Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

57.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd PA Davies

58.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cadeirydd ddatgan buddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda, am fod aelod o’r teulu’n contractio ar gyfer y Fwrdeistref Sirol ym maes Marchnata.

59.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 74 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 29/04/19

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:        Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1, dyddiedig, 29 Ebrill 2019, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

60.

Cyfathrebu ac Ymgysylltu pdf eicon PDF 135 KB

Gwahoddedigion:

 

Mark Shephard – Prif Weithredwr

Cynghorydd Dhanisha Patel – Aled Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

Martin Morgans - PennaethGwasanaeth - Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth

Phil O’Brien – Rheolwr GrwpTrawsnewid a Gwasanaethau a Cwsmer

Nicola Bunston – Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb

Liam Ronan – Rheolwr Cyfathrebu

Natalie Morris - Swyddog CymorthCyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cychwynnodd y Cadeirydd y trafodion drwy groesawu’r Gwahoddedigion a gwnaed y cyflwyniadau angenrheidiol.

 

Dechreuodd y Prif Weithredwr drwy roi amlinelliad o’r adroddiad, a bwriad hwn oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar waith y Tîm Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu am y cyfnod 2018/19.

 

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod wedyn i gwestiynau i’r Gwahoddedigion gan yr Aelodau.

 

Teimlai Aelod fod angen lledaenu gwaith Cyfathrebu a Marchnata ac yn y blaen i bob lefel gan gynnwys ei raeadru i lawr i sefydliadau megis Cynghorau Tref a Chymuned, lle y gellir gosod gwybodaeth am ddigwyddiadau ar Hysbysfyrddau a hyd yn oed mewn ffenestri siopau. Ystyriai ef ei bod yn bwysig lledaenu cyhoeddiadau, megis cyfarfodydd Galw-i-mewn Trosolwg a Chraffu sy’n cael eu trefnu ar fyr rybudd, mor eang ag sydd modd. Deallai nad oedd yna un ateb oedd yn addas ar gyfer pawb; fodd bynnag, teimlai nad oedd pawb yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig rhai o’r bobl hynaf mewn cymdeithas.

 

Ychwanegodd Aelod at hyn, drwy ddweud y dylid defnyddio Ysgolion hefyd fel dull o gyfleu i’r cyhoedd y digwyddiadau pwysig sy’n cael eu cynnal, h.y. mewn bwletinau i rieni.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei fod ef yn cytuno ag awgrymiadau o’r math yma.

 

Cadarnhaodd Aelod y gellid rhoi ystyriaeth hefyd i rannu gwybodaeth gyda phobl oedrannus mewn cartrefi preswyl a llety gwarchod, ac efallai ar gyfer cyrsiau dysgu a datblygu sy’n cael eu cyflwyno mewn Canolfannau Cyswllt a/neu Ganolfannau Cymunedol. Byddai hyn o gymorth i’r Cyngor am fod mwy o’r cyhoedd yn cysylltu ag ef yn ddigidol nag sydd drwy lythyr.

 

Dywedodd Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth fod swm sylweddol o wybodaeth o fath Cyfathrebu yn cael ei sianelu drwy Banel y Dinasyddion, a bod nifer o'r bobl sydd ar y panel hwn yn bobl h?n.

 

Ychwanegodd Aelod y dylid defnyddio siopau lleol a swyddfeydd post i arddangos hysbysiadau ynghylch digwyddiadau sydd i ddod ac, fel y soniwyd yn gynharach, dylid anfon llenyddiaeth i Glercod Cynghorau Tref a Chymuned i’w harddangos yn eu swyddfeydd/Canolfannau Cymunedol. Ychwanegodd ymhellach fod y cyhoedd yn ymweld â lleoedd fel hyn, yn amlach nag y maent â Llyfrgelloedd a Chanolfannau Hamdden.

 

Dywedodd Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldebau fod copïau papur o ddigwyddiadau a materion y mae angen eu cyfleu i’r cyhoedd, h.y. ymgynghoriad ynghylch y Gyllideb (Strategaeth Ariannol Tymor Canol) yn cael eu harddangos drwy ddarparwyr y Cyngor megis Arwen (llyfrgelloedd) a Halo (canolfannau hamdden) er y gallai fod angen i’r Tîm Cyfathrebu ystyried bod yn fwy rhagweithiol a gofyn i berchnogion siopau osod hysbysiadau yn ffenestr eu siop. Pe gofynnid iddynt, byddai’n rhaid iddynt gytuno  â hyn, beth bynnag, esboniodd. Roedd angen mwy o waith yn y maes hwn hefyd mewn cymunedau mwy gwledig a byddent yn edrych  ar hyn ymhellach. Roedd yna, fodd bynnag, gynulleidfaoedd oedd yn cael eu targedu oherwydd materion llosg, yn enwedig y rheiny sy’n ymwneud â gwasanaethau i’r cyhoedd ac unrhyw doriadau arfaethedig yn y rhain, er enghraifft llai o gymhorthdal i fysiau, a chau toiledau cyhoeddus.

 

Dywedodd Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 60.

61.

Adroddiad Enwebu Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 205 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol adroddiad, a phwrpas hwn oedd gofyn i’r Pwyllgor enwebu un Aelod fel ei Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli’r Pwyllgor fel yr un i gael ei wahodd i gyfarfodydd Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau o’r llawr, ac yn dilyn hyn

 

PENDERFYNWYD:       Enwebu’r Cynghorydd J Gebbie fel cynrychiolydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1 i eistedd ar wahoddiad ar Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.

 

62.

Enwebiad i Banel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 135 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol adroddiad, a phwrpas hwn oedd gofyn i’r Pwyllgor enwebu un Aelod i eistedd ar Banel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau o’r llawr, ac yn dilyn hyn

 

PENDERFYNWYD:       Enwebu’r Cynghorydd K Watts fel cynrychiolydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1 i eistedd fel Aelod o Banel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

63.

Diweddariad ar y Rhaglen Waith i’r Dyfodol (RhWD) pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar yr uchod.

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad A, roedd manylion yr adborth o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1 i’w ystyried a’i gymeradwyo. Roedd yr adran hon o’r adroddiad hefyd yn cynnwys rhestr o’r ymatebion gan gynnwys rhai oedd heb eu derbyn eto.

 

Ynghlwm yn Atodiad B i’r adroddiad, roedd Rhaglen Waith Gyffredinol y Dyfodol ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, oedd yn cynnwys y pynciau a dderbyniodd flaenoriaeth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar gyfer rownd nesaf y Pwyllgorau (yn Nhabl A), yn ogystal â phynciau y teimlid eu bod yn bwysig i gael eu blaenoriaethu yn y dyfodol yn Nhabl B.

64.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z