Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgan Buddiant Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd DBF White fuddiant personol dan Eitem 5 yr Agenda – Eiriolaeth – Gwasanaethau Oedolion a Phlant gan y bu’n rhan o waith sefydlu caffi yng Nghanolfan Gymunedol Westward sydd ar gael am ddim i’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 71 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 12/07/2018 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod cofnodion Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2018 yn gywir ar yr amod yr ychwanegir enw’r Cynghorydd J Gebbie at enwau’r Cynghorwyr a oedd yn bresennol. |
|
Diweddariad ynghylch y Flaenraglen Waith PDF 70 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddodd y Swyddog Craffu ynghylch yr eitemau a flaenoriaethodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol. Yn eu plith roedd yr eitem nesaf a ddirprwywyd i’r Pwyllgor hwn ei ystyried, sef Anghenion Dysgu Ychwanegol. Dywedodd fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 wedi gofyn yn ei gyfarfod ar 5 Medi 2018 am wahoddiad i’r cyfarfod er mwyn iddynt fod yn bwyllgor cyflawn ac i gynorthwyo’r Pwyllgor hwn wrth iddo graffu ar y mater.
Cyflwynodd y Swyddog Craffu restr o eitemau ychwanegol posib y gall pobl gynnig sylwadau yn eu cylch a’u blaenoriaethu. Gofynnodd hefyd i’r Pwyllgor gytuno ar eitemau eraill i’w hystyried gan ddefnyddio’r ffurflen meini prawf y cytunwyd arni ymlaen llaw.
Casgliadau
(1) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r sylwadau a wnaed yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn a’i fod yn nodi’r rhestr o ymatebion, gan gynnwys y materion hynny nad ydynt wedi cael sylw eto; (2) Nododd y Pwyllgor y dirprwywyd eitem iddo a oedd yn ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i’w drafod yn ei gyfarfod nesaf. Nododd hefyd y dylid estyn gwahoddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 fod yn bresennol; (3) Cytunwyd ar y manylion ychwanegol yr oedd eu hangen ar gyfer yr eitemau eraill yn y Flaenraglen Waith gyffredinol yn Nhabl 8 sy’n rhan o Atodiad B; Ystyried y ffurflenni meini prawf a gwblhawyd yn Atodiad C a phenderfynu a oedd yn awyddus i ychwanegu’r eitemau arfaethedig hyn at y Flaenraglen Waith. |
|
Eiriolaeth – Gwasanaethau Oedolion a Phlant PDF 144 KB Gwahoddedigion Susan Cooper, CyfarwyddwrCorfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cllr Phil White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant; Richard Thomas, Swyddog Cynllunio a Chomisiynu Strategol; Richard Jones, Prif Weithredwr – Materion Iechyd Meddwl Cymru
Cofnodion: Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdodau Lleol sicrhau mynediad at wasanaethau eiriolaeth a sicrhau bod cymorth ar gael i gyfranogi o’r gwasanaethau hyn wrth i Awdurdodau Lleol gyflawni eu dyletswyddau statudol. Mae gofyn hefyd i Awdurdodau Lleol drefnu Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol er mwyn ei gwneud hi’n hawdd i unigolion gael mynediad at y gwasanaethau hynny dan rai amgylchiadau. Nododd mai diffiniad eiriolwr yw’r sawl sy’n gallu siarad ar ran rhywun sy’n wynebu rhwystrau o ran cyfathrebu, deall, cloriannu neu benderfynu ynghylch gwybodaeth sy’n ymwneud â’r gwasanaethau y mae’n eu derbyn.
Hysbysodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y Pwyllgor fod y Cyngor wedi sicrhau cefnogaeth y Rhaglen Eiriolaeth Golden Thread (GTAP) i gynorthwyo yng ngwaith sefydlu cynllun eiriolaeth peilot i oedolion. Bu GTAP hefyd yn cefnogi’r Cyngor wrth iddo gydweithio â rhanddeiliaid lleol i gyd-greu model Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol newydd sy’n cydymffurfio â’r gofynion yn llawn. Aethpwyd ati i brofi hyn mewn cynllun Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol peilot ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a weithredai system ‘Prif Ganolfan a Lloerennau’, gan ddefnyddio dau ddarparwr gwasanaethau annibynnol a thrwy feithrin cysylltiadau ag ystod eang o asiantaethau cymorth. Amlinellodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y llwybrau atgyfeirio a’r ystod o wasanaethau eiriolaeth yn y Ganolfan Eiriolaeth a ddatblygwyd i alluogi pobl i gael y gwasanaethau cywir i ddiwallu’u hanghenion. Nododd fod 62 o bobl y mae angen Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol arnynt wedi manteisio ar y gwasanaeth peilot.
Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant mai Western Bay oedd yn comisiynu eiriolaeth i blant a phobl ifanc ac mai’r sefydliad sy’n darparu’r gwasanaethau hynny ym Mhen-y-bont ar hyn o bryd yw Tros Gynnal Plant. Er bod yr holl bartneriaid yn gweithio i gynyddu nifer yr atgyfeiriadau a chynyddu’r gwasanaeth, dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y dylai’r gwasanaeth fod yn helpu 528 o bobl sy’n derbyn 6605 o oriau o Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol, sy’n 12.4 o ddefnyddwyr bob mis. Gwelir bod nifer yr atgyfeiriadau yn cynyddu. Cynhelir trafodaethau â Bwrdd Iechyd Cwm Taf yngl?n â chomisiynu gwasanaethau eiriolaeth cyn i’r drefn newydd ar gyfer Byrddau Iechyd ddod i rym.
Cyfeiriodd y Pwyllgor at y gefnogaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc y mae angen gwasanaethau eiriolaeth arnynt ac sydd wedi cael diagnosis. Holwyd hefyd pa gefnogaeth sydd ar gael o ran eiriolaeth i bobl sy’n aros am ddiagnosis. Hysbysodd Ms Megan Davies o Tros Gynnal Plant y Pwyllgor y byddai mynediad at eiriolaeth yn dibynnu a oedd rhywun yn anfodlon â’i ddiagnosis. Byddai eiriolaeth yn cael ei darparu i berson ifanc sy’n aros am ddiagnosis ac nid i’r rhieni. Hysbysodd y Swyddog Cynllunio a Chomisiynu Strategol y Pwyllgor fod y Cyngor yn darparu cefnogaeth i rieni sy’n ofalwyr a bod sgôp i ddarparu eiriolaeth i gefnogi teuluoedd. Soniodd y byddai gwasanaeth cwynion yngl?n ag eiriolaeth y Cyngor Iechyd Cymuned yn ymdrin â chwynion petai’n rhaid i rywun aros yn hir am ddiagnosis. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 53. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Nid oedd dim eitemau brys. |