Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

85.

Datganiadau o fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau/ Swyddogion yn unol a darpariaethau’r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

 

Cofnodion:

Adolygiad o Ddarpariaeth Addysg Ôl -16 ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Adroddiad Cam 4.  

Datganodd y Cynghorydd T Beedle fuddiant personol yn yr eitem hon am y rhesymau canlynol:

  • Aelod o'r Gweithgor Ôl-16
  • Cadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr
  • Llywodraethwr AALl yn Ysgol Gyfun Maesteg
  • Roedd ei wyres yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Brynteg
  • Roedd ganddo wyron ac wyresau mewn ysgolion bwydo – Ysgolion Cynradd Nantffyllon a'r Garth.

 

Datganodd y Cynghorydd JP Blundell fuddiant personol yn yr eitem hon am y rhesymau canlynol:

  • Llywodraethwr AALl yn Ysgol Gyfun Bryntirion
  • Llywodraethwr Cymunedol yn Ysgol Fabanod Cefn Glas

 

Datganodd y Cynghorydd N Burnett fuddiant personol yn yr eitem hon am y rhesymau canlynol:

·         Plentyn ym Mrynteg

·         Llywodraethwr AALl yn Ysgol Gyfun Brynteg ac Ysgol Gynradd Penybont.

 

Datganodd y Cynghorydd K Rowlands fuddiant personol yn yr eitem hon oherwydd roedd un o'i phlant yn mynychu un o'r ysgolion a fyddai'n cael ei thrafod yn y cyfarfod.

 

Datganodd y Cynghorydd C Smith fuddiant personol yn yr eitem hon am ei fod yn Llywodraethwr yng Ngholeg Penybont.

 

Datganodd y Cynghorydd R Stirman fuddiant personol yn yr eitem hon am ei bod yn Llywodraethwr nad yw'n aelod o'r AALl yn Ysgol Gynradd Tynyrheol.

 

Datganodd y Cynghorydd Alex Williams fuddiant personol yn yr eitem hon am ei fod yn Llywodraethwr AALl yn Ysgol Gyfun Pencoed.

 

Datganodd y Cynghorydd Amanda Williams fuddiant personol yn yr eitem hon am fod ganddi fab yn Ysgol Gyfun Brynteg.

 

Datganodd L Morris, Cynrychiolydd Cofrestredig, Sector Ysgolion Uwchradd, fuddiant personol yn yr eitem hon am fod ganddi fab sy'n mynychu Ysgol Gyfun Maesteg.   

 

86.

Adolygiad o Ddarpariaeth Addysg Ôl-16 ar draws Adroddiad Cam 4 Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 91 KB

Gwahoddedigion:

 

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Andy Rothwell, Uwch Ymgynghorydd Her, Consortiwm Canolbarth y De

Andrew Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol Consortiwm Canolbarth y De

Megan Lambert, Maer Ieuenctid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Megan Lambert, Maer yr Ieuenctid, i'r cyfarfod.

 

Gwnaeth y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 gyflwyno adroddiad yn hysbysu'r pwyllgor o'r cynnydd oedd wedi'i wneud ar y cynigion ar gyfer darpariaeth ôl-16 (Cam 4), a gofynnodd iddynt ystyried y papur ymgynghori drafft cyn i'r mater gael ei roi gerbron y Cabinet am benderfyniad. Amlinellodd gefndir yr adolygiad a sut roedd y Cabinet wedi cymeradwyo tri opsiwn o'r chwe chysyniad gwreiddiol i'w dadansoddi ymhellach.  

 

Eglurodd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 gryfderau a gwendidau'r opsiynau amrywiol yn fanwl a'r sbardunau allweddol ar gyfer darpariaeth chweched dosbarth effeithiol. Amlinellodd y materion o ran y cynllun datblygu lleol cyfredol a'r cynllun datblygu lleol newydd a fyddai'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 2021-2033. 

 

Gwahoddwyd aelodau i ofyn cwestiynau ar yr opsiynau unigol.

 

 

Opsiwn 1

 

Gofynnodd aelod pe bai dwy ysgol yn uno, a fyddai'r disgyblion o'r ysgolion hynny yn cael blaenoriaeth dros ddisgyblion o ysgolion eraill wrth bennu lleoedd chweched dosbarth? Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd y trefniadau derbyn wedi'u pennu eto, ond rhagwelwyd y byddent yn rhoi blaenoriaeth i ddysgwyr o'r ysgolion hynny yn gyntaf, ond bod angen iddynt ystyried y ddeddfwriaeth. Ychwanegodd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 y byddai'n disgwyl i hyn gael sylw pan fyddai'r meini prawf derbyn yn cael eu hail-ddrafftio.

 

Gofynnodd un aelod sut byddai'r cydbwysedd rhwng arbenigeddau academaidd a galwedigaethol yn cael sylw mewn canolfannau chweched dosbarth. Eglurodd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 fod yn rhaid i bump o'r 30 o bynciau lefel 3 fod yn alwedigaethol, ond hoffent weld mwy o gymysgedd a chyffelybiaeth. Roedd pynciau newydd ar gael drwy sesiynau fin nos yng Ngholeg Penybont, a gyda lleoliadau mwy o faint gallent ddarparu mwy o opsiynau. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd y gallai fod cynnydd mewn costau cludiant ysgol a bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynghylch Trafnidiaeth Ôl-16 ar hyn o bryd a bod gorgyffwrdd rhwng y ddau fater.

 

Gwnaeth un aelod gyfeirio at drafnidiaeth, canlyniad yr Ymgynghoriad Trafnidiaeth Ôl-16 ac amser teithio derbyniol. Cydnabu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai rhai grwpiau o ddysgwyr yn ei chael hi'n anodd pe bai trafnidiaeth yn cael ei dynnu ymaith. Ychwanegodd eu bod yn ceisio cyfyngu amserau teithio i lai na 40 munud.

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio y byddai e-ddysgu yn chwarae rhan fawr mewn cynlluniau yn y dyfodol. Nododd aelod ei fod yn croesawu e-ddysgu ac ni allai ddeall pam fyddai teithio'n broblem pe gallai myfyriwr gymryd rhan mewn darlith o'i gartref ei hun. Nododd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 fod gwaith eisoes ar droed i gyflwyno prosiect mathemateg ar-lein a bod angen iddynt ystyried modelau a oedd wedi'u mabwysiadu'n llwyddiannus. 

 

Gofynnodd un aelod wrth Faer yr Ieuenctid a oedd yn credu mai dysgu cyfunol oedd y ffordd ymlaen. Atebodd nad oedd modd meithrin y gydberthynas yr oedd ganddi ag athrawon ar-lein ac roedd hyn wedi ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 86.

87.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith

I ystyriedunrhyweitemau o fusnes y, oherwyddamgylchiadauarbennig y cadeiryddo'rfarn y dylideuhystyriedyn y cyfarfodfel mater o frysynunol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'rRheolauTrefn y Cyngoryn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu'r Flaenraglen Waith a hysbysodd y Pwyllgor, yn dilyn cyfarfod gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, y byddai cyfarfodydd cyllideb yn cael eu cynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr a byddai'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Ddeilliannau Addysg yn ystod ei gyfarfod ar 3 Chwefror 2020. Awgrymodd aelodau y dylid ychwanegu Addysg Ôl-16 at gyfarfod mis Chwefror, os bydd yr adroddiad yn barod mewn pryd.

 

88.

Eitemau Brys pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z