Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Iau, 7fed Rhagfyr, 2017 13:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

12.

Croeso

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.   

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Ian Phillips o Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn arsylwi’r cyfarfod.   

13.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

14.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 102 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18 Medi 2017. 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 2 ar 18 Medi 2017 fel cofnod gwir a chywir yn amodol ar y gwelliant a ganlyn:

 

Bod y geiriau "yn caniatáu i'r Rhwydwaith Ardal Leol gael ei gysylltu drwy'r rhyngrwyd" yn cael eu hychwanegu ar ôl y geiriau "a gofynnodd a oeddent" yn y llinell gyntaf ar dudalen 5.    

15.

Diweddariad i’r Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu yr adborth o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor i'w gymeradwyo a gofynnodd i'r Aelodau nodi unrhyw wybodaeth ychwanegol y dymunai'r Pwyllgor ei dderbyn mewn perthynas â'r eitemau a drefnwyd ar gyfer 25 Ionawr 2018 a 21 Chwefror 2018, gan gynnwys gwahoddedigion y dymunent eu gwahodd.

 

Casgliadau

 

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r adborth o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor hwn, ac yn nodi’r rhestr o ymatebion gan gynnwys unrhyw rai sy'n dal i fod heb eu casglu, ac yn cadarnhau eu bod yn hapus gyda'r cynnwys a awgrymwyd ar gyfer yr adroddiad, a'r gwahoddedigion ar gyfer y ddau gylch nesaf o gyfarfodydd.   

16.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2012-22 pdf eicon PDF 235 KB

 

Invitees:

 

Cllr Phil White, Cabinet Member – Social Services and Early Help;

Susan Cooper, Corporate Director – Social Services and Wellbeing;
Jackie Davies, Head of Adult Social Care;
Laura Kinsey, Head of Children's Social Care

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad at ddibenion cyflwyno'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) 2018-19 i 2021-22, sy'n nodi blaenoriaethau gwariant y Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllideb a dargedwyd ar gyfer arbedion angenrheidiol.  Roedd hefyd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2018-22 a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2018-2019. Gofynnodd y Pwyllgor pam na nodwyd unrhyw arbedion effeithlonrwydd yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Pwyllgor fod £330k o arbedion effeithlonrwydd wedi'u nodi mewn 2 faes yn y Gyfarwyddiaeth ond roedd gan y Gyfarwyddiaeth bwysau cyllideb ychwanegol o £2.2m a ddygwyd ymlaen o 2017-2018 ac felly dyna pam na chyflwynwyd unrhyw arbedion pellach ar gyfer 2018-2019.  Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch y cynigion am arbedion o £2m na chafwyd eu gwireddu a gofynnwyd am y rhesymau dros hyn.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod arbedion yn ymwneud ag atal, lles a gofal preswyl plant wedi cael eu cynnig, ond roedd yr arbedion hyn wedi bod yn anodd iawn eu gwireddu.  Mae gwasanaethau atal a lles yn ymwneud â gwasanaethau cydlynu, cyngor a chymorth  a theleofal o fewn yr ardal leol, lle bu'n anodd cyflawni arbedion.  Yn lle hynny, llwyddwyd i osgoi costau lle bu lleihad yn y galw am y gwasanaethau hyn.  Roedd  £414k o arbedion a gyflawnwyd mewn gofal preswyl plant wedi digwydd o ganlyniad i ailfodelu 2 gartref plant yn y Fwrdeistref a datblygu gwasanaethau therapiwtig.  Dywedodd fod y cynigion wedi bod yn destun ymgynghori helaeth a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Chwefror 2018 a fyddai hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer datblygu'r gwasanaeth gofal maeth. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor yngl?n ag effaith newidiadau yn y modd y cyflenwir gwasanaethau Anableddau Dysgu i ddefnyddwyr gwasanaeth a’r effaith ar y gyllideb.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Pwyllgor fod y newidiadau i'r gwasanaethau Anabledd Dysgu wedi bod yn llwyddiannus, a oedd wedi gweld defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu dwyn i mewn i dai wedi’u staffio.  Roedd y model dilyniant a gafodd ei sefydlu wedi gweld defnyddwyr gwasanaeth yn symud i lefel uwch o annibyniaeth gyda chymorth staff.  Bu'r Pwyllgor hefyd yn cwestiynu effaith ariannol y model newydd o ddarparu gwasanaeth yn y Gwasanaethau Anabledd Dysgu.  Hysbysodd y Rheolwr Cyllid y Pwyllgor y cyflawnwyd arbedion o dros £200,000 yn y Gwasanaethau Anabledd Dysgu yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf. 

 

Holodd y Pwyllgor a oedd hyblygrwydd yn y ffioedd a godir ac a oes cap ar y cynllun gofal ychwanegol.  Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Pwyllgor fod pobl sy'n byw mewn gofal ychwanegol yn gymwys i hawlio budd-dal, a bod y rhai sy'n derbyn gofal yn y cartref yn ddarostyngedig i gap o £70 yr wythnos sy’n cael ei osod gan Lywodraeth Cymru.  Rhoddodd wybod i'r Pwyllgor hefyd fod cyfanswm y cyfalaf y gall unigolyn ei ddal cyn y codir tâl arnynt yn mynd i gynyddu. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y pwysau cyllidebol ar y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 16.

17.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.