dros Dro’r Landlord Corfforaethol fod yr holl waith y gofynnir amdano drwy’r ddesg gymorth yn cael ei asesu drwy frysbennu ac yr ymdrinnid â’r gwaith ar dail blaenoriaethu’n unig.

 

Ar bwnc y berthynas waith rhwng Ysgolion a phroses y Landlord Corfforaethol, er eu bod yn nodi bod cefnogaeth dda gan ysgolion ac addysg, fe wnaeth Aelodau'r Pwyllgor dynnu sylw at yr angen i annog mwy o ddefnydd o’r model drwy gyfathrebu mwy â llywodraethwyr ysgolion yn ogystal â phenaethiaid ysgolion er mwyn pwysleisio’r manteision ariannol a strategol o wneud hynny.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch adeiladau oedd yn eiddo i’r Cyngor nad oedd modd eu defnyddio ar y pryd oherwydd eu bod mewn cyflwr gwael neu fod asbestos i’w ganfod o fewn yr ased. Felly gofynnodd yr Aelodau am gael derbyn gwybodaeth bellach ynghylch unrhyw gynlluniau cynnal a chadw ar gyfer asedau ym mhob ward ynghyd ag unrhyw benderfyniadau tymor hir posibl y gellid bod eu hangen.

 

Ar destun y gyllideb a ddyrannwyd i fodel y Landlord Corfforaethol, cwestiynai’r Pwyllgor y ffioedd a ddyrannwyd i wasanaethau ymgynghori ‘Pobl Hefyd’ a beth oedd wedi ei gynnwys yn y ffigur. Esboniodd Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol fod y ffi yn swm nodedig ond yn llai na’r arbedion a gynhyrchwyd hyd yma a bod y ffi yn cynnwys gwasanaethau megis cyngor a staff arbenigol na ellid eu cael yn fewnol.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd cyfeiriad at Drosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC) yn yr adroddiad ac felly holent sut  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 52.

53.

Panel Trosolwg a Chraffu ar Ymgysylltiad Aelodau ac Ysgolion - Ysgol Gynradd Plasnewydd pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu’r adroddiad, a phwrpas hwn oedd cyflwyno i’r Pwyllgor ganfyddiadau ac argymhellion cyfarfod y Panel Ymgysylltiad Aelodau ac Ysgolion (MSEP) gydag Ysgol Gynradd Plasnewydd.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw’r Aelodau at baragraff 4.2 pwynt g) gyda chyfeiriad at hyfforddiant Llywodraethwyr Ysgolion a chytunwyd bod y mater yn galw am waith craffu ac awgrymwyd gwahodd detholiad o Lywodraethwyr i ddod i’r cyfarfod Craffu er mwyn edrych ar y swyddogaeth a gweld pa gefnogaeth a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol a Chonsortiwm Canol y De.

 

Ar bwnc Llywodraethwyr Ysgol, cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch hybu swyddi gwag presennol o fewn ysgolion a gofynnent am ystyried ffyrdd eraill o hysbysebu. Awgrymodd Aelodau y dylid cynnwys disgrifiad swydd sy’n amlinellu’n eglur yr hyn y mae’r swydd yn ei olygu ac y dylai grynhoi amseroedd a dyddiadau cyfarfodydd disgwyliedig er mwyn dangos yr ymrwymiad sydd ei angen wrth ymgymryd â’r swydd.

 

Cydnabu’r Pwyllgor gynnwys yr adroddiad a holent a oedd y problemau a ganfuwyd o fewn Ysgol Gynradd Plasnewydd yn cael eu hailadrodd mewn ysgolion eraill ac awgryment y byddai’n ddefnyddiol pe bai'r Pwyllgor Craffu yn darparu adroddiad blynyddol yn amlinellu themâu’r problemau a ganfuwyd. 

 

PENDERFYNWYD:  Argymhellodd yr Aelodau fod adroddiad blynyddol yn cael ei gynhyrchu gan y Pwyllgor Craffu, yn amlinellu themâu problemau mewn ysgolion o fewn y  Fwrdeistref, ynghyd â’r camau a sefydlwyd i liniaru’r materion hyn.

 

Wrth drafod ‘Pwyntiau Pellach i Graffu arnynt’, dywedodd y Pwyllgor eto fod angen edrych i mewn i swyddogaeth ac anghenion hyfforddiant Llywodraethwyr Ysgolion. Yn dilyn trafodaethau, gwnaeth yr Aelodau y sylwadau a’r argymhellion canlynol mewn perthynas â’r pwnc:

·      Oherwydd y ffaith fod yna oddeutu 41 o swyddi gwag ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion ar hyn o bryd, argymhellodd yr Aelodau ystyried sut i hybu a hysbysebu ar gyfer y penodiadau hyn;

·      Bod disgrifiad swydd arfaethedig y Llywodraethwr Ysgol hefyd yn cynnwys dyddiadau cyfarfodydd a drefnwyd er mwyn amlinellu’r ymrwymiad y byddai’r swydd yn galw amdano;

·      Oherwydd bod sesiynau hyfforddi’n cael eu canslo o ganlyniad i ddiffyg presenoldeb, gofynnodd yr Aelodau am edrych ar y modd y caiff sesiynau hyfforddi Llywodraethwyr Ysgolion eu hybu.

·      Gwahodd detholiad o gynrychiolwyr Llywodraethwyr Ysgolion i ddod i’r cyfarfod er mwyn rhoi eu barn.

 

Derbyniodd y Pwyllgor sylwadau ac argymhellion y Panel Ymgysylltiad Aelodau ac Ysgolion mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Plasnewydd a phenderfynwyd eu hanfon i gyd i’r Cabinet, y Gyfarwyddiaeth a’r Consortiwm am ymateb.

54.

Diweddariad ar y Rhaglen Waith i’r Dyfodol pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad Rhaglen Waith i’r Dyfodol. Gan dynnu sylw at yr adborth o'r cyfarfod diwethaf, y Gweithdy craffu a drefnwyd i ddigwydd yn y cyfarfod nesaf a’r eitemau newydd arfaethedig ar gyfer Craffu.

 

Penderfynwyd: 

Er bod y Pwyllgor yn deall oherwydd amgylchiadau personol parhaus gyda Chyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, a oedd efallai wedi arwain at oedi mewn ymateb i sylwadau ac argymhellion, bod y Pwyllgor yn gofyn i’w siom gael ei nodi nad oedd ymateb wedi cael ei baratoi gan Swyddog arall.

 

Mewn perthynas â’r eitem ar Cyfathrebiadau ac Ymgysylltiad a drefnwyd ar gyfer 3 Mehefin 2019, gofynnodd yr Aelodau i’r Pwyllgor Craffu ystyried gwahodd Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid a gwahoddir cynrychiolydd hefyd i fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Mewn perthynas ag eitem Adolygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Ôl- 16, oedd wedi ei drefnu ar gyfer SOSC 2 ar 5 Mehefin 2019, i ddibenion dilyniant, mae Aelodau SOSC 1 wedi gofyn am gael bod yn bresennol yn y cyfarfod hwn a chyfrannu iddo.

55.

Prosiect Ailfodelu’r Gwasanaethau Maethu pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:  Nododd y Pwyllgor y wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad a’r Atodiad.

56.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd eitemau brys.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.10 p.m.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z