Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

42.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Y Cyng. M Kearn a’r Cyng. D White

43.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd M Jones ddiddordeb personol yn eitem 7, Diogelu, oherwydd ei fod yn darparu cefnogaeth broffesiynol i'r awdurdod ar reoli cam-drin domestig.

44.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 72 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  07/03//2018 a 17/04/2018

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:          Bod Cofnodion cyfarfodydd y

                                          Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 2 o 7 Mawrth  

                                          2018 a 17 Ebrill 2018 yn gofnod gwir a chywir.            

45.

Adroddiad Enwebu Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Argymhellwyd 

 

Enwebodd y Pwyllgor y Cyng. Mike Clarke fel ei Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli'r Pwyllgor fel gwahoddai yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cabinet Rhianta Corfforaethol.

46.

Enwebiad i Banel Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Argymhellwyd 

 

Enwebodd y Pwyllgor y Cyng. Sorrel Dendy i eistedd ar Banel Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

47.

Diweddariad o'r Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad ar y Flaenraglen Waith, gan gynnwys yr adborth o gyfarfodydd blaenorol a rhestr o ymatebion gan gynnwys unrhyw rai sy'n dal i fod dros ben.

 

Cyfeiriodd Aelod at Arolygiad Gwasanaethau Plant a'r cynllun gweithredu a luniwyd flwyddyn yn ôl a gofynnodd i'r Aelodau a hoffent gael adroddiad ar statws cyfredol y cynllun gweithredu. Roedd yr Aelodau'n ymwybodol bod staff dan bwysau a bod y cynllun gweithredu yn cael ei graffu mewn meysydd eraill, felly cytunwyd y gellid darparu'r diweddariad a gyflwynwyd i CIW i aelodau'r pwyllgor er gwybodaeth.   

 

Trafododd yr Aelodau ALN a'r rhesymau dros iddo gael ei ystyried gan SOSC 2 ac nid SOSC 1. Gofynnodd yr Aelodau am gynnwys yr argymhellion a wnaed yn flaenorol gan SOSC 1 yn yr adroddiad i SOSC 2.

 

Cyfeiriodd Aelod at hyfforddiant Cyfeillion Dementia 1 ar 11 Gorffennaf 2018 a'r ffigyrau presenoldeb gwael. Atebodd aelod ei bod hi a llawer o Aelodau eraill eisoes wedi derbyn yr hyfforddiant hwn, ac y trefnwyd y sesiwn hon yn benodol ar gyfer aelodau nad oeddent wedi derbyn yr hyfforddiant eto. Dywedodd hefyd y trefnwyd sesiwn arall ar gyfer dyddiad diweddarach i Aelodau na allent fynychu'r sesiwn gyntaf. Trafododd yr aelodau y trefniadau, ac awgrymwyd y gellid anfon blwch tic yn y dyfodol i Aelodau ddweud a oeddent eisoes wedi derbyn yr hyfforddiant ai peidio. Dywedodd Aelodau y byddai'n ddefnyddiol derbyn e-bost yn egluro'r cefndir ac nid dim ond cofnod calendr yn unig. Cytunodd y Swyddog Craffu i roi adborth o'r sylwadau i'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Casgliadau:

Trafododd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith a'r wybodaeth bellach a dderbyniwyd yn ôl gan swyddogion ar ôl eu cyfarfod diwethaf.  Nododd yr aelodau yr adroddiad gwybodaeth a dderbyniwyd ar Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru - Arolygiad o Wasanaethau Plant Ionawr/ Chwefror 2017- Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu. Gofynnodd yr Aelodau am dderbyn adroddiad gwybodaeth i gyfarfod yn y dyfodol i hysbysu'r aelodau lle'r oedd yr Awdurdod yn awr o ran y cynllun gweithredu. Roedd yr Aelodau'n ymwybodol o amser swyddogion wrth lunio adroddiad o'r fath, ac awgrymwyd eu bod yn derbyn yr un peth ag a gyflwynwyd i AGGCC mewn ymateb i'r cynllun gweithredu.   

48.

