Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O Bell trwy Timau Microsoft

Cyswllt: Gwasannaethau Democratiaid 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

35.

Datganiadau o Fudd

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd T Beedle ddatganiad o fudd personol yn eitem 4 fel Cadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Gwnaeth y Cynghorydd JP Blundell ddatganiad o fudd personol yn eitem 4 fel Llywodraethwyr Cymunedol yn Ysgol Fabanod Cefn Glas.

 

Gwnaeth y Cynghorydd J Gebbie ddatganiad o fudd personol yn eitem 4 fel Llywodraethwr ALl Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig ac Ysgol Gynradd Pîl.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Cheryl Green ddatganiad o fudd personol yn eitem 4 fel Llywodraethwr ALl Ysgol Gyfun Bryntirion ac Ysgol Gynradd Trelales.

 

Gwnaeth Lyndsey Morris, Cynrychiolydd Cofrestredig, Sector Ysgolion Uwchradd, ddatganiad o fudd personol yn eitem 4 fel Rhiant-Lywodraethwr Ysgol Maesteg.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Tim Thomas ddatganiad o fudd personol yn eitem 4 fel Llywodraethwr ALl Ysgol Gynradd Brynmenyn a Choleg Cymunedol y Dderwen.

36.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 193 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 14/06/2021

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1 a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2021 fel cofnod gwir a chywir.

37.

Sut mae Consortiwm Canolbarth y De yn Helpu Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 163 KB

Gwahoddwyr:

 

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Cynghorydd Charles Smith - Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis - Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

Sue Roberts - Rheolwr Gr?p Gwella Ysgolion

 

Clara Seery - Rheolwr Gyfarwyddwr - Consortiwm Canolbarth y De

Andrew Williams - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaeth a Gwella - Consortiwm Canolbarth y De

Andy Rothwell - Prif Bartner Gwella - Consortiwm Canolbarth y De

 

Hannah Castle - PrifathroYsgol Gyfun Cynffig - Cadeirydd Fforwm Cyllideb Ysgolion

Kath John - Prifathro, Ysgol Gynradd Brackla - Cadeirydd Ffederasiwn Cynradd Pen-y-bont ar Ogwr

Jeremy Phillips - Prifathro, Ysgol Gynradd Litchard - Cynrychiolydd Ysgol Gynradd

Helen RidoutPrifathro, Ysgol Bryn Castell

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd Rheolwr Gyfarwyddwr, Consortiwm Canolbarth y De (CCD) i'r pwyllgor am y gwahoddiad i ddod i siarad am y gwaith roedden nhw wedi bod yn ei wneud ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Gan amlinellu rhywfaint o'r adroddiad, eglurodd eu bod wedi bod yn gweithio yng nghyd-destun pandemig byd-eang ac y bu'n flwyddyn anodd iawn i bawb, yn enwedig Penaethiaid. Bu newidiadau sylweddol ym meysydd atebolrwydd a pharhawyd i atal categoreiddio a oedd wedi rhoi'r rhyddid iddyn nhw weithio'n wahanol gydag ysgolion. Y nod oedd grymuso ysgolion i wella deilliannau ar gyfer pob dysgwr, drwy weithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol i ddarparu cymorth pwrpasol i’r holl ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydden nhw’n parhau i gefnogi a herio arweinwyr ysgolion fel bod modd iddyn nhw ddangos cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau gwella ysgolion, fodd bynnag, byddai hyn yn cael ei wneud yng nghyd-destun pandemig byd-eang a’r ansicrwydd sy’n dod yn ei sgil. Roedd ffocws sylweddol ar les a sicrhau bod y staff mewn ysgolion wedi'u harfogi i allu rheoli'r heriau roedden nhw’n yn eu hwynebu. Byddai eu partneriaid gwella yn broceru ansawdd, gan sicrhau’r cymorth a oedd yn mynd i mewn i ysgolion i wneud yn si?r ei fod yn effeithiol ac yn addas i’r diben. Ar ôl cyflwyno'r adroddiad, gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor y cwestiynau hyn.

 

Disgrifiodd Aelod yr adroddiad fel un cadarnhaol iawn ond roedd ganddo bryderon am yr her o recriwtio athrawon Cymraeg eu hiaith.

 

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr, CCD ei fod yn bryder mawr, a bod ganddyn nhw gr?p rhanbarthol a oedd yn cydweithio ar draws y pum awdurdod lleol i drafod y materion hynny. Roedd recriwtio yn her, gyda’r nifer sy’n hyfforddi fel athrawon, a bod ychwanegu'r haen cyfrwng Cymraeg  yn ei gwneud yn fwy o her fyth. Roedd cadw pobl hefyd yn fater o bwys, ond roedd yn rhywbeth oedd yn cael ei godi gyda Llywodraeth Cymru (LlC) ar bob cyfle. Roedd rhaglen hyfforddi athrawon o fewn y sector cyfrwng Cymraeg, roedd yr holl hyfforddiant yn cael ei gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ond ar hyn o bryd roedd angen dod o hyd i’r athrawon hynny a’u cael i mewn i’r system. Roedd CCD mewn trafodaethau gyda sefydliadau hyfforddiant cychwynnol athrawon a sut y gallen nhw weithio ar y lefel honno, ond nid oedd yn ateb cyflym, ond roedd yn bendant yn cael ei drafod.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio mai un o'r pethau oedd yn bwysig iddo oedd yr angen am hyfforddiant ac adnoddau sy'n seiliedig ar bynciau. Roedd wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn ei fywyd proffesiynol, fel hyfforddwr athrawon cychwynnol ac roedd yn  gwerthfawrogi’r anawsterau gyda chael ôl-raddedigion i ymddiddori mewn cyflwyno eu pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd yn bwysig siarad â sefydliadau hyfforddi athrawon i wneud yn si?r bod cymhellion i addysgu eu pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel Consortiwm ac fel Awdurdod Addysg a gr?p o ysgolion, roedd angen iddyn nhw ystyried ac annog myfyrwyr i ddod i wneud eu hymarfer dysgu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 37.

38.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 316 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Ni nodwyd unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith o ystyried y meini prawf dethol ym mharagraff 4.3, a gellid ailystyried hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

Ni chafwyd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD:          Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn nodi y byddai’r Flaenraglen Waith ac unrhyw ddiweddariadau gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i gyfarfod nesaf COSC a nodi’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion yn Atodiad B.

 

39.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z