Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Galvin/Andrew Rees
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyaeth Cofnodion PDF 200 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 29/11/2019
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 2, dyddiedig 29 Tachwedd 2018, fel cofnod gwir a chywir. |
|
Taliadau Uniongyrchol PDF 265 KB Gwahoddedigion: Cynghorydd Phil White - Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar Susan Cooper - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Jaqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion Pete Tyson - Rheolwr Gr?p - Contractau Comisiynu a Monitro Contractau Arron Norman - Rheolwr Cyllid Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Comisiynu Contractau adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar ddatblygiadau diweddar a wnaed a’r datblygiadau arfaethedig i’r dyfodol mewn perthynas â Chynllun Taliadau Uniongyrchol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ychwanegodd bod yr adroddiad hwn hefyd yn helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyflawni ei ddyletswyddau dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Esboniodd y Rheolwr Gr?p Comisiynu Contractau’r cefndir i’r taliadau uniongyrchol a’r gofynion a roddir ar awdurdodau lleol mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol. Esboniodd bod cyfanswm y bobl sy’n derbyn taliadau uniongyrchol o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi mwy na dyblu ers 2012 i 322 yn 2019. Cydnabyddir bod y gwasanaeth yn parhau i ganolbwyntio’n bennaf ar Anableddau Dysgu, Plant Anabl ac Anableddau Corfforol.
Er mwyn cynyddu ac ehangu’r posibilrwydd ar gyfer taliadau uniongyrchol, nododd y Rheolwr Gr?p Comisiynu Contractau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi comisiynu’r Sefydliad Gofal Cyhoeddus i gynnal adolygiad o’r cynllun taliadau uniongyrchol ac i ddatblygu strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer symud ymlaen. Cafwyd ymgysylltu ac ymgynghori gan gynnwys arolwg ysgrifenedig a bostiwyd i bob un o ddefnyddwyr y gwasanaeth. Defnyddiwyd adborth i lywio datblygiad strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer taliadau uniongyrchol sy’n canolbwyntio ar ddeg maes allweddol i’w symud ymlaen a’i weithredu dros y 3 blynedd nesaf. Amlinellodd y nodau ac amcanion gan esbonio bod y gyfarwyddiaeth, ochr yn ochr â’r adolygiad, hefyd wedi ystyried ac adolygu’r cyfraddau a dalwyd ar gyfer taliadau uniongyrchol. Cynigiwyd y dylid cydgrynhoi a symleiddio hyn yn un swm a chodi’r gyfradd a delir i’r sawl sy’n derbyn taliadau uniongyrchol ac sy’n dewis cyflogi cynorthwywyr personol i ddarparu cymorth iddynt i £12 yr awr. Ychwanegodd bod contract y gwasanaeth cymorth taliadau uniongyrchol yn dod i ben ar 4 Gorffennaf 2019 a bod swyddogion yn y broses o adolygu ac ail-gomisiynu’r gwasanaeth; byddai hynny’n digwydd yn unol â gofynion contractiol a gweithdrefnol perthnasol.
Amlinellodd y Rheolwr Gr?p Comisiynu Contractau oblygiadau cost gweithredu’r taliadau uniongyrchol newydd ar gyfer cymorth personol gan amcangyfrif y byddai hynny oddeutu £106k y flwyddyn. Roedd darpariaeth wedi’i gwneud ar gyfer hyn o fewn cyllideb 2019/20.
Gofynnodd aelod am enghraifft o gais arloesol a gwybodaeth am y broses apelio pe byddai cais yn cael ei wrthod. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles bod y ffordd o gynnal asesiad wedi newid a bod y broses nawr yn canolbwyntio mwy ar ddeilliannau. Roedd y broses yn seiliedig ar beth oedd yn bwysig i’r unigolyn a bod swm ariannol yn cael ei ddarparu i’r unigolyn brynu eu cymorth eu hunain yn hytrach na dyraniad o oriau gofal. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles enghraifft arloesol o ddefnyddiwr gwasanaeth a oedd yn gallu prynu tocyn tymor a thalu i’w Gynorthwyydd Personol fynd gydag ef i wylio pêl-droed unwaith bob pythefnos a bod hyn yn rhoi mwy o fudd personol na 5 diwrnod yr wythnos mewn gwasanaeth dydd. Gallai unigolyn hefyd brynu gwasanaethau o’r awdurdod lleol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 67. |
|
Diweddariad ar y Rhaglen Waith i’r Dyfodol PDF 142 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd y Swyddog Craffu wrth yr aelodau mai’r eitem nesaf i’w hystyried gan y pwyllgor yng nghyfarfod 27 Mawrth 2019 fyddai CAMHS. Roedd cais am adroddiad eisoes wedi’i wneud, ond gofynnodd i aelodau roi gwybod iddi os oeddynt eisiau gofyn am unrhyw wybodaeth arall.
Nododd y Swyddog Craffu y byddai gweithdy ar raglen waith i’r dyfodol ym mis Ebrill a fyddai’n rhoi cyfle i aelodau rannu eu safbwyntiau.
Gofynnodd Aelodau i’r Swyddog Craiff ychwanegu diweddariadau chwarterol ar Daliadau Uniongyrchol i’r rhaglen waith.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor
(i) Yn cymeradwyo’r adborth o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 2 ac yn nodi’r rhestr o ymatebion gan gynnwys rhai sy’n dal heb eu derbyn yn Atodiad A i’r adroddiad. (ii) Yn nodi unrhyw wybodaeth ychwanegol yr oedd y Pwyllgor yn dymuno’i derbyn ar yr eitem nesaf a ddirprwywyd iddynt gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, ac unrhyw eitem arall yn y Rhaglen Waith i’r Dyfodol a ddangosir yn Atodiad B. (iii)Yn nodi unrhyw eitemau ychwanegol gan ddefnyddio’r ffurflen meini prawf, ar gyfer ystyriaeth ar Raglen Waith Craffu i’r Dyfodol.
|
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys.
Daeth y cyfarfod i ben am 11:15 am. |