Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 

Eitemau
Rhif Eitem

65.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Mynegodd y Cynghorydd R Stirman ddiddordeb oedd yn rhagfarnu yn eitem 3 ar yr agenda - Galw Penderfyniad y Cabinet i mewn: Rhesymoli Gwasanaethau Bysiau â Chymorth 2019/2020, gan ei bod hi wedi penderfynu’r mater ymlaen llaw. Ni chymerodd y Cynghorydd R Stirman ran bellach ac aeth allan o’r cyfarfod.

66.

Galw Penderfyniad y Cabinet i mewn. Rhesymoli Gwasanaethau Bysiau â Chymorth 2019/2020 pdf eicon PDF 73 KB

Gwahoddedigion:

 

Mark Shephard – Prif Weithredwr

Zak Shell – Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth

Gill Lewis – Pennaeth Cyllid a Swyddog 151 Dros Dro

Cllr Richard Young – Aelod Cabinet - Cymunedau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wrth y Pwyllgor fod penderfyniad arfaethedig y Cabinet i resymoli gwasanaethau Bysiau â Chymorth wedi cael ei alw i mewn gan 4 Aelod. Dywedodd fod gan bob Aelod hawl i’w farn, ond bod penderfynu ymlaen llaw yn torri’r Cod Ymddygiad.

 

Cofnododd aelod o'r Pwyllgor ei bod hi’n credu na ddylai’r Cynghorydd Webster gadeirio’r cyfarfod am ei bod hi’n un o’r Aelodau oedd wedi galw’r penderfyniad i mewn ac y dylai hi ildio’r gadair am y cyfarfod hwn. Dywedodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd mai mater i’r Aelodau oedd penderfynu a oeddent wedi penderfynu’r mater ymlaen llaw. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd hi wedi penderfynu ymlaen llaw ond cadarnhaodd ei bod hi wedi galw’r mater i mewn.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau o’r cyhoedd ac aelodau’r Cyngor oedd wedi cofrestru i siarad ymlaen llaw i annerch y Pwyllgor.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Mr Gordon Adamson a ddywedodd nad oedd ganddo ddull arall o ddod i Ben-y-bont ar Ogwr ac i archfarchnadoedd ac y byddai’n teimlo wedi ei gau i ffwrdd, yn enwedig ar ddyddiau Sul. Mynegodd bryder hefyd ynghylch colli gwasanaethau cysylltiedig er mwyn gallu teithio i Gaerdydd ac Abertawe. Hoffai weld bysiau yn dod heibio’n amlach a mynegodd bryder ynghylch cyflwr y bysiau. Anerchwyd y Pwyllgor wedyn gan Mrs Chris Lloyd a ddywedodd fod bysiau yn hanfodol i’r oedrannus ar gyfer mynd i apwyntiadau meddygol. Roeddent hefyd yn dra phwysig i bobl iau er mwyn mynd i’r coleg a chael mynediad at gyfleoedd gwaith a chael cychwyn da mewn bywyd. Byddai colli gwasanaethau bysiau yn peryglu’r cyfleoedd hyn. Hysbysodd Mrs Morfydd O’Keefe y Pwyllgor ei bod hi’n gyfrifol am ei g?r a’i h?yr a’i bod yn defnyddio gwasanaethau bws bob dydd. Dywedodd fod llawer o aelodau cymunedau Llangynwyd a Pharc Maesteg yn dibynnu ar wasanaethau bws ar gyfer teithio i mewn i Ben-y-bont ar Ogwr. Hysbysodd Mr Rowland Pittard y Pwyllgor y dylai fod cydraddoldeb i bob trethdalwr o ran cael mynediad i gludiant bws. Mynegodd ef bryder fod un gwasanaeth bws wedi cael ei ddargyfeirio o Ben-y-fai a bod hyn wedi cael effaith ar y gymuned. Dywedodd nad oedd yna gynllun cludiant cydlynol a Theithio Llesol ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd yn cyd-fynd ag anghenion y bobl ac ar gyfer symud o gwmpas y Fwrdeistref, a bod costau tacsi’n uchel a bod diffyg tacsis ar gael yn ystod y dydd.  

 

Siaradodd y Cynghorydd A Hussain ar ran trigolion Pen-y-fai gan fynegi pryder bod y llwybrau cerdded yn y pentref mewn cyflwr gwael a bod mynediad at wasanaethau trên yn wael. Un llwybr bws sy’n gwasanaethu’r pentref, gyda’r llwybrau blaenorol wedi cael eu dargyfeirio i ffwrdd oddi wrth y pentref ac mae datblygiadau Teithio Llesol wedi anwybyddu’r pentref. Dywedodd fod trigolion yn y pentref wedi dod yn ynysig oherwydd diffyg gwasanaethau bws a bod gwasanaeth bws yn hanfodol i fywyd y pentref. Gofynnodd i’r Pwyllgor ddal y Cabinet i gyfrif ac ymweld â safleoedd er mwyn casglu gwybodaeth gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 66.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z