Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 1 - Dydd Llun, 15fed Mawrth, 2021 14:30

Lleoliad: o bell trwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanauthau Democrattaidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

 

Cofnodion:

Y CYNGHORWYR: SE Baldwin; M Jones;  B Sedgebeer;

L Morris, Cynrychiolydd Cofrestredig – Sector Ysgolion Uwchradd.

19.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd JPD Blundell fuddiant personol yn eitem 4 oherwydd ei fod yn Llywodraethwr Cymunedol yn Ysgol Babanod Cefn Glas.

 

Datganodd y Cynghorydd TH Beedle fuddiant personol yn eitem 4 am ei fod yn Gadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Datganodd y Parch. Ganon E Evans, Cynrychiolydd Cofrestredig yr Eglwys yng Nghymru, fuddiant personol yn eitem 4 oherwydd ei fod yn Llywodraethwr Cymunedol yn Ysgol Gyfun Bryntirion.

 

Datganodd y Cynghorydd RJ Collins fuddiant personol yn eitem 4 oherwydd ei fod yn Llywodraethwr Cymunedol yn Ysgol Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig.

 

Datganodd y Cynghorydd SK Dendy fuddiant personol yn eitem 4 am ei bod yn Llywodraethwr Cymunedol yn Ysgol Gynradd Blaengarw.

 

Datganodd y Cynghorydd AJ Williams fuddiant personol yn eitem 4 am fod ganddi 2 o blant mewn Ysgolion Uwchradd ac 1 mewn Ysgol Gynradd o fewn y Fwrdeistref Sirol oedd i gyd yn ymgymryd â dysgu cyfunol.

20.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 108 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 07/12/20

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:            Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1, dyddiedig 7 Rhagfyr 2020, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

21.

Dysgu Cyfunol yn Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr ers mis Mawrth 2020 pdf eicon PDF 99 KB

Gwahoddwyr:

 

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Cynghorydd Charles Smith - Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis - Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

Michelle Hatcher - Rheolwr Grwp Cynhwysiant a Gwella Ysgolion

Sue Roberts - Rheolwr Grwp Gwella Ysgolion

Howard Lazarus - Rheolwr Cymorth a'r Swyddfa Ddigidol

 

Clara Seery - Rheolwr Gyfarwyddwr - Consortiwm Canolbarth y De

Andrew Williams - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaeth a Gwella - Consortiwm Canolbarth y De

Natalie Gould - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cwricwlwm - Consortiwm Canolbarth y De

Andy Rothwell - Prif Bartner Gwella - Consortiwm Canolbarth y De

 

Francis Clegg – Prifathro, Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath - Cynrychiolydd Cymdeithas Penaethiaid Pen-y-bont ar Ogwr

Ryan Davies - Prifathro, Ysgol Brynteg - Cynrychiolydd Cymdeithas Penaethiaid Pen-y-bont ar Ogwr

Kath John - Prifathro, Ysgol Gynradd Brackla - Cadeirydd Ffederasiwn Cynradd Pen-y-bont ar Ogwr

Jeremy Phillips - Prifathro, Ysgol Gynradd Litchard - Cynrychiolydd Ysgol Gynradd

Neil Pryce - Prifathro, Ysgol Gynradd Y Pîl - Cadeirydd Grwp Strategaeth TGCh Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr

Cynghorwyr Disgyblion Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Bartner ar gyfer Gwella - Consortiwm Canolbarth y De (CCD), Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer y Cwricwlwm – CCD, Rheolwr Gr?p ar gyfer Gwella Ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y Cyngor) a Rheolwr Swyddfa Cefnogaeth a Digidol y Cyngor gyflwyniad PowerPoint yn rhoi trosolwg ar yr adroddiad ar Ddysgu Cyfunol yn ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr ers mis Mawrth 2020.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am y cyflwyniad. Gofynnodd yr Aelodau’r cwestiynau canlynol:

 

Diolchodd Aelod i holl staff y rheng flaen, a rhoddodd adborth oddi wrth rieni a gofalwyr yn ei etholaeth oedd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn dweud bod athrawon wedi bod yn anhygoel o gefnogol, yn ogystal ag adborth ardderchog ynghylch y defnydd o’r Hwb ac Ystafell Ddosbarth Google. Y brif thema o’r adborth a dderbyniwyd oedd ei bod yn ymddangos bod yna raddau o anghysondeb rhwng yr hyn yr oedd ysgolion yn ei ddarparu drwy gyfrwng dysgu rhithiol ac eraill yn cynnig taflenni gwaith neu fideos oedd wedi cael eu cofnodi ymlaen llaw, tra roedd yn well gan y rhieni wersi byw. Teimlai fod hyn yn arbennig o wir ar gyfer y rheiny oedd yn llai galluog gyda rhai rhieni yn dweud y gallai hyn, mewn rhai achosion, fod yn eithaf unig a digalon. Gofynnodd i’r Swyddogion am eu sylwadau a sut y gellid newid y dull i gymryd hyn i ystyriaeth. Gofynnodd hefyd sut yr oedd y dull ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gwahaniaethu oddi wrth rannau eraill o Gymru.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p (Cefnogi Ysgolion) ei bod yn falch i glywed am yr adborth cadarnhaol ac eglurodd fod safbwyntiau cymysg wedi bod ynghylch ffrydio byw. Roedd athrawon hefyd wedi bod yn addysgu, weithiau gyda’u plant eu hunain gartref tra’n cyflwyno gwersi, oedd yn her. Roedd dysgu’n mynd ymlaen yn barhaus, a bu newidiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth i ymarfer gael ei fireinio, ac felly roedd hi’n sicr yn ymwybodol o’r anghysondeb, oedd yn faes targed ar gyfer gwella. Cawsai llawer o athrawon eu huwchsgilio yn gyflym i gyflwyno gwersi yn y ffordd yma ac roedd hwn yn faes cwbl newydd i lawer ohonynt.

 

Dywedodd Prif Bartner ar gyfer Gwella CCD, ei fod ef wedi gwrando ar lawer o ysgolion ar draws y rhanbarth yn siarad am eu dull o gyflwyno dysgu cyfunol, a’i fod mor arbennig i’w gyd-destun. Nid oedd cymhariaeth o angenrheidrwydd rhwng Pen-y-bont ar Ogwr ac awdurdodau lleol eraill. Roedd yr hyn yr oedd un ysgol yn ei wneud yn aml yn wahanol iawn i un arall oherwydd ei fod mor lleol a hyn oedd yr arweiniad a roddwyd i’r ysgolion, ynghylch cwrdd ag anghenion y dysgwyr, sef y peth allweddol.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer y Cwricwlwm CCD nad oedd data ar gael ar hyn o bryd ond bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi comisiynu ymchwil, y gobeithiai hi fyddai ar gael yn fuan. Roedd y map ffordd yn seiliedig ar wneud penderfyniadau ar bob lefel i ysgolion ac ar bwynt mewn amser, sef  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 21.

22.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim