Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 1 - Dydd Llun, 14eg Mehefin, 2021 09:30

Lleoliad: o bell - trwy Dimau Microsoft

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

23.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim

24.

Adroddiad Enwebu Pencampwr Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio adroddiad, gyda’r pwrpas o ofyn i’r Pwyllgor i enwebu un Aelod fel ei Bencampwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli’r Pwyllgor fel un fyddai'n cael ei g/wahodd i gyfarfodydd Rhianta Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet.

 

Gwahoddwyd enwebiadau gan y Cadeirydd, ac yn dilyn hynny

 

PENDERFYNWYD:                        Y dylid enwebu’r Y Cynghorydd J Gebbie i gynrychioli’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 1 fel un gwahoddedig i gyfarfodydd Rhiant Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet.

25.

Enwebiad i Banel Craffu Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio adroddiad, gyda’r pwrpas o ofyn i’r Pwyllgor i enwebu un Aelod i eistedd ar Banel Craffu Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Gwahoddwyd enwebiadau gan y Cadeirydd, ac yn dilyn hynny

 

PENDERFYNWYD:                        Y dylid enwebu’r Y Cynghorydd SK Dendy i gynrychioli’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 1 fel un gwahoddedig i gyfarfodydd Panel Craffu Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus.

26.

Diweddariad ar y Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch-swyddog Gwasanaethau Democrataidd amlinelliad drafft arfaethedig y Blaenraglen Waith (BRW) (Atodiad A) i’r pwyllgor i’w drafod a’i ystyried, gan ofyn i unrhyw wybodaeth benodol a nodir gan y Pwyllgor gan ei chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys gwahoddedigion maen nhw’n dymuno iddyn nhw fynychu, gofyn i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i’w hystyried ar y Blaenraglen Waith gyda golwg ar y meini prawf dewis ym mharagraff 4.6 a gofyn i’r Pwyllgor i nodi y byddai adroddiad ar ddrafft arfaethedig y Blaenrhaglenni Gwaith ar gyfer y Pwyllgor yng nghyfarfod nesaf COSC, gyda sylwadau gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun priodol, yn dilyn ystyriaeth yn eu Cyfarfodydd ym mis Mehefin.

 

Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad a’r drafodaeth, cynigiodd Aelodau’r Pwyllgor y dylid ychwanegu’r eitem ganlynol i’r BRW:

 

  • Sut y deliodd ysgolion â’r pandemig (yn gynnar y flwyddyn nesaf)

Gofynnodd yr Aelodau hefyd i wahoddedigion a fyddai’n mynychu’r cyfarfod nesaf ar gyfer yr adroddiad ar Anghenion Dysgu Ychwanegol i gynnwys:

  • Athro Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) profiadol / cydlynwyr ADY mewn Ysgol Gynradd ac Ysgol Uwchradd.
  • Cynrychiolwyr o blith penaethiaid ysgolion Uwchradd a Chynradd gyda gwybodaeth am ADY ledled y Fwrdeistref Sirol.

Yn ychwanegol, gwnaeth yr Aelodau gais am y canlynol:

  • Gwybodaeth ynghylch rhestr ysgolion Croeso i Bawb o fewn y Fwrdeistref Sirol. 
  • Sicrwydd ynghylch gweithdrefnau diogelu Corfforaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
  • Ystadegau ar gyfer atgyfeiriadau Amddiffyn Plant gan Ysgolion.
  • Y dylid rhoi ystyriaeth i ymgynghori ag Ysgolion ynghylch testunau posib i’w craffu.
  • Y dylid dosbarthu Cofnodion dau gyfarfod diwethaf y Pwyllgor Craffu pryd y rhoddwyd ystyriaeth i Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), ymysg Aelodau fel cefndir i’r adroddiad ar ADY ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 5 Gorffennaf.

 

PENDERFYNWYD:          Bod y Pwyllgor yn ystyried a chytuno ar amlinelliad drafft arfaethedig y Blaenraglen Waith yn Atodiad A, yn ddarostyngedig i’r uchod a nodwyd y ceir adroddiad ar y Blaenraglen Waith ac unrhyw ddiweddariad gan y Pwyllgor yng nghyfarfod nesaf y COSC. 

 

27.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim