Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Julie Ellams  Democratic Services Officer

Eitemau
Rhif Eitem

102.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim  

103.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 88 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  10 10 19

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                I dderbyn Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 1 a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2019 fel rhai gwir a chywir.

104.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24 pdf eicon PDF 299 KB

Gwahoddedigion

 

Susan Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cynghorydd Dhanisha Patel – Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol

Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant

Christopher Morris, Rheolwr Cyllid - Rheoli Cyllidebau: Gwasanaethau cymdeithasol a Lles / Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ddrafft Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24 a oedd yn nodi blaenoriaethau gwario'r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllideb sydd wedi eu targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd y strategaeth hefyd yn cynnwys rhagolygon ariannol ar gyfer 2020-2024 a drafft manwl o gyllideb refeniw 2020-21.

 

Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y cytundeb dros dro gan Lywodraeth Cymru ac adroddodd bod cynnydd gwirioneddol o 4.57% wedi bod, neu £8.878 miliwn. Er bod hyn yn welliant sylweddol o gymharu â'r rhagdybiaeth "fwyaf tebygol", nid oedd yn cydnabod sawl gofyniad newydd y byddai'n rhaid i'r Cyngor eu bodloni.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Gyllideb Refeniw Ddrafft 2020-21, y Cronfeydd a Glustnodwyd Defnyddiadwy a'r Pwysau Cyllidebol ar gyfer 2020-21. Amlinellodd hefyd y Cynigion Lleihau Cyllideb fel y rhestrwyd yn atodiad B yr adroddiad.  

 

Gofynnodd aelod pe bai mater yn croesi mwy nag un cyfarwyddiaeth, a fyddai staff yn ymwneud yn bennaf gyda'r hyn a fyddai'n berthnasol i'w cyfarwyddiaeth yn unig. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod sawl peth yn gorgyffwrdd, ee. roedd Cymorth Cynnar yn cael ei reoli yn Addysg, fodd bynnag roedd cyswllt anorfod gyda LAC. Fodd bynnag, un dull oedd gan yr awdurdod, waeth ymhle mae'r mater yn codi. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithas a Chymorth Cynnar bod gorgyffwrdd tebyg gydag Aelodau eraill o'r Cabinet a bod yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Nododd aelod arall ei bod yn cefnogi gweithio ar draws cyfarwyddiaethau, ond ei bod yn pryderu y gallai bod rhai meysydd nad oeddent wedi derbyn y sylw yr oeddent yn ei haeddu.

 

Gofynnodd aelod a oedd problemau gyda'r system atgyfeirio, ac yn benodol, atgyfeiriadau a neilltuwyd yn anghywir a oedd wedi cymryd peth amser i'w cydnabod. Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion bod rhai atgyfeiriadau wedi dod trwy'r pwynt mynediad cyffredin, lle roeddent wedi eu blaenoriaethu ar sail angen. Ar y cyfan, roedd proses gadarn mewn lle ar gyfer atgyfeirio aelodau, ac roedd y rhan helaeth o ymatebion wedi eu gwneud o fewn yr amserlen briodol. Os oeddent am gymryd mwy o amser, anfonwyd cydnabyddiaeth.

Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant bod pob atgyfeiriad yn ei maes yn dod trwy MASH. Roedd yr heddlu yn ymwneud ag atgyfeiriadau o natur ddifrifol ac yn ôl yr angen, trefnwyd cyfarfodydd yn cynnwys yr oll bartneriaid a gwnaed penderfyniad o fewn 24 awr. Roedd gan yr awdurdod gyfradd lwyddo o 100% gyda'r dangosydd hwnnw.

 

Gofynnodd aelod a oedd unrhyw duedd o safbwynt ystadegau salwch a'r goblygiadau ariannol. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod salwch yn broblem, fodd bynnag, yn ystod y chwarter diwethaf, roedd gwelliant wedi bod. Roedd hwn yn wasanaeth yn cynnig lefel uchel o ofal personol, a phan oedd aelod o staff yn sâl, roedd yn rhaid iddynt gael eu cyflenwi a oedd yn cael effaith uniongyrchol ar y gyllideb. Roedd ailfodelu gwasanaethau hefyd wedi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 104.

105.

Diweddariad Rhaglen Gwaith pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad yngl?n â'r Blaenraglen Waith.

 

Roedd y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 2 i fod i dderbyn yr adroddiad Trafnidiaeth o'r Cartref i'r Ysgol ar 5 Chwefror, y Grant Trawsffurfio ar 5 Mawrth 2020 ac Ailfodelu Gwasanaethau Preswyl Plant ym mis Ebrill.

 

Eglurodd y Swyddog Craffu y gallai problem godi o safbwynt argaeledd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar gyfer y cyfarfod 5 Mawrth a byddai'n cynghori yn y cyfarfod nesaf, pe bai angen newid y dyddiad.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am gael gwahodd cynrychiolydd â phrofiad cynllunio a Chynlluniau Datblygu Lleol i'r cyfarfod pan drafodir Trafnidiaeth o'r Cartref i'r Ysgol.

106.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z