Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

75.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

 

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Swyddogion/Aelodau canlynol am na allent ddod i'r cyfarfod:-

 

Y Cyng. TH Beedle

Y Cyng. NA Burnett

Y Cyng. PA Davies

Y Cyng. KJ Watts

Y Cyng. J Gebbie

Y Cyng. B Sedgebeer

Y Cyng. A Williams

Y Cyng. L Walters

N Echanis

A Rothwell

76.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Datganwyd y buddiannau canlynol:-

 

Datganodd y Cyng. R Storman fuddiant personol dan Eitem 3 yr Agenda am ei fod yn Llywodraethwyr Cymunedol yn Ysgol Tynyrheol, Llangeinor.

 

Datganodd y Cyng. JP Blundell fuddiant personol dan Eitem 3 yr Agenda am ei fod yn Llywodraethwyr Cymunedol yn Ysgol y Babanod Cefn Glas, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Datganodd y Cyng. AJ Williams fuddiant personol dan Eitem 3 yr Agenda am ei fod yn Rhiant Lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Coety ac am fod ganddo fab yn Ysgol Brynteg.

 

Datganodd y Cyng. CA Webster fuddiant personol dan Eitem 3 yr Agenda am fod ganddi blentyn yn Ysgol Brynteg.

77.

Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad pdf eicon PDF 487 KB

Gwahoddedigion

 

Lindsay Harvey – Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Charles Smith – Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Nicola EchanisPennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Michelle Hatcher - Rheolwr Grwp Cynhwysiant a Gwella Ysgolion

Andy Rothwell – Uwch Ymgynghorydd Her, Consortiwm Canolbarth y De

Andrew Williams – Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol Consortiwm Canolbarth y De

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a soniai wrth Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 am ymateb drafft yr Awdurdod Lleol i'r argymhellion a bennwyd yn ystod arolygiad diweddar Estyn o wasanaeth addysg llywodraeth leol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn gefndir i hyn oll, dywedodd fod Estyn wedi cynnal arolygiad o'r gwasanaethau addysg ym mis Mawrth 2019. Cadarnhaodd fod Estyn, drwy'r broses arolygu, wedi pennu pedwar argymhelliad y bydd gofyn i'r Awdurdod Lleol ymateb iddynt, ac mae'r argymhellion hyn i'w gweld ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gofyn i'r Awdurdod Lleol gyflwyno Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad i Estyn erbyn 31 Awst 2019 a fyddai'n ceisio mynd i'r afael â'r pedwar argymhelliad ac a fyddai’n ystyried y gwendidau a nodwyd drwy'r broses arolygu.

 

Roedd yr Awdurdod Lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De wedi ystyried yr Adroddiad Arolygu, a oedd yn sail i'r Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad, yn fanwl iawn a dangoswyd hyn yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad yn manylu ar fwriadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn perthynas â phedwar prif argymhelliad Estyn, yn ogystal â chynlluniau'r Awdurdod Lleol i fynd i'r afael â'r meysydd i'w datblygu a godwyd yn yr adroddiad. Ystyriwyd bod y rhain yn gyfres o 'is-argymhellion'.

 

Dywedodd hefyd wrth y Pwyllgor na chafwyd llawer o gynnydd wrth gwrdd â'r rhan fwyaf o'r mesurau deilliant a gafwyd yng Ngherdyn Cynnydd Tymhorol y Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad. Y prif reswm dros hyn oedd y ffaith i'r Adroddiad Arolygu gael ei gyhoeddi ar 31 Mai 2019 a daeth tymor yr ysgol i ben 7 wythnos yn ddiweddarach. Felly, nid oedd modd bwrw 'mlaen â phethau yn gynt oherwydd y seibiant 6 wythnos dros wyliau'r haf. Yn ôl y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, byddai modd sicrhau gwell cynnydd yn nhymor yr hydref.

 

Daeth â'i gyflwyniad i ben drwy gadarnhau y byddai'r Swyddogion yn trefnu bod adroddiadau tymhorol ffurfiol, a fydd yn sôn am y cynnydd yn unol â'r Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad, yn cael eu hanfon at y Gr?p Gwella Ysgolion.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n fuddiol hefyd pe gellid rhannu peth o'r wybodaeth a gyflwynwyd i'r Gr?p Gwella Ysgolion, ynghyd â chanfyddiadau'r Gr?p ei hun, â'r Aelodau ar ddiwedd pob tymor ysgol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y gellid ystyried hyn mewn egwyddor.

 

Ychwanegodd mai un o nodau'r Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad oedd creu cysylltiadau agos â'r broses Trosolwg a Chraffu yn hyn o beth, yn ogystal â pharatoi adroddiadau mwy cryno i'r Pwyllgor(au) yn y dyfodol.

 

Ym marn y Cadeirydd, roedd yr Adroddiad Ôl-Arolygiad hwn yn dda a chadarnhaol iawn ar y cyfan. Roedd felly'n bwysig ei fod yn cael ei rannu â phobl megis plant, rhieni, gofalwyr, athrawon ac â phob cynulleidfa briodol ehangach arall.

 

Casgliad:

 

Roedd y cynigion a gafwyd yn y Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad mewn perthynas  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 77.

78.

Adborth yn sgil Cyfarfodydd pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheolaethol adroddiad a oedd yn cynnwys adborth yn sgil cyfarfod blaenorol Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 i'w drafod, ei gymeradwyo a gweithredu arno. Ei nod hefyd oedd rhoi statws Coch, Melyn a Gwyrdd i'r sylwadau hyn o ran y camau gweithredu dilynol, fel a ganlyn:-

 

Coch - ni chafwyd dim ymateb.

Melyn - mae'r Aelodau o'r farn bod angen gweithredu yn sgil yr argymhelliad/sylwad, e.e. mae argymhelliad wedi'i dderbyn ond byddai'n rhaid gweld ymhen amser a weithredwyd ar yr argymhelliad/sylw.

Gwyrdd - mae'r Aelodau o'r farn y cafwyd ymateb addas ac na fydd angen cymryd camau dilynol.

 

Yna, cyfeiriodd y Cadeirydd at Atodiad A yr adroddiad a roddai sylw i’r adborth a'r ymatebion i sylwadau a chasgliadau'r Pwyllgor, yn sgil argymhelliad yr Aelodau yn y cyfarfod blaenorol. Gofynnodd hefyd i'r sylwadau hyn gael statws Coch, Melyn a Gwyrdd, yn unol â'r fformiwla uchod.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adborth ac ymatebion y Swyddogion a rhoddwyd statws Coch, Melyn a Gwyrdd i'r meysydd gwaith, fel a ganlyn:

 

Argymhellion:

 

Hyfforddiant i Lywodraethwyr - Dylai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ymchwilio i gynnwys y modiwlau e-ddysgu gyda Chonsortiwm Canolbarth y De - Melyn

 

Hyfforddiant i Lywodraethwyr - Datblygu hyfforddiant ar-lein gan ddefnyddio HWB - Melyn

 

Ehangu arolygon staff y dyfodol fel eu bod yn cynnwys staff ysgolion - Coch

 

Cyflwyniad i'r Cyngor am y Rhaglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Bobl Ifanc - Coch

 

Trefnu bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc yn cwrdd i ystyried Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad Estyn - Gwyrdd

 

Tabl gwybodaeth sy'n dangos y disgyblion hynny sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig - Gwyrdd

 

 

Daethpwyd â'r cyfarfod i ben am 13:02

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z