Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd PA Davies |
|
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Fe wnaeth y Cadeirydd ddatgan buddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda, am fod aelod o’r teulu’n contractio ar gyfer y Fwrdeistref Sirol ym maes Marchnata. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 74 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 29/04/19
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1, dyddiedig, 29 Ebrill 2019, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. |
|
Cyfathrebu ac Ymgysylltu PDF 135 KB Gwahoddedigion:
Mark Shephard – Prif Weithredwr Cynghorydd Dhanisha Patel – Aled Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol Martin Morgans - PennaethGwasanaeth - Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth Phil O’Brien – Rheolwr Grwp – Trawsnewid a Gwasanaethau a Cwsmer Nicola Bunston – Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb Liam Ronan – Rheolwr Cyfathrebu Natalie Morris - Swyddog Cymorth – Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltiad
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cychwynnodd y Cadeirydd y trafodion drwy groesawu’r Gwahoddedigion a gwnaed y cyflwyniadau angenrheidiol.
Dechreuodd y Prif Weithredwr drwy roi amlinelliad o’r adroddiad, a bwriad hwn oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar waith y Tîm Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu am y cyfnod 2018/19.
Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod wedyn i gwestiynau i’r Gwahoddedigion gan yr Aelodau.
Teimlai Aelod fod angen lledaenu gwaith Cyfathrebu a Marchnata ac yn y blaen i bob lefel gan gynnwys ei raeadru i lawr i sefydliadau megis Cynghorau Tref a Chymuned, lle y gellir gosod gwybodaeth am ddigwyddiadau ar Hysbysfyrddau a hyd yn oed mewn ffenestri siopau. Ystyriai ef ei bod yn bwysig lledaenu cyhoeddiadau, megis cyfarfodydd Galw-i-mewn Trosolwg a Chraffu sy’n cael eu trefnu ar fyr rybudd, mor eang ag sydd modd. Deallai nad oedd yna un ateb oedd yn addas ar gyfer pawb; fodd bynnag, teimlai nad oedd pawb yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig rhai o’r bobl hynaf mewn cymdeithas.
Ychwanegodd Aelod at hyn, drwy ddweud y dylid defnyddio Ysgolion hefyd fel dull o gyfleu i’r cyhoedd y digwyddiadau pwysig sy’n cael eu cynnal, h.y. mewn bwletinau i rieni.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei fod ef yn cytuno ag awgrymiadau o’r math yma.
Cadarnhaodd Aelod y gellid rhoi ystyriaeth hefyd i rannu gwybodaeth gyda phobl oedrannus mewn cartrefi preswyl a llety gwarchod, ac efallai ar gyfer cyrsiau dysgu a datblygu sy’n cael eu cyflwyno mewn Canolfannau Cyswllt a/neu Ganolfannau Cymunedol. Byddai hyn o gymorth i’r Cyngor am fod mwy o’r cyhoedd yn cysylltu ag ef yn ddigidol nag sydd drwy lythyr.
Dywedodd Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth fod swm sylweddol o wybodaeth o fath Cyfathrebu yn cael ei sianelu drwy Banel y Dinasyddion, a bod nifer o'r bobl sydd ar y panel hwn yn bobl h?n.
Ychwanegodd Aelod y dylid defnyddio siopau lleol a swyddfeydd post i arddangos hysbysiadau ynghylch digwyddiadau sydd i ddod ac, fel y soniwyd yn gynharach, dylid anfon llenyddiaeth i Glercod Cynghorau Tref a Chymuned i’w harddangos yn eu swyddfeydd/Canolfannau Cymunedol. Ychwanegodd ymhellach fod y cyhoedd yn ymweld â lleoedd fel hyn, yn amlach nag y maent â Llyfrgelloedd a Chanolfannau Hamdden.
Dywedodd Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldebau fod copïau papur o ddigwyddiadau a materion y mae angen eu cyfleu i’r cyhoedd, h.y. ymgynghoriad ynghylch y Gyllideb (Strategaeth Ariannol Tymor Canol) yn cael eu harddangos drwy ddarparwyr y Cyngor megis Arwen (llyfrgelloedd) a Halo (canolfannau hamdden) er y gallai fod angen i’r Tîm Cyfathrebu ystyried bod yn fwy rhagweithiol a gofyn i berchnogion siopau osod hysbysiadau yn ffenestr eu siop. Pe gofynnid iddynt, byddai’n rhaid iddynt gytuno â hyn, beth bynnag, esboniodd. Roedd angen mwy o waith yn y maes hwn hefyd mewn cymunedau mwy gwledig a byddent yn edrych ar hyn ymhellach. Roedd yna, fodd bynnag, gynulleidfaoedd oedd yn cael eu targedu oherwydd materion llosg, yn enwedig y rheiny sy’n ymwneud â gwasanaethau i’r cyhoedd ac unrhyw doriadau arfaethedig yn y rhain, er enghraifft llai o gymhorthdal i fysiau, a chau toiledau cyhoeddus.
Dywedodd Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 60. |
|
Adroddiad Enwebu Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol PDF 205 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol adroddiad, a phwrpas hwn oedd gofyn i’r Pwyllgor enwebu un Aelod fel ei Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli’r Pwyllgor fel yr un i gael ei wahodd i gyfarfodydd Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.
Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau o’r llawr, ac yn dilyn hyn
PENDERFYNWYD: Enwebu’r Cynghorydd J Gebbie fel cynrychiolydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1 i eistedd ar wahoddiad ar Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.
|
|
Enwebiad i Banel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 135 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol adroddiad, a phwrpas hwn oedd gofyn i’r Pwyllgor enwebu un Aelod i eistedd ar Banel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau o’r llawr, ac yn dilyn hyn
PENDERFYNWYD: Enwebu’r Cynghorydd K Watts fel cynrychiolydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1 i eistedd fel Aelod o Banel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. |
|
Diweddariad ar y Rhaglen Waith i’r Dyfodol (RhWD) PDF 79 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar yr uchod.
Ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad A, roedd manylion yr adborth o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1 i’w ystyried a’i gymeradwyo. Roedd yr adran hon o’r adroddiad hefyd yn cynnwys rhestr o’r ymatebion gan gynnwys rhai oedd heb eu derbyn eto.
Ynghlwm yn Atodiad B i’r adroddiad, roedd Rhaglen Waith Gyffredinol y Dyfodol ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, oedd yn cynnwys y pynciau a dderbyniodd flaenoriaeth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar gyfer rownd nesaf y Pwyllgorau (yn Nhabl A), yn ogystal â phynciau y teimlid eu bod yn bwysig i gael eu blaenoriaethu yn y dyfodol yn Nhabl B. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |