Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

Gofynnodd Cadeirydd y cyfarfod, y Cynghorydd C Green, am enwebiadau i gadeirio’r cyfarfod am nad oedd yn teimlo’n dda. Enwebwyd ac eiliwyd y Cynghorydd Mike Clarke a daeth i’r gadair am weddill y cyfarfod.                                                   

27.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim

28.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 82 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 12/12/17 & 08/01/18

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     1. Derbyn Cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 2 ar 12 Rhagfyr 2017 fel cofnod manwl gywir yn amodol ar ychwanegu ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Beedle.

 

                                 2. Derbyn Cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 2 ar 8 Ionawr 2018 fel cofnod manwl gywir.                      

29.

Diweddariad Rhaglen Gwaith pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad yn nodi’r eitemau a gafodd eu blaenoriaethu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, gan gynnwys yr eitem nesaf a ddirprwywyd i’r Pwyllgor hwn. Hefyd cyflwynodd i’r Pwyllgor restr o eitemau posib ar gyfer sylwadau a blaenoriaethu a gofynnwyd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach ar gyfer eu hystyried gan ddefnyddio’r ffurflen meini prawf. Hefyd gofynnwyd i’r Aelodau gymeradwyo’r adborth o’r cyfarfodydd blaenorol a’r rhestr o ymatebion, gan gynnwys unrhyw rai’n weddill.

 

Roedd elfen o waith ar droed ar gyfer “Ailfodelu Llety Pobl H?n” a chytunodd yr Aelodau y dylid ei gadw ar y rhaglen waith ar gyfer ei adolygu yn y dyfodol. Mynegodd un Aelod bryderon am y strwythur staffio a nifer y Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.                             

 

Gofynnodd yr Aelodau am wahodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau a chynrychiolwyr ABM a Chwm Taf i ystyried yr eitem Atal a Llesiant a Chydlynu Cymunedol Lleol. 

 

Gofynnodd Aelod am gynnwys gwir gost Carchar y Parc (gan gynnwys beth oedd Carchar y Parc a’r trydydd sector yn ei gyfrannu) yn yr adroddiad ar “Effeithiau Cyllidebol Carchar y Parc”. Hefyd dylid gwahodd cynrychiolwyr o’r gwasanaeth prawf a’r adran tai.                                   

 

Gofynnodd Aelod am i’r adroddiad ar Ddiwygio ALN gynnwys cost rhoi asesiadau gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer DOLS allan ar gontract.

 

PENDERFYNWYD:

 

Diweddariad y Flaenraglen Waith

 

1         Penderfynodd yr Aelodau’r canlynol mewn perthynas â’r adborth a gafwyd o gyfarfodydd dilynol:

 

1.1       Atodiad A – 12 12 2017

           Gan gyfeirio at yr ymatebion a dderbyniwyd mewn perthynas â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Ieuenctid, nododd yr Aelodau bod y rhan fwyaf o’r ymatebion yn cynnwys elfen o waith ar droed a gofynnwyd am gadw’r eitem ar y Flaenraglen Waith ar gyfer ei hadolygu yn y dyfodol.                      

 

1.2       Atodiad A – 08 01 18

Mewn perthynas â’r strwythur staffio presennol ar gyfer T? Cwm Ogwr a dderbyniwyd fel gwybodaeth ychwanegol, gofynnodd yr Aelodau am esboniad pellach o rôl yr 11 gweithiwr Gofal Cymdeithasol yn y sefydliad.                      

 

2         Yn dilyn trafodaethau’r Pwyllgor, penderfynodd yr Aelodau ar y canlynol mewn perthynas â’r Flaenraglen Waith Trosolwg a Chraffu:               

 

2.1      O ran Atal a Llesiant a Chydlynu Cymunedol Lleol, gofynnodd yr Aelodau am wahodd y gynrychiolaeth ganlynol i’r cyfarfod ar 7 Mawrth 2018:

            Cynrychiolaeth o’r 3ydd Sector;

            Cynrychiolaeth o ABM / Cwm Taf.

 

2.2      O ran Effeithiau Cyllidebol Carchar y Parc, gofynnodd yr Aelodau am gynnwys y wybodaeth ganlynol yng nghais yr adroddiad:                           

          Pa Wasanaethau Cymunedol mae Carchar y Parc yn eu darparu? Beth mae Carchar y Parc yn ei roi’n ôl i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;

            Pa wasanaethau 3ydd Sector sy’n cael eu darparu yn y Parc;

            Manylion effaith Carchar y Parc ar dai;              

          Pa fewnbwn sydd gan y Gwasanaeth Prawf wrth weithio gyda’r Awdurdod a gydag adsefydlu carcharorion.                

 

A hefyd gwahodd y gynrychiolaeth ganlynol i’r cyfarfod:             

            Cynrychiolaeth Darparwr Gwasanaeth Iechyd;

          Cynrychiolaeth o’r 3ydd Sector – Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol er enghraifft;              

            Cynrychiolaeth o’r Gwasanaeth Prawf;

            Cynrychiolaeth o’r adran tai.            

 

2.3      O ran yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 29.

30.

Ffyniant Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 138 KB

 

Gwahoddedigion

Cllr Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio;

Mark Shepherd, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau;
Satwant Pryce, Pennaeth Adfywio Datblygu a Eiddo;
Jeff Peters, Arweinydd Tîm - Prosiectau a Dulliau Busnes;
Lisa Jones, ArweinyddTîm Ymgysylltu Rhanbarthol ac Arian Adfywio;
Ian Jessop, Fforwm Busnes Pen y Bont ar Ogwr;
Simon Pirotte, Prif, Coleg Pen y Bont;
Matthew Williams, Cyfarwyddwr Engage Training a WBL.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo adroddiad yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Adfywio mewn perthynas â datblygiad economaidd a rhaglenni bod heb waith a chyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer sgiliau. Amlinellodd y sefyllfa bresennol, y gostyngiad yn nifer y staff sy’n darparu’r gwasanaeth, y meysydd allweddol gan gynnwys cefnogi busnesau newydd, cefnogi busnesau lleol presennol i ddatblygu, cefnogi buddsoddiad newydd yn yr ardal a marchnata a chyfathrebu.                                  

 

Amlinellodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo y rhagolygon, yr heriau a’r blaenoriaethau economaidd i’r system sgiliau, rhaglenni bod heb waith, y diwygiad lles a threchu diweithdra a thlodi mewn gwaith. Esboniodd mai’r ffocws oedd lliniaru effaith cyni ar y gwasanaeth a darparu gwerth gorau. Roeddent yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i roi sylw i unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth ac nid oedd llawer o gwmpas i gymryd unrhyw waith arall. 

 

Mynegodd un Aelod bryder am renti uchel ym marchnad Pen-y-bont ar Ogwr a gofynnodd pa waith oedd yn cael ei wneud i ddenu busnes newydd. Esboniodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo mai dim ond un ffactor oedd rhent ac na fyddai’n ddigon i atal busnes rhag tyfu. Roedd llu o ffactorau eraill fel newidiadau i batrwm prynu. Roedd asiantau allanol wedi cael cyfarwyddyd i hybu’r farchnad a symleiddio trefniadau rhent.                                                                                                       

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio y swyddogion am ansawdd yr adroddiad. Roedd swyddogion yn gwneud gwaith rhagorol i Ben-y-bont ar Ogwr ac roedd ganddynt gyfoeth o wybodaeth. Roedd yr adran yn cyfrif am gyfran fechan o’r gyllideb a byddai unrhyw doriadau pellach yn annoeth. Roedd yn falch bod cynrychiolydd o’r coleg yn y cyfarfod oherwydd bod cysylltiad anorfod rhwng CBSP a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd contractau cam 1 wedi cael eu llofnodi a’u cyfnewid ac roedd ymweliad safle â Portishead wedi’i drefnu fel model rôl ar gyfer Porthcawl. Roedd y farchnad yn bwysig i Ben-y-bont ar Ogwr ac esboniodd ei fod yn ymweld â hi sawl gwaith yr wythnos. Roedd cynllun adfer y farchnad yn ei le ac roedd y gwaith o osod y stondinau wedi cael ei is-gontractio i asiantau proffesiynol. Roedd gwelliant wedi bod eisoes mewn ymweliadau a thenantiaethau.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai ymateb i ymgynghoriad ar-lein Llywodraeth Cymru (LlC) ar Fuddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit. Esboniodd Arweinydd Tîm y Cyllid Adfywio a’r Ymgysylltu Rhanbarthol mai’r digwyddiad ymgynghori ym mis Ionawr 2018 oedd y cyfle i LlC ddangos sut raglen fydd yn cael ei sefydlu. Byddai’r swyddogion yn cydweithio ac yn adrodd yn ôl. Roeddent yn edrych ar nifer o faterion, fel rhaglen aml flynyddol a pharhau â dull partneriaeth o weithredu. Roedd llawer yn digwydd tu ôl i’r llenni ond, yn y cam hwn, nid oedd llawer o fanylion i adrodd yn ôl arnynt.

 

Awgrymodd Aelod y dylid cywasgu’r adroddiad yn gynllun ffyniant economaidd yn cysylltu â chynlluniau eraill ac yn dangos uchelgais y fwrdeistref. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau bod llawer o waith yn cael ei wneud yn rhanbarthol gyda chyfraniad LlC ond byddai’n ceisio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 30.

31.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z