Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB

Media

Eitemau
Rhif Eitem

13.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J Gebbie fuddiant personol yn Eitem 4 ar yr agenda, am mai hi oedd Cadeirydd Mynydd Cynffig.

 

14.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 71 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/10/2020

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1 Dyddiedig 19 Hydref 2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

 

15.

Diweddariad llafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Gwahoddwyr:

 

Lindsay Harvey – Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cynghorydd Charles Smith – Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis – Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd ddiweddariad ar y sefyllfa bresennol cyn symud ymlaen i brif themâu y canolfannau gofal plant a dysgu cyfunol, ysgolion fel amgylcheddau diogel o ran Covid, a’r prif heriau oedd yn dal i gael eu hwynebu. Yn dilyn y cyhoeddiad gweinidogol a wnaed ar 18 Mawrth i gau ysgolion, roedd yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddarparu gofal plant brys ar gyfer plant gweithwyr allweddol o 23 Mawrth. Dilynodd cyfnod gwyllt o brysur i agor y canolfannau gofal plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cysylltwyd â thros 4,000 o staff (yn yr ysgol a chymorth canolog) o fewn 72 awr i ddarparu cymorth eang i oddeutu 23,000 o blant a phobl ifanc. Roedd hyn yn heriol iawn oherwydd bod y sefyllfa’n newydd. Roedd nifer o heriau allweddol ar unwaith yn cynnwys glynu at ofynion Iechyd a Diogelwch oedd yn   datblygu’n gyflym, darparu prydau ysgol am ddim o bell i tua 5,000 o blant, cynnal cyfleusterau gofal plant i blant gweithwyr allweddol, ailddechrau addysgu a dysgu ar gyfer pob dysgwr, a pharhau â chymorth diogelu hanfodol i blant a phobl ifanc oedd yn agored i niwed.

 

Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn falch iawn o’r hyn a gyflawnodd Pen-y-bont ar Ogwr o ran darparu gofal plant ar frys. O 23 Mawrth hyd 19 Mehefin, darparwyd gofal plant brys o 8 a.m. hyd 6 p.m., 7 diwrnod yr wythnos, oedd yn cefnogi dros 900 o blant yn ei wyth canolfan seiliedig mewn ysgolion a phedwar lleoliad Dechrau’n Deg.  Roedd cymorth gofal plant brys ar gael i’r holl blant agored i niwed ac i blant yr oedd o leiaf un o’u rhieni/gofalwyr yn ‘weithiwr allweddol’.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y sefyllfa newydd a achoswyd gan Covid-19 yn neilltuol o anodd i staff, a bod ar Ben-y-bont ar Ogwr eisiau sicrhau bod staff yn elwa o gymorth proffesiynol. Ym mis Ebrill 2020, sefydlwyd tri gr?p proffesiynol (Lles Staff, Cefnogi Dysgwyr Agored i Niwed ac Addysgu a Dysgu o Bell) i gefnogi gwaith ysgolion a chanolfannau gofal plant. Parhaodd y rhain i gyfarfod i ledaenu arfer da ymhlith y staff, a derbyniodd y Gyfarwyddiaeth lawer o ganmoliaeth am y gwasanaethau a ddarparwyd. Fe wnaeth y staff i gyd elwa o gefnogaeth arbenigol Adnoddau Dynol, Iechyd a Diogelwch a chymorth strategol. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn ddiolchgar i’r Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio am ymuno ag ef mewn cynadleddau fideo ddwywaith yr wythnos, oedd yn parhau i gael eu cynnal gyda Phenaethiaid, partneriaid a Swyddogion gwella Consortiwm Canolbarth y De, i sicrhau cyfathrebu effeithiol a chysondeb o ran dull gweithredu. Cafodd pob gr?p fudd o gynrychiolaeth arbenigol ysgolion a chymorth amlasiantaethol.

 

Roedd ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cynnwys cyfarfodydd ddwywaith yr wythnos gyda’r holl Brifathrawon (a gynhelid yn ddyddiol i ddechrau), adborth llais y dysgwr drwy Gyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a chynghorau ysgol, arolwg ar-lein i rieni/gofalwyr, deialog  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 15.

16.

Diweddariad i’r Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu yr adroddiad. Dywedodd y byddai’r Aelodau’n cofio i’r Cyngor gael gwybod y byddai Setliad Ariannol Llywodraeth Leol gan Lywodraeth Cymru yn hwyrach na’r disgwyl, ac felly y byddai Pwyllgorau Craffu yn ystyried craffu ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar ôl i’r Cabinet ystyried y cynigion drafft ar y 19eg o  Ionawr, yn hytrach na chylch cyfarfodydd mis Rhagfyr, fel y cynlluniwyd yn wreiddiol.

 

Fel y nodwyd yn y tabl ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, ac yn dilyn cymeradwyaeth yng Nghyngor mis Tachwedd roedd dyddiadau cyfarfodydd Craffu wedi cael eu symud i:   

 

20 Ionawr am 10a.m. – Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Drafft ar gyfer Cyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Chyfarwyddiaeth Cymunedau.

 

21 Ionawr am 10a.m. – Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Drafft ar gyfer  Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a Chyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr.

 

Ym mharagraff 4.5, atgoffwyd y Pwyllgor am ffurflen y Meini Prawf, y gallai Aelodau ei defnyddio i gynnig eitemau pellach ar gyfer y Flaenraglen Waith, y gallai’r Pwyllgor wedyn eu hystyried ar gyfer eu blaenoriaethu mewn cyfarfod yn y dyfodol. Pwysleisiai Ffurflen y Meini Prawf yr angen i ystyried materion megis effaith, risg, perfformiad, y gyllideb a chanfyddiad y gymuned wrth nodi pynciau i ymchwilio iddynt ac i sicrhau cyfrifoldeb strategol am Graffu a manteisio i’r eithaf ar y cyfle i gael effaith.

 

Nododd yr Aelodau yr eitemau canlynol i’w hystyried ar y Flaenraglen Waith: Dysgu cyfunol / hybrid / o bell gan gynnwys diogelu (llesiant).

 

Ni nodwyd unrhyw eitemau pellach i’w hystyried ar y Flaenraglen Waith ar gyfer gweddill y calendr dinesig o gyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi’r eitem nesaf ar gyfer

                                Blaenraglen Waith y Pwyllgor a nodir ym Mharagraff

                                4.1 yr adroddiad.

 

17.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z