Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Iau, 10fed Hydref, 2019 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

96.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

97.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 76 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 16/09/2019

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                   I dderbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 2 a gynhaliwyd ar 16 Medi 2019 fel rhai gwir a chywir.

98.

Atal a Llesiant gan gynnwys Cyfleoedd Oriau Dydd pdf eicon PDF 219 KB

Gwahoddedigion:

 

Susan Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cynghorydd Phil White - Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Jaqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion

Mark Wilkinson, Rheolwr Gr?p, Anabledd Dysgu, Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau

Andrew Thomas, Rheolwr Grwp , Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol

Kay Harries, Hwylusydd a Rheolwr Gweithredu Iechyd a Gofal Cymdeithasol - BAVO

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad, er mwyn rhannu â'r Pwyllgor yr ystod o wasanaethau atal a llesiant a chyfleoedd am gymorth yn y gymuned sy'n cael eu datblygu, a'u pwysigrwydd strategol.

 

Atgyfnerthwyd yr adroddiad â dau Atodiad, Atodiad 1 yn cynnwys cyfres o enghreifftiau astudiaethau achos yn ymwneud â gwaith y rhaglen Cydlynu'r Gymuned Leol, gydag Atodiad 2 yn amlinellu rhestr o Rwydweithiau Cefnogi Cydlynu'r Gymuned Leol yng Nghwm Llynfi, Ogwr a Garw.

 

Rhoddodd amlinelliad cryno o'r adroddiad, ac wedyn cafwyd cyflwyniad PowerPoint gan Bennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.

 

Yna, agorodd y Cadeirydd y ddadl yngl?n â'r adroddiad drwy wahodd cwestiynau gan Aelodau i'r Gwahoddedigion.

 

Holodd Aelod pam bod cynigion yr adroddiad yn canolbwyntio ac yn effeithio ar Gwm Ogwr a chymoedd eraill yn unig, yn hytrach na Phen-y-bont ar Ogwr.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod rhaid i waith Cydlynwyr Cymunedol ddechrau yn rhywle, ac yn yr ardaloedd uchod oedd gwaith wedi'i dargedu yn y lle cyntaf ac ar gyfer y dyfodol. Nid oedd lefel y cyllid i'r fenter wedi bod yn ddigon i ehangu'r rhaglen i leoliadau eraill y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd. Ychwanegodd bod tair swydd Cydlynydd Cymunedol yn cael eu hariannu i gefnogi'r prosiect.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol bod y Cydlynwyr Cymunedol yn cael cefnogaeth gan bum swydd Cyfeiriwr sy'n cael eu cyflogi gan BAVO. Cadarnhaodd mai'r bwriad oedd ehangu'r Cyfleoedd Oriau Dydd sydd wedi'u hamlygu yn yr adroddiad i leoliadau eraill fel oedd y prosiect yn ehangu. Roedd yn obeithiol y byddai adnoddau pellach ar ffurf ffrydiau cyllid yn dod ar gael, er mwyn cyflawni hyn yn y dyfodol agos.

 

Dywedodd yr Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Rheolwr Gweithredu, BAVO, bod cyfran ddatblygu nesaf y gwasanaethau a fydd yn cael ei chyflwyno yn cael ei chyflwyno i ardaloedd eraill y Fwrdeistref Sirol, fodd bynnag, i ddechrau roedd y prosiect hwn wedi canolbwyntio ar le'r oedd angen hyn o ran blaenoriaeth. Fodd bynnag, roedd y pum Cyfeiriwr a oedd yn cefnogi'r Cydlynwyr Cymunedol drwy wasanaethau lleol ar sail model "Dinasyddiaeth Weithredol," wedi'u lleoli yn ardaloedd ehangach o fewn y cymoedd a thu hwnt iddynt, sef Cwm Calon (Maesteg), Porth y Cymoedd a Phencoed, T? Penybont, Pen-y-bont ar Ogwr a Chanolfan Fywyd y Pîl (i breswylwyr y Pîl a Phorthcawl.)

 

Rhagwelir y bydd y gwasanaeth yn ehangu ymhellach yn y 18 mis nesaf.

 

Roedd Aelod yn bryderus yngl?n â chynaliadwyedd y gwasanaethau sydd ar gael, gan fod cefnogaeth ar gyfer y rhain yn cynnwys y 3ydd sector yn bennaf, yn cynnwys gwirfoddolwyr. Gofynnodd hefyd a oes digon o gyllid ar gael i hyfforddi staff i gefnogi gwaith datblygu'r fenter.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant drwy nodi bod gweithio mewn partneriaeth wrth i'r gwasanaeth ddatblygu yn bwysig i ddarparu

cynaliadwyedd angenrheidiol i'r prosiect.

 

Ychwanegodd yr Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Rheolwr Gweithredu, BAVO, y byddai ffrydiau cyllid yn cael eu ceisio er  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 98.

99.

Trosolwg a Chraffu - Adborth o Gyfarfodydd pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                        Penderfynodd y Pwyllgor i dynnu'r eitem hon yn ôl yng ngoleuni'r rhesymau a roddwyd gan y Swyddog Craffu yn y cyfarfod a chael adroddiad diweddariad yn y Pwyllgor nesaf. 

100.

Diweddariad ar y Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad yngl?n â'r uchod.

 

Ynghlwm ag Atodiad A yr adroddiad oedd y Blaenraglen Waith Cyffredinol i'r Pwyllgorau Trosolwg Pwnc a Chraffu, a oedd yn cynnwys pynciau blaenoriaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar gyfer y cyfuniad nesaf o Bwyllgorau Trosolwg Pwnc a Chraffu yn Nhabl A, yn ogystal â phynciau a dybiwyd yn bwysig i'w blaenoriaethu yn y dyfodol yn Nhabl B.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor o'r ffurflen meini prawf y gall Aelodau ei defnyddio i gynnig eitemau eraill ar gyfer y Blaenraglen Waith, y gall y Pwyllgor yna ystyried rhoi blaenoriaeth iddynt mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Mewn perthynas â thudalen 42, h.y. yn Atodiad A, cytunodd Aelodau bod angen blaenoriaethu Trafnidiaeth o'r Cartref i'r Ysgol mewn cyfarfod Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 2, yn hwyr eleni/cynnar flwyddyn nesaf.

 

Teimlodd Aelod y dylid ystyried ansawdd y coetsys a'r bysiau sy'n mynd â disgyblion i ysgolion ac oddi yno wrth drafod yr eitem hon, gan fod cerbydau rhai darparwyr yn y gorffennol heb fodloni'r safon ofynnol a bod y cerbydau hyn ar brydiau wedi bod yn destun cwynion yn sgil eu hoedran a/neu gyflwr. Roedd hwn yn fater pwysig yr oedd angen i Aelodau ymchwilio iddo fel rhan o'u rôl fel rhieni corfforaethol.

 

O ran Gwahoddedigion y cyfarfod, ychwanegwyd felly y dylid cynnwys aelod o staff o dîm Caffael y Cyngor, oherwydd er ei bod yn bwysig sicrhau gwerth am arian yng Nghytundebau'r Cyngor, mae diogelu aelodau mwyaf bregus cymdeithas yn hollbwysig.

 

PENDERFYNWYD:                      I dderbyn a nodi'r adroddiad a'r wybodaeth atodol sydd ynghlwm ag Atodiad A yr adroddiad.   

101.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim.