Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Mawrth, 17eg Ebrill, 2018 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

37.

Datgan Buddiannau

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

38.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 81 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 07/ 02/18

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Pwnc 2 ar 7 Chwefror 2018 yn gofnod gwir a chywir.

39.

Diweddariad am y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad oedd yn nodi’r eitemau a flaenoriaethwyd y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Corfforaethol gan gynnwys yr eitem nesaf a ddirprwywyd i’r pwyllgor hwn. Cyflwynodd restr o eitemau posibl eraill hefyd i'w blaenoriaethu a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau eraill i'w hystyried drwy ddefnyddio'r ffurflen meini prawf a bennwyd ymlaen llaw. Gofynnwyd aelodau hefyd i gymeradwyo’r adborth o’r cyfarfodydd blaenorol a rhestr yr ymatebion gan gynnwys unrhyw rai sy’n weddill.

 

PENDERFYNWYD:            Gwnaeth y Pwyllgor:

 

i)             Gymeradwyo’r adborth o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testunau 2 gan nodi rhestr yr ymatebion gan gynnwys y rhai sy’n weddill o hyd.

ii)             Nodi gwybodaeth ychwanegol yr oedd y Pwyllgor am ei derbyn am yr eitem nesaf a ddirprwywyd iddo.

 

40.

Cymorth a Gofal Demensia ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 795 KB

Gwahoddedigion:

 

Cllr Philip White – Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar 

Susan Cooper – Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Carmel Donovan - Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cymunedol Integredig

Jacqueline Davies – Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion  

Dermot Nolan – Rheolwr Gwasanaeth Clinigol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Gareth Bartley – Pennaeth Partneriaethau a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Sue Gwyn – Rheolwr GwasanaethauIechyd Meddwl i Bobl H?n

Kay Harries – Swyddog Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Sir Penybont

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar y cymorth a’r gofal i bobl â demensia sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BSP) ac ymateb i’r cwestiynau a godwyd am ddemensia yn CBSP ac yn rhanbarthol.  

 

Gofynnodd aelod am ddiffiniad sylfaenol o ddemensia i helpu’r aelodau nad oedd ganddynt fawr o ddealltwriaeth o’r pwnc. Esboniodd Rheolwr Gwasanaethau Clinigol BIP ABM fod demensia’n afiechyd dirywiol yr ymennydd a bod y tebygrwydd o ddatblygu demensia’n cynyddu’n sylweddol wrth heneiddio. Yn bennaf mae’n effeithio ar bobl dros 65 oed, ond gall effeithio ar bobl iau o’r pedwar degau hwyr ymlaen.Mae’n effeithio ar bob agwedd ar fyw, gan gynnwys colli cof tymor byr a gweithgareddau pob dydd megis lleferydd a symudedd, ac yn y pen draw gallai effeithio ar y cof tymor hir. Mae’r effaith ar bob unigolyn yn amrywio ac mae sawl math o ddemensia sy’n datblygu ar wahanol gyfraddau ac sydd â symptomau gwahanol. Mae cyffuriau ar gael i drin symptomau demensia ac mae diagnosio’r afiechyd yn gynnar yn gwella llwyddiant y cyffuriau. Ni all cyffuriau atal yr afiechyd ond maen nhw’n gallu caniatáu i’r unigolyn sefydlogi ei gyflwr.    

 

Cyfeiriodd aelod at y tabl sy’n dangos y diagnosis fesul meddygfa yn CBSP. Gofynnodd yr aelodau am boblogaeth bob ardal fel ei bod yn glir pa ganran yn union roedd y ffigurau yn cyfateb iddi. Esboniodd aelod fod tair meddygfa mewn un ward, gyda phob un yn gyfrifol am nifer llai o gleifion, ac felly nad oedd y tabl yn rhoi darlun cywir.

 

Gofynnodd aelod a oedd nifer uchel yr achosion ym Meddygfa Portway, Porthcawl yn gysylltiedig â nifer y cartrefi gofal ym Mhorthcawl. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Cymunedol Integredig fod gan Borthcawl hefyd nifer uchel o bobl oedd yn heneiddio ac y gallai hyn, yn ogystal â nifer y cartrefi nyrsio yn yr ardal, fod y rheswm dros nifer uchel yr achosion. Cytunodd gyflwyno map â ffiniau i aelodau nad oeddent yn gyfarwydd ag enwau’r meddygfeydd yn ogystal â’u lleoliadau.

 

Diolchodd aelod i’r swyddogion am yr adroddiad a gofynnodd pam roedd ei bwyslais ar reoli’r sefyllfa yn hytrach na cheisio’i hatal trwy ystyried iechyd a lles yr etholwyr. Esboniodd Rheolwr Gwasanaethau Clinigol BIP ABM fod canfod a diagnosio’r afiechyd yn gynnar yn ddull effeithiol o gynnal gallu person ar y lefel orau posib a bod peth tystiolaeth ar gael i ddangos bod person yn gallu byw’n dda â demensia am gryn amser. Roeddent yn dibynnu’n fawr ar feddygon yn adnabod arwyddion cynnar.   Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod dau gynllun gofal ychwanegol newydd i’w cwblhau ym mis Medi/Hydref a allai darparu ar gyfer y rhai â demensia. Roedd mentrau ar gael hefyd i gadw pobl i symud yn ogystal â thîm i hybu ymarfer corff a chadw’n heini.

   

Esboniodd y Swyddog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, BAVO, eu bod yn helpu pobl yn y gymuned i gael gwell dealltwriaeth, a hynny yn ogystal â phrojectau Dementia Friends.  Roedd gwaith yn parhau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 40.

41.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim