Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Llun, 18fed Medi, 2017 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Datganiadau o Ddiddordeb

To consider any item(s) of business in respect of which notice has been given in

accordance with Part 4 (paragraph 4) of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd TH Beedle fuddiant personol yn eitem 4 ar yr Agenda yn sgil y ffaith bod un o'i wyrion yn Blentyn sy'n Derbyn Gofal.

 

8.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 73 KB

To receive for approval the minutes of a meeting of the Subject Overview and Scrutiny Committee 2 of 20 July 2017

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 dyddiedig 20 Gorffennaf 2017 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.     

9.

Cymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol pdf eicon PDF 166 KB

Invitees

 

Cllr Phil White, Cabinet Member – Social Services and Early Help

Susan Cooper, Corporate Director Social Services and Wellbeing
Lindsay Harvey, Interim Corporate Director - Education and Family Support
Nicola Echanis, Head of Education and Early Help
Laura Kinsey, Head of Children’s Social Care
Mark Lewis, Group Manager Integrated Working and Family Support
Natalie Silcox, Group Manager Childrens Regulated Services

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad ar y pwnc uchod, a roddodd y diweddaraf i'r Aelodau ar sut mae'r timau Cymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol i Blant yn cydweithio yn yr Awdurdod i wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac i rannu ag Aelodau'r dadansoddiad o'r boblogaeth plant sy'n derbyn gofal sy'n llywio'r dull a gymerir.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Gwahoddedigion i'r cyfarfod, ac yn dilyn cyflwyniad byr ar yr adroddiad gan y Cyfarwyddwyr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, rhoddwyd Cyflwyniad PowerPoint ar y cyd gan y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant a'r Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd, sef y diweddaraf ar Gymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol i Blant.

 

Yn ystod ac ar ôl y Cyflwyniad, gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau i'r Gwahoddedigion, fel a ganlyn:

 

Gofynnodd Aelod pa asiantaethau a oedd yn rhan wrth gynorthwyo Cymorth Cynnar a Gwasanaethau Cymdeithasol, a pha lefel o gydymffurfio a geir o safbwynt anstatudol, nad oedd yn cael ei reoleiddio.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd, fod Cymorth Cynnar yn ddull seiliedig ar gydsynio yn hytrach na math statudol o fodel. Cadarnhaodd y gallai'r tîm sy'n cynorthwyo teuluoedd yn y maes gwaith hwn gynnwys nifer o asiantaethau gwahanol ac y gallai'r rhain fod yn fewnol, h.y. o'r Cyfarwyddiaethau Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac Addysg a Chymorth i Deuluoedd, neu ddarparwyr allanol gan gynnwys elfen o wasanaethau a gomisiynir. Roedd yr holl gategorïau gwahanol a meysydd cymorth hyn, fel arfer yn tarddu o gyfarfodydd a gynhaliwyd yn cynnwys cyrff a'r partneriaid gwahanol amrywiol, ac yn deillio o hyn sefydlwyd Cynlluniau Cymorth unigol a'u rhoi ar waith, ac roedd pob un o'r rhain yn amrywio, yn dibynnu ar fath a lefel y cymorth a oedd yn ofynnol ar gyfer pob person ifanc. Cafodd y categori hwn o gymorth ei gydnabod fel y ‘Cymorth Tîm o Amgylch y Teulu.’

 

Nododd Aelod y dull cadarnhaol iawn sy'n cael ei gymryd gan y ‘Tîm o Amgylch y Teulu’ a'r Asesiad Un Model. Gofynnodd beth oedd yr ysgogwyr allweddol wrth wybod pryd oedd cymorth cynnar yn ofynnol ar gyfer unigolyn. Roedd yn ymwybodol o'r ffaith bod plant yn newid wrth iddynt ddatblygu a mynd yn h?n, a'u bod yn aml yn dechrau newid o amgylch 10-11 oed pan allent fynd yn fwy heriol yn sgil dechrau wynebu pethau gwahanol yn eu bywydau. Roedd hefyd yn ymwybodol bod plant wedyn yn profi cyfres wahanol o heriau o hyn, yn ystod oedolaeth gynnar. Gofynnodd pa ddull a gymerwyd gan yr Awdurdodau Cyfrifol wrth nodi'r problemau y gall pobl ifanc a'u teuluoedd fod yn eu profi, a phryd roedd angen iddynt ymyrryd mewn ymgais i ddatrys y rhain.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd, fod gwaith yr Uned Cymorth Cynnar yn cynnwys cynnal Asesiadau Teulu er mwyn atal neu ymyrryd mewn problemau plant a theuluoedd sy'n codi. Byddai pob achos yn destun atgyfeiriad priodol lle roedd plant a/neu deuluoedd yn cael eu cyfeirio i'r math  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

Y Diweddaraf ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 63 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol adroddiad, a oedd yn:

 

a)    Cyflwyno'r eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol gan gynnwys yr eitem nesaf a ddirprwywyd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc hwn.

b)    Cyflwyno rhestr o ymatebion i sylwadau, argymhellion a cheisiadau am wybodaeth ychwanegol o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2.

c)    Cyflwyno rhestr o eitemau pellach posibl i'r Pwyllgor er mwyn cael sylwadau a blaenoriaethu.

d)    Gofynnodd i'r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried gan ddefnyddio'r ffurflen meini prawf a benderfynwyd ymlaen llaw.

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad A oedd y flaenraglen waith gyffredinol a oedd yn cynnwys y pynciau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (COSC) ar gyfer y gyfres nesaf o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc yn Nhabl 1, yn ogystal â rhestr o bynciau yr ystyriwyd eu bod yn bwysig ar gyfer eu blaenoriaethu yn y dyfodol yn Nhabl 2.

 

Dywedodd y Swyddog Craffu fod y Pwyllgor yn cael eu gofyn yn gyntaf i ystyried y pwnc nesaf a ddyrannwyd iddynt gan y COSC yn Nhabl 1, a phenderfynu pa fanylion pellach yr hoffent i'r adroddiad eu cynnwys, pa gwestiynau maent yn dymuno i swyddogion fynd i'r afael â hwy, ac a oes unrhyw Wahoddedigion pellach y maent yn dymuno iddynt fod yn bresennol ar gyfer y cyfarfod hwn, er mwyn cynorthwyo'r Aelodau yn eu hymchwiliad.

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor hefyd flaenoriaethu hyd at chwe eitem o'r rhestr yn Nhabl 2 i'w cyflwyno i'r COSC ar gyfer blaenoriaethu ffurfiol a dynodi i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc ar gyfer y gyfres nesaf o gyfarfodydd. Fel rhan o hyn, gofynnwyd i'r Aelodau ystyried yr adborth a'r ymatebion o'u cyfarfod Pwyllgor blaenorol a atodir yn Atodiad B i'r adroddiad, a phenderfynu a oeddent yn fodlon ar y canlyniad a beth i'w gynnig i'r COSC ar yr eitem.

 

Cyfeiriodd yr adroddiad hefyd at rolau Aelodau Trosolwg a Chraffu o ran Rhianta Corfforaethol, ac a oedd unrhyw eitemau pellach roedd Aelodau am eu nodi ar gyfer y Flaenraglen Waith.

 

Ar ôl i'r Aelodau ystyried yr adroddiad, penderfynwyd:

 

 1.       Yn dilyn trafodaeth y Pwyllgor penderfynodd yr Aelodau ar y canlynol mewn perthynas â'r Flaenraglen Waith Trosolwg a Chraffu:

 

1.1          Yn dilyn yr ymatebion a gafwyd gan Swyddogion mewn perthynas â'r eitem ‘Arolygiad Gwasanaethau Plant Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)’ mae'r Aelodau wedi gofyn am gael adroddiad gwybodaeth mewn un o gyfarfodydd y dyfodol mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed isod:

 

          Mae'r Aelodau wedi gofyn am y diweddaraf ar gynnydd y cynllun ar adeg briodol, i alluogi'r Pwyllgor i fonitro a yw'r camau gweithredu wedi mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan yr Arolygiaeth.

          Gan gyfeirio at y materion a godwyd yn adroddiad AGGCC ynghylch morâl staff, mae'r Pwyllgor yn argymell bod camau'n cael eu rhoi ar waith i fonitro staff a'u boddhad swydd drwy arolwg cyflogeion corfforaethol.

 

1.2      Mewn perthynas â'r adroddiad Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) wedi'i drefnu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

Materion Brys

To consider any item(s) of business in respect of which notice has been given in

accordance with Part 4 (paragraph 4) of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency.

 

Cofnodion:

Dim.