Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

107.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

108.

Trafnidiaeth rhwng y Cartref a'r Ysgol pdf eicon PDF 174 KB

Gwahoddedigion

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Mark Shephard – PrifWeithredwr

Robin Davies, Rheolwr Grwp Strategaeth Fusnes a Pherfformiad

Tony Hart, Uwch Swyddog Trafnidiaeth

Jonathan Parsons, Rheolwr Gr?p Gwasanethau Cynllinio a Datblygu

 

Cofnodion:

Bu i Reolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad gyflwyno adroddiad Cartref i'r Ysgol yn dilyn adolygiad annibynnol yn ddiweddar gan Peopletoo, a diweddarodd yr Aelodau ar y mesuriadau a adnabuwyd a chynigion yn ymwneud â'r statws presennol ym mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Nododd yr Aelodau nad oedd cynrychiolwyr o Wasanaethau Cymdeithasol wedi derbyn gwahoddiad i fynychu er eu perthnasedd i bwnc y mater. Dywedodd Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad bod swyddogion angen asesu a oedd y cynigion yn yr adolygiad yn ddibynadwy neu wedi'u derbyn, a bod angen pennu ar hyn.

 

Bu i'r Aelodau ofyn faint o ddysgwyr a ellir all deithio ar un bws. Dywedodd Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad bod yr adolygiad wedi adnabod y cyfle i gomisiynu cerbydau Gwasanaethau Cymdeithasol (maint bws mini) fyddai fel arall yn cael eu defnyddio i gludo dysgwr gartref yn unig. Nododd na fyddai nifer sylweddol o fysys ar gael, er gwaethaf y fantais i rai dysgwyr a'r fantais ariannol i'r Awdurdod Lleol (ALl).

 

Mynegodd yr Aelodau yr angen i gyflwyno llwybrau cerdded mewn rhai wardiau, e.e. Penyfai, gan dderbyn y dylai plant ysgol gynradd gerdded i'r ysgol. Ymatebodd y Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad drwy ddweud nad oedd pob llwybr cerdded ar gael ac yn ddiogel, a dim ond y llwybrau hynny a ystyriwyd yn ddiogel gan ddeddfwriaeth fyddai’r ALl yn eu hystyried. Yn unol â deddfwriaeth, ni fyddai gwaith yn cael ei gynnal ar y llwybrau nad oedd ar gael yn hanesyddol. Ategwyd hyn gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd a gytunodd hefyd â'r Aelodau ar y ffaith bod y pwnc yn ffurfio elfen bwysig o'r cwricwlwm a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Nododd yr Aelodau fod y cynnig i beidio â darparu trafnidiaeth i ysgolion, ac eithrio'r rhai oedd wedi'u diogelu (ysgolion Cyfrwng Cymraeg a Ffydd), mewn perthynas â Thrafnidiaeth Addysg Ôl-16, yn wahaniaethol a bod posib iddo gael effaith niweidiol ar dderbyniadau i ysgolion; Ni adnabuwyd ysgolion Ffydd yn yr adroddiad, a'r mater oedd yn peri problem sylweddol oedd y mwyafrif o Gatholigion Rhufeinig ym mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr oedd yn byw ym Maesteg, a sut fydden nhw'n gallu mynychu ysgolion megis Esgob Llandaf, 2) bydd cydlynu darpariaeth mewn ysgolion yn caniatáu dysgwyr i fynychu ysgol wahanol. Sut y trefnir trafnidiaeth ac ar draul pwy? Cadarnhaodd Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad fod yr effaith ar Drafnidiaeth Ôl-16 wedi ei gydnabod a bydd gan y Cabinet adroddiad llawn i'w gyflwyno iddynt. Yn ogystal, cadarnhawyd nad oedd cynnig i dynnu Trafnidiaeth Ôl-16 o'r ysgolion oedd wedi'u diogelu, oedd yn cyfateb i un ysgol Cyfrwng Cymraeg ac ysgol Ffydd, ym mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr. Ymhellach, gall argaeledd trafnidiaeth effeithio ar y penderfyniad i fynychu ysgol Ffydd. Roedd y Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad yn cydnabod y risg, ond ategodd bod y cynnig yn diogelu ysgolion Cyfrwng Cymraeg a Ffydd yn unig, a bod y Cabinet yn gyfrifol am wneud y penderfyniad. Cydnabuwyd y risg ymhellach  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 108.

109.

Trosolwg a Chraffu - Adborth o Gyfarfodydd pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Craffu adroddiad i'r Aelodau oedd yn cynnwys adborth o'r cyfarfod blaenorol, SOSC2 mewn perthynas â'r eitem ar Atal a Llesiant, yn cynnwys Cyfleoedd Dydd i'w trafod a'u cymeradwyo.

 

Bu i'r Aelodau dderbyn yr adborth, a rhoi statws gwyrdd i bob un. Dywedodd nad oeddynt yn dymuno ychwanegu unrhyw sylwadau ychwanegol.

110.

Diweddariad ar y Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad i'r aelodau'r o'r eitemau a flaenoriaethwyd gan y COSC, oedd yn cynnwys yr eitem nesaf wedi'i dirprwyo i'r Pwyllgor.

 

Cytunodd yr Aelodau gyda'r ddwy eitem mewn perthynas â Grant Trawsnewid a Phrosiect Ailfodelu Gwasanaethau Preswyl Plant.

 

Gofynnodd yr Aelodau bod Cyfarfod Cyfunol SOSC1 a SOSC 2 yn cael ei gynnal ar 9 Mawrth er mwyn derbyn yr adroddiadau, oherwydd effaith drawsbynciol Trafnidiaeth Dysgwr ar Wasanaethau Cymdeithasol a'r Pwyllgor.

 

111.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.30

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z