Diogelu pdf eicon PDF 213 KB

Invitees:

Susan Cooper, CyfarwyddwrCorfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cllr Phil White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant;

Elizabeth Walton James, Rheolwr Gr?p Diogelu a Sicrhau Ansawdd,;

Terri Warrilow, Rheolwr Ansawdd a Diogelu Oedolion   

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad yn diweddaru'r Pwyllgor gyda gwybodaeth am Ddiogelu, Byrddau Diogelu Rhanbarthol, Polisi Diogelu Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr, Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE), Safonau Amddifadu o Ryddid, Cam-drin Domestig a Masnachu Dynol a Gwrth-gaethwasiaeth. Eglurodd bod Diogelu yn fusnes i bawb a’i fod yn ymestyn y tu hwnt i gyfarwyddiaeth y gwasanaethau cymdeithasol.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y prif gategorïau o gamdriniaeth, nifer yr atgyfeiriadau diogelu a'r categori camdriniaeth uchaf a gofnodwyd yn 2017/2018, sef esgeulustod, gyda chamdriniaeth gorfforol, camdriniaeth emosiynol/seicolegol a chamdriniaeth ariannol yn dilyn.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ddiweddariad i’r pwyllgor ar MASH, DOLS, adolygiadau ymarfer oedolion, adolygiadau ymarfer plant, llywodraethu a Byrddau Diogelu Rhanbarthol. Eglurodd fod rhaid gofyn y cwestiwn – sut ydym ni’n gwybod fod pobl Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiogel? Yn ddiweddar, cyfarfu’r Bwrdd Partneriaeth i rannu syniadau a chraffu ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn arbennig. Roedd Polisi Gwarchod Corfforaethol, a hefyd gr?p o bencampwyr diogelu. 

 

Gofynnodd Aelod lle'r oedd yr awdurdod gydag atal ac yn benodol, y mater o wrth-gaethwasiaeth. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai'r her oedd sefydlu mwy o ymwybyddiaeth o faterion diogelu a dealltwriaeth o drothwyon. Roedd llai o bobl mewn gofal a reolir, fel bod angen i bobl wybod sut i gadw'n ddiogel a sut i adnabod yr arwyddion cynnar. Roedd y MASH yn wasanaeth ymyrraeth a chyngor cynnar lle gallai gwahanol gyrff ymateb gyda'i gilydd yn gyflym cyn i broblemau godi. Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion fod mwy o ymwybyddiaeth, gyda staff a phobl yn y gymuned yn deall pa arwyddion i chwilio amdanynt a beth i'w wneud. Cafwyd cyflwyniadau ar wrth-gaethwasiaeth a CSE, ond roedd angen mwy o hyfforddiant.

 

Esboniodd DI Anthony Evans fod adrannau arbenigol yn yr heddlu a oedd wedi ymledu i'r cymunedau, a bod hyfforddiant a chyflwyniadau ar gael ar-lein.

 

Cyfeiriodd Aelod at gyfeiriadau'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn yr adroddiad, a gofynnodd i ba raddau y bu'r gwasanaeth ambiwlans yn gysylltiedig. Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod y gwasanaeth ambiwlans ar y Bwrdd Diogelu a bod gan staff fynediad i hyfforddiant.

 

Gofynnodd Aelod a oedd nifer yr Atgyfeiriadau Diogelu a'r nifer a oedd yn bodloni'r trothwy ar gyfer Gweithdrefnau Amddiffyn Oedolion yn unol â'r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Cadarnhaodd y Rheolwr Diogelu ac Ansawdd Oedolion fod hyn yn unol â'r cyfartaledd. Ychwanegodd fod perthynas waith dda gyda phartneriaid, a bod pob atgyfeiriad yn cael ymateb.

 

Gofynnodd Aelod am ddiffiniad o'r trothwyon. Cytunodd y Rheolwr Diogelu Oedolion ac Ansawdd i anfon diffiniad yn unol â'r ddeddfwriaeth i Aelodau.  

 

Gofynnodd Aelod a fu unrhyw newidiadau i'r ffordd yr adroddwyd am achosion cam-drin domestig ac a oedd y ffigyrau'n gywir. Cadarnhaodd DI Anthony Evans fod y niferoedd yn gywir ac yn destun i asesiad risg. Ymchwiliwyd i bob digwyddiad a chofnodwyd dosbarthiad. Roedd yna hefyd asesiadau risg parhaus ac yr oeddent i gyd yn cael eu hadolygu’n gyfnodol. 

 

Gofynnodd Aelod pa gynnydd a wnaed yngl  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 48.

49.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z