Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Llun, 8fed Ionawr, 2018 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Julie Ellams  Democratic Services Officer

Eitemau
Rhif Eitem

21.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

22.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 68 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  07/12/2017

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: 1. Derbyn Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pynciau 2 ar 7 Rhagfyr 2017 fel cofnod gwir a chywir.

2. Bod y wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghyfarfod y 7 fed Rhagfyr   

ynghylch y cais am gynrychiolydd o Uned Drafnidiaeth y Cyngor ac Aelodau Craffu i eistedd ar y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a’r ffigur gwirioneddol ar gyfer Absenoldeb oherwydd Salwch yn cael ei darparu i'r Pwyllgor.

                                 

23.

Diweddariad gan y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu yr eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hwn yn ogystal ag eitemau ar gyfer sylwadau a blaenoriaethu. Gofynnodd i'r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried.

 

Mewn perthynas ag adroddiad Ffyniant Economaidd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a drefnwyd ar gyfer 7 Chwefror 2018, gofynnodd yr Aelodau os gellid cynnwys y wybodaeth ganlynol hefyd:

 

·         Effaith BREXIT ar Gyllid yr UE;

·         Effaith BREXIT ar Raglenni Diweithdra cyfredol;

·         Ystadegau yn ymwneud â'r Rhaglenni Diweithdra.

 

Tynnodd y Pwyllgor sylw at Ddiogelu fel blaenoriaeth i'w gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar gyfer blaenoriaethu ffurfiol. Nodwyd Adroddiad Safonau Ysgolion 17/18 a Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer gwe-ddarlledu.

   

PENDERFYNWYD :    1. Mewn perthynas ag adroddiad Ffyniant Economaidd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a drefnwyd ar gyfer 7 Chwefror 2018, gofynnodd yr Aelodau os gellid cynnwys y wybodaeth ganlynol hefyd:

 

·         Effaith BREXIT ar Gyllid yr UE;

·         Effaith BREXIT ar Raglenni Diweithdra cyfredol;

·         Ystadegau yn ymwneud â'r Rhaglenni Diweithdra.

 2. Bod Diogelu yn cael ei amlygu gan y Pwyllgor fel blaenoriaeth i'w chyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar gyfer blaenoriaethu ffurfiol.

 

         3.  Bod Adroddiad Safonau Ysgolion 17/18 a Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai addas ar gyfer gwe-ddarlledu.

 

24.

Ailfodelu Llety Pobl Hŷn pdf eicon PDF 115 KB

Gwahoddedigion

 

Cyng P White

Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

S Cooper

Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

J Davies

Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion

C Donovan

Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cymunedol Integredig -  Rhwydweithiau Cymunedol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion adroddiad yn gofyn am graffu cyn gwneud penderfyniad gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu 2 mewn perthynas ag argymhelliad i dendro un o gartrefi gofal preswyl mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y Cyngor) a oedd dod o fewn terfyn y cynllun Tai Gofal Ychwanegol fel busnes gweithredol. Ym mis Gorffennaf 2017 cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet yn eu cynghori ynghylch yr opsiwn posibl i dendro cartref gofal T? Cwm Ogwr fel busnes gweithredol. Cyflawnwyd ymgysylltu ac ymgynghori wedi’i dargedu ac amlinellwyd y canlyniadau yn yr adroddiad. Amlinellodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr amserlen gaffael ddangosol, a manteision a risgiau’r cynnig.

 

Eglurodd, yn sgil yr ymateb cadarnhaol i'r cynnig a gafwyd gan y rheini a effeithiwyd yn uniongyrchol, y byddai argymhellion yr adroddiad yn nodi'r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad; yn rhoi adborth mewn perthynas â'r argymhelliad i dendro T? Cwm Ogwr fel busnes gweithredol a nodi y byddai'r Cabinet yn derbyn adroddiad ym mis Chwefror 2018 yn amlinellu canlyniadau'r ymgynghoriad a'r adborth o'r pwyllgor craffu ac yn gofyn am gymeradwyaeth i fynd allan i dendr.      

 

Gofynnodd aelod a fyddai'n bosibl dosbarthu manylion am y strwythurau staffio presennol ac arfaethedig. Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y gellid dosbarthu'r strwythur presennol ond y byddai'r darparwr newydd yn creu strwythur newydd.

 

Gofynnodd aelod a fyddai'n bosibl i aelod o'r pwyllgor eistedd ar y panel caffael fel sylwedydd i weld yn union beth oedd yn cael ei gaffael. Hysbyswyd yr aelod y gofynnid am gyngor cyfreithiol i weld a oedd hyn yn bosibl. Roedd pryderon ynghylch gosod cynsail ac ynghylch a oedd y broses yn caniatáu arsylwyr, er yr oedd yn cael ei gydnabod y byddai hyn yn gwella pethau o ran bod yn agored a thryloywder. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y byddai'r adroddiad yn cael ei ystyried gan y Cabinet ac roedd nifer o Aelodau'r Cabinet eisoes yn rhan o'r broses gaffael. Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod trafodaethau yn parhau gyda’r adran gaffael i ganiatáu i deuluoedd fod yn rhan o'r broses a gellid ymestyn hyn i gynnwys diweddariad i’r pwyllgor craffu.        

 

Croesawodd un o’r aelodau gyfeiriad cyffredinol y teithio ond gofynnodd am fwy o wybodaeth am sut y nodwyd yr arbedion. Roedd yn pryderu ynghylch sut y gallai'r un staff ar yr un contractau â'r un cyflogau a oedd yn gweithio mewn eiddo a oedd angen buddsoddiad ddarparu gwasanaeth tebyg.   

Gofynnodd yr Aelodau pwy fyddai'n gyfrifol am daliadau dileu swyddi 

yn dilyn trosglwyddo staff a sut roedd telerau ac amodau'n cymharu â'r pecynnau cyfredol. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y goblygiadau ariannol wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Roedd trafodaethau yn parhau ynghylch trefniadau trosiannol. Roedd gan ddarparwyr annibynnol gyfleoedd gwahanol gydag arbedion maint a gwneud y defnydd gorau o'r safle. Byddai'r fanyleb yn cynnwys cyfrifoldeb am gostau diswyddo a byddai atebolrwydd yn trosglwyddo i'r darparwr newydd. Byddai staff yn trosglwyddo o dan TUPE ond byddai lleoliadau nyrsio yn cael eu hariannu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 24.