Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Iau, 18fed Hydref, 2018 10:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

55.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Mynegodd y Cynghorydd C Webster fuddiant personol yn Eitem 5 ar yr Agenda, gan fod gan ei mab Ddatganiad o AAA. Roedd hi hefyd yn Drysorydd i’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

56.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 71 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  05/09/2018

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:        Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2, dyddiedig 5 Medi 2018, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

57.

Diweddariad ar y Rhaglen Waith i’r Dyfodol (RhWD) pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad ar ran Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio oedd yn rhoi diweddariad gyda golwg ar Raglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol.

 

Roedd Atodiad A i’r adroddiad yn cynnwys adborth o gyfarfodydd blaenorol Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2 ynghyd ag ymatebion i’r rhain lle roedd yn briodol, gan gynnwys unrhyw rai oedd yn weddill.

 

Ynghlwm yn Atodiad B i’r adroddiad, roedd Rhaglen Waith Gyffredinol y Dyfodol ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, oedd yn cynnwys y pynciau a dderbyniodd flaenoriaeth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar gyfer rownd nesaf y Pwyllgorau (yn Nhabl A), yn ogystal â phynciau y teimlid eu bod yn bwysig i gael eu blaenoriaethu yn y dyfodol yn Nhabl B.

 

Atgoffodd y Swyddog Craffu’r Aelodau am y Ffurflen Meini Prawf y gallent ei defnyddio i gynnig eitemau eraill ar gyfer y Rhaglen Waith i’r Dyfodol y gallai’r Pwyllgor wedyn ystyried eu blaenoriaethu mewn cyfarfod yn y dyfodol.

PENDERFYNWYD:       Nodi’r adroddiad a’r wybodaeth ategol fel yr amlinellwyd yn yr Atodiadau oedd ynghlwm.

58.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (ALNET) (Cymru) 2018 pdf eicon PDF 333 KB

Gwahoddedigion:

 

Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Holl Aelodau Pwyllgor Craffu Testun 2

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth I Deuluoedd

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar
Michelle Hatcher, Rheolwr Gr?p Cynhwysiant a Gwella Ysgolion

John Fabes, Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant

Elizabeth Jones, Anghenion Dysgu Ychwanegol Trawsnewid, Consortiwm Canolbarth y De
Denise Inger, Prif Weithredwr Cyfarwyddwr SNAP Cymru

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad i hysbysu’r Pwyllgor am ddatblygiadau Deddf ALNET (2018) yng Nghymru a’r gwaith a wnaed ar draws y rhanbarth i baratoi ar gyfer cyflwyno’r Ddeddf a sut yr oeddem ni fel Awdurdod yn paratoi ar ei chyfer.

 

Amlinellodd Rheolwr Gr?p Cynhwysiant a Gwella Ysgolion brif feysydd yr adroddiad, ac yn dilyn hynny gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan yr Aelodau i’r Gwahoddedigion

 

Teimlai Aelod fod angen rhoi mwy o eglurder o safbwynt cyfrifoldebau’r Ddeddf, megis pwy oedd yn gyfrifol am gwblhau Asesiadau a sut y câi partneriaid eu herio wrth i’w gwaith gael ei asesu. At hynny, nododd fod yna fwriad i recriwtio un aelod o staff i gynorthwyo gyda’r gwaith y byddai’r Ddeddf yn ei greu. Gofynnodd yr Aelodau faint o amser y byddai Asesiad yn ei gymryd i’w gwblhau ac a oedd gan yr awdurdod lleol y capasiti i gyflawni’r gwaith ychwanegol a gâi ei gynhyrchu dan y Ddeddf.

 

Dywedodd Arweinydd Trawsnewid ADY o Gonsortiwm Canolbarth y De (CCD) na fyddai yna fwy o blant i’w cynorthwyo dan y Ddeddf, gan eu bod i gyd wedi eu nodi o fewn y system a ddefnyddid ar hyn o bryd. Ychwanegodd y byddai mwy o ddisgwyl i awdurdodau lleol a’u partneriaid gyflawni gwaith sy’n ofynnol dan y Ddeddf. Fodd bynnag, mae pobl ifanc ag Anghenion Addysg Arbennig ar hyn o bryd yn cael eu hadnabod ac mae eu hanghenion unigol gwahanol yn cael eu hateb, a byddai’r duedd hon yn parhau o dan ALNET. Ychwanegodd ymhellach fod yna fecanweithiau mewn ysgolion i adnabod plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Eglurodd y byddai gwaith dan y Ddeddf newydd yn fwy mandadol mewn rhai meysydd nag ydynt yn awr.

 

Eglurodd Arweinydd Trawsnewid ADY o’r CSC y byddai’r systemau newydd y cynigid eu sefydlu yn caniatáu gwell cydweithio rhwng yn Awdurdod a’i bartneriaid a’i asiantaethau/rhanddeiliaid allweddol. Un o gydrannau allweddol y Ddeddf oedd mynd i’r afael ag unrhyw anghydfod rhwng partneriaid o’r fath. Nododd yr hyn yr oedd un Aelod wedi ei ddweud yn gynharach, mai un swyddog arweiniol sydd wedi cael ei recriwtio i gynorthwyo gyda gwaith ALNET ychwanegol. Fodd bynnag, dywedodd y câi swyddog arweiniol newydd ei recriwtio ym mhob Bwrdd Iechyd sy’n cynnal yr awdurdodau lleol sy’n ffurfio rhan o Gonsortia Canol y De. Byddai polisïau a gweithdrefnau newydd sydd i gael eu cyflwyno dan y Ddeddf hefyd yn caniatáu perchnogaeth well ar y meysydd gwaith gwahanol y mae angen eu prosesu’n fuan.

 

Gofynnodd Aelod am eglurder y byddai’r Ddeddf yn parhau i gefnogi pobl ifanc ag ADY i fyny hyd at 25 mlwydd oed. Dywedodd cynrychiolydd y CSC mai felly y byddai. Ychwanegodd fod BCBC hefyd wedi creu rhaglen bontio ar gyfer unigolion ôl-16 gyda’r bwriad o gysgodi plant ag ADY wrth iddynt fynd yn h?n a mynd ymlaen i Addysg Uwch.

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywiad sylw’r Aelodau at oblygiadau ariannol yr adroddiad, a’r swm sylweddol o gyllid fyddai’n cefnogi’r cynigion ADY newydd, gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 58.

59.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.