Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: o bell - trwy Dimau Microsoft

Cyswllt: Gwasanaethau Democrattaid 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd TH Beedle fuddiant personol yn eitem 4 gan mai ef yw Cadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd JP Blundell fuddiant personol yn eitem 4 gan ei fod yn Llywodraethwr Cymunedol Ysgol Fabanod Cefn Glas.

 

30.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 129 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15 03 21

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Cymeradwyo bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1, dyddiedig 15 Mawrth 2021, yn gywir.

 

31.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ALNET) 2018 pdf eicon PDF 100 KB

Gwahoddwyr:

 

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Cynghorydd Charles Smith - Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis - Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

Michelle Hatcher - Rheolwr Grwp Cynhwysiant a Gwella Ysgolion

Kate Clarke - Swyddog Arweiniol Tim Cyfathrebu a Pherthnasoedd.

Rachel Garner - Arweinydd ADY Blynyddoed Cynnar, Gwybyddiaeth a Dysgu a NMMC

Kathryn Morgan - Prif Seicolegydd Addysgol

 

John Welch - Arweinydd Strategol ar gyfer Tegwch a Lles - Consortiwm Canolbarth y De

 

Francis Clegg - Prifathro dros dro, Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath

Ryan Davies - Prifathro, Ysgol Brynteg

Christopher Jones - Prifathro, Ysgol Gynradd Llangynwyd

Helen Jones - Headteacher, Ysgol Maesteg

Jonathan Lewis - Prifathro, Ysgol Gynradd Coety

Rhea Quinn - Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, Ysgol Gynradd Blaengarw

Kate Sparkes - Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, Ysgol Gyfun Maesteg

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dechreuodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd drwy esbonio fod Swyddogion arbenigol o'r Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr yn bresennol, ac y byddent yn tywys yr Aelodau drwy'r adroddiad ac ar gael i ateb unrhyw gwestiynau. Mynegodd ddiolch i'r holl gydweithwyr ysgol a oedd wedi ymuno â'r cyfarfod, a rhoi o'u hamser i fod yn bresennol yn y cyfarfod pwysig hwn. Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr a aeth ati i gyflwyno’r adroddiad.

 

Ar ôl derbyn cyflwyniad am yr adroddiad, gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor y cwestiynau canlynol:

 

Gofynnodd Aelod beth fyddai'r problemau, y manteision a'r anfanteision posibl ym marn y gweithwyr proffesiynol a'r ymarferwyr, a gofynnodd hefyd a oedd digon o gyllid wedi'i neilltuo, ac a fyddai'r dyraniad yn parhau i fod yn ddigonol.

 

Dywedodd y Cydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY), Ysgol Gynradd Blaengarw, ein bod mewn cyfnod o newid mawr, a bod yr Awdurdod wedi bod yn paratoi'n dda ar ei gyfer. Roedd wedi bod yn gyfnod heriol ar lefel yr ysgolion, gyda mwy o gwestiynau, a phryderon, gan rieni ynghylch penderfyniadau a oedd plant yn bodloni'r meini prawf ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ai peidio, yn ôl y diffiniad newydd. Roedd cynllun ar waith i ymdrin â hyn, a phenderfyniadau wedi'u cyfiawnhau'n seiliedig ar y broses lem a oedd ar waith. Roedd llawer o gyfrifoldeb wedi cael ei ddychwelyd i'r athrawon dosbarth, ac roedd hynny'n golygu bod angen newid meddylfryd. Roedd angen edrych ar Gynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) ar gyfer plant yr oedd angen eu monitro o hyd, a fyddai o bosib wedi'u nodi'n blant ag ADY cyn hynny, gan fod ganddynt anghenion o hyd i'w bodloni ar lefel yr ysgol. Cafwyd manteision enfawr, gyda chydweithio a fforymau awdurdod lleol, ac roedd hi'n bwysig sicrhau bod gan rieni yr holl wybodaeth sydd ar gael.

 

Ailbwysleisiodd y Cydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY), Ysgol Maesteg, yr hyn a ddywedwyd, sef fod hyn yn ddatblygiad cwbl gadarnhaol. Byddai pobl ifanc yn cael eu diogelu tan iddynt droi'n 25 oed, gan symud dosbarthiad ADY i'r byd gwaith. O safbwynt ysgol uwchradd, roedd hyn yn golygu sicrhau bod y bobl gywir yn deall eu rôl, gydag addysgeg wrth wraidd ADY, a lefel briodol o ddysgu ac addysgu. Roedd y clwstwr wedi bod yn gweithio i fireinio llwybrau cyfeirio a llwybrau cyfathrebu, gyda chefnogaeth gan yr Awdurdod Lleol, i sicrhau bod ysgolion yn gwybod sut i gael y gefnogaeth angenrheidiol. Un agwedd a oedd yn destun pryder oedd y gallai'r niferoedd ar y gofrestr ADY ostwng o fwy na 200 i 30, gyda disgyblion a oedd wedi'u pennu'n ddisgyblion ag ADY ar 31 Awst heb fod yn bodloni meini prawf y diffiniad mwyach. Roedd hi felly'n bwysig i'r bobl gywir fod â'r wybodaeth gywir ynghylch sut i gefnogi'r dysgwyr hynny, gan olygu newid meddylfryd. Roedd y canllawiau'n glir ynghylch sicrhau bod staff addysgu yn ymwybodol o'r disgwyliadau a sut i gyfleu hynny.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw gydweithio yn digwydd y tu allan i'r consortia.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 31.

32.

Y Diweddaraf am y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau pellach wedi'u nodi i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith, o roi sylw i'r meini prawf dethol ym mharagraff 4.3, a gellid ailedrych ar hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

Ni chafwyd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn nodi y byddai'r Flaenraglen Waith ac unrhyw ddiweddariadau gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd gerbron cyfarfod nesaf COSC, ac yn nodi'r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion yn Atodiad B.

33.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z