Agenda a Chofnodion

(Budget), Pwyllgor Craffu Testun 1 - Dydd Mawrth, 21ain Ionawr, 2020 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Julie Ellams  Democratic Services Officer

Eitemau
Rhif Eitem

89.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Eitem 4, Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24

 

Datganodd y Cyng. T Beedle fuddiant personol yn yr eitem hon oherwydd ei fod yn Gadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Datganodd y Cyng. JP Blundell fuddiant personol yn yr eitem hon gan ei fod yn llywodraethwr cymunedol Ysgol Babanod Cefn Glas.

 

Datganodd y Cyng. P Davies fuddiant personol yn yr eitem hon gan ei bod yn llywodraethwr yn Ysgol Babanod ac Iau Bryntirion.

 

Datganodd y Parch. Ganon Edward Evans fuddiant personol yn yr eitem hon am ei fod yn llywodraethwr cymunedol ym Mryntirion.

 

Datganodd y Cyng. T Giffard fuddiant personol yn yr eitem hon oherwydd ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Tre-maen.

 

Datganodd y Cyng. M Jones fuddiant personol yn yr eitem hon oherwydd ei fod yn Is-gadeirydd Ysgol Gynradd Betws.

 

Datganodd y Cyng. K Rowlands fuddiant personol yn yr eitem hon oherwydd bod ei mab mewn prentisiaeth yn Adran Addysg CBS Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Datganodd y Cyng. R Stirman fuddiant personol yn yr eitem hon gan ei bod yn llywodraethwr nid-AALl yn Ysgol Gynradd Ty’nyrheol ac yn llywodraethwr ysgol ALl yn Ysgol Gynradd Betws.

 

Datganodd y Cyng. AJ Williams ddiddordeb personol yn yr eitem hon gan ei bod yn rhiant-lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Coety.

 

Datganodd y Cyng. P White fuddiant personol am ei fod yn llywodraethwr Ysgol Gyfun Maesteg ac Ysgol Gynradd Nantyfyllon.

 

90.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 82 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 09 10 19 a 30 10 19

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelodau'n ystyried cofnodion cyfarfodydd 9 Hydref 2019 a 30 Hydref 2019.

 

9 Hydref 2019 – Dywedodd y Cyng. Beedle na chofnodwyd ei bryderon ynghylch dilysrwydd hyfforddiant i lywodraethwyr ac aelodau AALl yn methu â mynychu cyfarfodydd a'u diffyg cyfranogiad. Roedd Cadeirydd y Llywodraethwyr wedi cyflwyno archwiliad sgiliau ac nid oedd hynny yn cofnodion ychwaith. 

 

30 Hydref 2019 – Dywedodd y Cyng. Giffard ei fod wedi datgan buddiant personol yn yr eitem "Adolygiad o Ddarpariaeth Addysg Ôl-16 ledled Pen-y-bont ar Ogwr" am ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Tre-maen, ond na chofnodwyd hynny.

 

Dywedodd y Parch. Ganon Edward Evans na fu modd iddo ddod i gyfarfod 30 Hydref 2019 felly roedd wedi anfon cyfres o gwestiynau i'w gofyn yn ei absenoldeb. Nid oedd cyfeiriad at ei gwestiynau yn y cofnodion. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i ymchwilio i hyn.

 

PENDERFYNWYD      Y cymeradwyir Cofnodion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc dyddiedig 9 Hydref 2019 a 30 Hydref 2019 yn gofnod cywir yn amodol ar y cywiriadau a nodir uchod.   

91.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24 pdf eicon PDF 299 KB

Gwahoddedigion

 

Lindsay Harvey – Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Nicola EchanisPennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

Joanne Norman, Rheolwr Grwp Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllidebau dros do

Victoria Adams, Rheolwr CyllidRheoli Cyllidebau: Cymunedau, Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Hannah Castle, Prifathro, Ysgol Gyfun Cynffig - Cadeirydd Fforwm Cyllideb Ysgolion

Neil Clode, Prifathro, Ysgol Gynradd Llangewydd - Is-gadeirydd Fforwm Cyllideb Ysgolion

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Strategaeth Ddrafft Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24 gan Reolwr y Gr?p Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllidebau. Mae’r strategaeth yn cyflwyno blaenoriaethau gwario'r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllideb sydd wedi'u targedu ar gyfer yr arbedion angenrheidiol.

