Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

67.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y canlynol:-

 

Y Cynghorydd L M Waters

Y Cynghorydd S K Dendy

Y Cynghorydd R J Collins

N Echanis - Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

 

68.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd TH Beedle fuddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda - Adroddiad ALl Estyn gan mai ef yw Cadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Datganodd y Cynghorydd JP B Blundell fuddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda - Adroddiad ALl Estyn - fel llywodraethwr yn Ysgol Babanod Cefn Glas. 

 

Datganodd y Cynghorydd PA Davies fuddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda - Adroddiad ALl Estyn - fel llywodraethwr yn Ysgol Fabanod ac Iau Bryntirion. 

 

Datganodd y Parch Canon E Evans fuddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda - Adroddiad ALl Estyn - gan ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Bryntirion.

 

Datganodd y Cynghorydd J Gebbie fuddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda - Adroddiad ALl Estyn - fel llywodraethwr yn Ysgolion Cynradd Mynydd Cynffig a'r Pîl.

 

Datganodd y Cynghorydd M Jones fuddiant personol yn agenda 4 ar yr agenda - Adroddiad ALl Estyn - fel llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Betws. 

 

Datganodd y Cynghorydd B Sedgebeer fuddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda - Adroddiad ALl Estyn - fel llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Pencoed ac Ysgol Gynradd Croesty. 

 

Datganodd y Cynghorydd R Stirman fuddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda - Adroddiad ALl Estyn - fel llywodraethwr yn Ysgolion Cynradd Tynyrheol a Betws.

 

Datganodd y Cynghorydd K Watts fuddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda - Adroddiad ALl Estyn - fel llywodraethwr Ysgol Gynradd Newtown. 

 

Datganodd y Cynghorydd C Webster fuddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda 0 Adroddiad ALl Estyn gan fod ganddi blentyn mewn ysgol Uwchradd yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Datganodd y Cynghorydd A Williams fuddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda - Adroddiad ALl Estyn - fel llywodraethwr Ysgol Gyfun Pencoed.

 

Datganodd y Cynghorydd AJ Williams fuddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda - Adroddiad ALl Estyn - fel llywodraethwr Ysgol Gynradd Coety, a chan fod ganddi blentyn sy'n mynychu Ysgol Gyfun Brynteg.

 

69.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 90 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 03/06/2019

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pynciau 1, dyddiedig 3 Mehefin 2019 yn gywir.

 

70.

Arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 79 KB

Gwahoddedigion

Lindsay Harvey – Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Charles Smith – Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis – Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Andy Rothwell – Uwch Ymgynghorydd Her,Consortiwm Canolbarth y De

Andrew Williams – Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol Consortiwm Canolbarth y De

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mynegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ddiolch i'r Aelodau Craffu, ac esbonio nad oedd yn mynd i ddarllen drwy'r holl adroddiad, gan ei fod eisoes wedi'i gyflwyno i'r aelodau ym mis Mehefin. Fodd bynnag, adroddodd fod Estyn wedi cynnal yr arolygiad ym mis Mawrth 2019, o dan y Fframwaith Arolygiadau Addysg Llywodraeth Leol newydd.  Roedd Arolygwyr o Swyddfa Archwilio Cymru ac o Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhan o'r tîm o arolygwyr.  Yr oedd ystod eang o randdeiliaid wedi cymryd rhan yn yr arolygiad, gan gynnwys Aelodau etholedig, swyddogion, penaethiaid, dysgwyr ac aelodau o'r cyhoedd.  Ychwanegodd ei bod hi'n galondid gwybod bod yr gwaith yr ydym yn ei wneud yn effeithiol.  Aeth rhagddo wedyn i gadarnhau bod yr awdurdod i fod i gyflwyno'r Cynllun Gweithredu ar ôl Arolygi ar erbyn 31 Awst. Cydnabu'r mewnbwn gan y swyddogaeth Graffu er mwyn llywio'r Cynllun hwnnw, ac roedd yn awyddus i ateb unrhyw gwestiynau. Nododd y pwyllgor fod Estyn wedi cyflwyno 4 prif argymhelliad ac, ynghyd â Chonsortiwm Canolbarth y De, roeddent wedi nodi 14 ohonynt yn yr is-gynllun.

 

Holodd aelod ynghylch amseroldeb y Cynllun Gweithredu ar ôl Arolygiad, gan amlygu bod hyn yn gyfle i'r swyddogaeth graffu fod â rhan yn y cynllun hwnnw.

 

Dywedodd un o'r aelodau fod yr adroddiad yn dda, ond tynnodd sylw at y ffaith bod yr adroddiad yn nodi sefyllfaoedd lle'r oedd hi'n cymryd yn rhy hir i wella enghreifftiau o addysgu gwael.  Gofynnodd yr aelod am eglurhad ynghylch ystyr addysgu gwael, beth oedd y gwahaniaeth rhwng addysgu a oedd yn is na'r safon ac addysgu gwael, a faint o amser y dylai athro gwael ei gael cyn i hynny effeithio ar ddosbarth neu gohort. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd eu bod wedi bod yn rhagweithiol iawn, yn cynnal ymweliadau rheolaidd, ond ei bod hi'n cymryd rhai misoedd i wneud hynny. Fodd bynnag, ni ddylai dysgwyr fod o dan unrhyw anfantais, ac roedd angen trefnu cefnogaeth ar y cyfle cyntaf.  Mewn sefyllfaoedd lle rydym wedi beirniadu athrawon, nododd fod yr athrawon hynny wedi derbyn y feirniadaeth honno ac wedi gwneud cynnydd boddhaol. Gwelwyd bod yr addysgu wedi gwella, ond nad oedd amser penodedig ar gyfer gwella o reidrwydd. Roedd Uwch Gynghorydd Herio Consortiwm y Canolbarth a'r De yn ymwybodol o ddatblygiad y staff, a bod dyletswydd gofal i sicrhau cynnydd ar ôl arolygiad, ond bod angen gwneud hynny mewn modd cefnogol drwy bartneriaeth rhwng yr ALl a'r Consortiwm.

 

Holodd aelod ar ba bryd y byddai'r Consortiwm yn mynd i mewn i'r ysgol, a pha waith sy'n cael ei wneud er mwyn atal ysgolion gwyrdd rhag llithro.  Esboniodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro y Consortiwm fod ysgolion gwyrdd yn cael 4 diwrnod o gefnogaeth, ond bod hynny wedi cael ei newid i dull mwy ystwyth, fel bo modd nodi problemau ac ymdrin â hwy o'r cychwyn cyntaf. Dywedodd Uwch Gynghorydd Herio y Consortiwm ei bod hi'n bwysig cynnal taith ddysgu, a thynnodd sylw at yr enghraifft yn adroddiad Estyn lle canfuwyd bod angen  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 70.

71.

Panel Trosolwg a Chraffu Ymgysylltu ag Aelodau ac Ysgolion - Ysgol Gynradd Plasnewydd - Ymatebion pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad, a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â'r uchod.

 

Nododd y pwyllgor yr ymatebion i'r canfyddiadau a'r argymhellion, gan gydnabod y ceid craffu llawn ar yr eitem hon ym mis Hydref 2019.

 

72.

Trosolwg a Craffu - Adborth o Gyfarfodydd pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad a roddai'r newyddion diweddaraf am yr adborth o gyfarfodydd blaenorol Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pynciau 1 a gynhaliwyd ar 29 Ebrill a 3 Mehefin. 

 

Nododd y pwyllgor yr ymatebion a phennu statws CAG i'r adborth.

 

73.

Y Diweddaraf am y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu y Flaenraglen Waith a hysbysodd yr aelodau y byddai'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau ar Addysg Ôl 16 ac Ysgol Gynradd Plasnewydd yn ei ddau gyfarfod nesaf, ar ôl cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.

 

74.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Mynegodd sawl aelod bryder ynghylch amseriad cyfarfodydd. Cytunodd y Swyddog Craffu i rannu hynny â'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd. Mynegodd Cynrychiolwyr Cofrestredig eu bod yn siomedig nad oeddent wedi cael gwahoddiad i'r Cyn-gyfarfod Craffu.  Ymddiheurodd y Swyddog Craffu wrth y Cynrychiolwyr Cofrestredig am beidio â'u cynnwys yn yr e-bost a anfonwyd at yr Aelodau, a chytunodd i gadarnhau amseriad cyfarfodydd nesaf Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pynciau 1.

 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z