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllidebau fod cyllidebau ysgolion wedi'u diogelu unwaith eto rhag y targed effeithlonrwydd o 1% yn 2020-21 ar ôl cael setliad dros dro gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal, roedd y SATC drafft yn cynnwys cyllid ar gyfer sawl agwedd o gyllideb y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd y mae cryn bwysau arnynt, gan gynnwys cyllid i ysgolion.

 

Cyfeiriodd aelod at y toriad o 10% i'r cyfraniad i Gonsortiwm Canolbarth y De (CCD) a gofynnodd pa mor gynaliadwy oedd hyn o gofio bod toriadau tebyg wedi'u gwneud dros y tair blynedd diwethaf. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod arbedion o 17.5% wedi'u gwneud dros y 5 mlynedd diwethaf ac roedd hyn yn anodd i CCD. Er mwyn lleihau gorbenion, roedd CCD wedi symud i safle newydd ac roeddent yn canolbwyntio ar gynnal gwasanaethau rheng flaen gan leihau staff ystafell gefn ar yr un pryd. Cytunodd Penaethiaid Ysgol Gyfun Cynffig ac Ysgol Gynradd Llangewydd nad oeddent wedi gweld unrhyw newid hyd yma o ran sawl gwaith yr oedd y Cynghorwr Her yn ymweld na chwaith i’r gweithdai a’r cynadleddau a gynhaliwyd. Gofynnodd aelod a oedd pob awdurdod yn gwneud toriadau tebyg. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y cytunai’r Cydbwyllgor ar yr un gostyngiad yn gyffredinol a mynegodd y byddai’r gostyngiad terfynol tebygol yn llai na 10%. 

 

Gofynnodd aelod a fu toriadau o fewn y Gyfarwyddiaeth neu ai’r ysgolion a welodd y toriadau llymaf. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y bu toriadau sylweddol i staff dros y 5 mlynedd diwethaf ac y gwnaed arbedion sylweddol o ran rheoli swyddi gwag.

 

Cyfeiriodd aelod at Egwyddorion SATC ac yn arbennig at y dull "Un Cyngor". Credai nad oedd adrannau'n siarad â'i gilydd a rhoddodd enghraifft o gludiant o'r cartref i'r ysgol a llwybrau diogel i'r ysgol. Darparwyd cludiant am ddim i'r ysgol i blant yng Nghoety a oedd yn byw'n agos i'r ysgol ond na allent gerdded am nad oedd llwybr diogel.

Dywedodd yr aelod na fu unrhyw gydgynllunio a bod ei hawgrym i godi estyniad ar dir sy'n ffinio ag ysgol sydd â gormod o blant ynddi, yn hytrach nag adeiladu ysgol newydd, wedi'i wrthod oherwydd cost adeiladu wal gynnal. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y bu llawer o sgyrsiau yngl?n â'r heriau cysylltiedig â llwybrau cerdded diogel. Roedd yn rhaid iddynt ddilyn canllawiau LlC ac roedd rhai achosion yn haws i'w datrys nag eraill. Ymdriniodd y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ag ysgolion ac estyniadau newydd ac yn aml roedd blaenoriaethau'n cystadlu â'i gilydd. Argymhellodd yr Aelodau y dylid cael agwedd “Un Cyngor”, gyda swyddogion Addysg, Cynllunio a Chyllid yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 91.

92.

Y Diweddaraf am y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Flaenraglen Waith. Esboniodd y byddai PTChP1 yn derbyn yr adroddiad Canlyniadau Addysg ar 5 Chwefror 2020 a Theithio gan Ddysgwyr ar 9 Mawrth 2020. Gofynnodd yr Aelodau a ellid gwahodd myfyrwyr a'r Maer Ieuenctid neu gydweithwyr ac a ellid darlledu'r cyfarfod ar y we. Awgrymodd aelod y dylid cynnal y cyfarfod yn un o'r ysgolion cyfun a newid yr amser dechrau i 3 pm er mwyn y disgyblion. Dywedodd aelod arall y byddai ganddo broblemau gofal plant ar yr amser hwnnw a gallai hyn fod yn broblem i aelodau eraill o'r pwyllgor hefyd. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd pe cynhelid y cyfarfod mewn ysgol, na ellid darlledu'r cyfarfod ar y we a chytunodd i ymchwilio i'r dewis hwn.

93.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim