Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Llun, 14eg Rhagfyr, 2020 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB

Media

Eitemau
Rhif Eitem

126.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd D White fuddiant personol yn Eitem 4 ar yr agenda, am fod ei wraig yn Swyddog Cefnogi Busnes yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles. Datganodd fuddiant personol hefyd, am ei fod yn cysgodi.

 

Datganodd y Cynghorydd C Webster fuddiant personol yn Eitem 4 ar yr agenda, am fod ei mab newydd gael ei dderbyn i’r Gwasanaethau Cymdeithasol fel rhan o’r gwasanaeth pontio, Tîm Plant Anabl.

127.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 58 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  11 11 20.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:            Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2, dyddiedig 11 Tachwedd 2020, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

128.

Diweddariad llafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Gwahodd

Claire Marchant, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cynghorydd

Nicole Burnett, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant

Pete Tyson, Rheolwr Grwp - Contractau Comisiynu a Monitro Contractau

Andrew Thomas, Rheolwr Grwp - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol

 

Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol - y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant a Rheolwr y Gr?p - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol gyflwyniad ar effaith Covid-19 ar y Gyfarwyddiaeth a’r ymateb.

 

Gofynnodd Aelodau’r cwestiynau canlynol:

 

Gofynnodd Aelod a fyddai cyswllt â Phlant sy’n Derbyn Gofal (LAC) a’u rhieni yn briodol yn ôl lefel Haen Covid-19, gan nodi’r newid posibl i Haen 4 yn fuan gan Lywodraeth Cymru. Gofynnodd hefyd a oedd asesiadau risg yn ddogfen fyw ac a oedd gwiriadau’n cael eu cynnal gyda rhieni a gofalwyr maeth i sicrhau bod plant yn ddiogel ac nad oedd unrhyw symptomau o Covid-19.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol y Plant ei fod wedi bod yn benderfyniad anodd atal pob cyswllt wyneb yn wyneb o blaid cyswllt o bell. Unwaith y caniateid i gyswllt wyneb yn wyneb ailddechrau, rhoddid blaenoriaeth i grwpiau fel plant newydd-anedig a rhieni wedi gwahanu, plant oedd wedi eu hailsefydlu gyda’u rhieni bedydd a brodyr a chwiorydd gyda pherthnasau agos. Roedd yr holl gysylltiadau wedi cael eu hailgychwyn. Roedd y Gyfarwyddiaeth yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar yr asesiad dau gam, lle câi pob sefyllfa ei hasesu er mwyn canfod i ba raddau yr oedd yn angenrheidiol a graddau’r risg. Polisi’r Gyfarwyddiaeth oedd bod pob plentyn yn cael cysylltiad yn y lle cyntaf a, phe bernid bod hynny’n angenrheidiol, cynhelid yr asesiad dau gam. Gallai cyswllt ddigwydd yn yr awyr agored ond roedd hyn yn anodd yn ystod y gaeaf. Roedd canolfannau bellach yn cael eu defnyddio ac, mewn partneriaeth â Landlordiaid Corfforaethol, Iechyd a Diogelwch ac Iechyd yr Amgylchedd, câi glanhau dwfn ei gynnal ar ôl pob sesiwn gyswllt. Roedd y staff yn gwisgo cyfarpar diogelu personol a chynorthwyid y plant a’u teuluoedd i sicrhau bod yr holl ganllawiau’n cael eu dilyn. Câi asesiadau risg eu hadolygu’n barhaus fel, pe bai yna ragor o gyfyngiadau / newid yn y canllawiau, y câi trefniadau lleol eu hadolygu gan ymarferwyr a rheolwyr yn unol â hynny, e.e. datblygwyd atodiad pan osodwyd cyfyngiadau llym Covid-19 ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Hydref.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw fesurau diogelwch ar waith ar gyfer cyfnewid rhoddion rhwng teuluoedd ac a fyddai’r rhain yn destun cyfnod cwarantin o 72 awr.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol y Plant fod hyn yn her a bod trafodaethau’n parhau. Roedd yn ddealladwy y byddai rhieni’n dymuno rhoi anrhegion. Pe bai plant yn symud i gyswllt corfforol, byddai angen rheoli’r sefyllfaoedd hyn ac asesu’r risg.

 

Roedd Aelod yn deall bod Pen-y-bont ar Ogwr yn arafach nag awdurdodau lleol eraill yn aildrefnu cyswllt i blant a gofynnodd beth oedd y rheswm dros yr oedi hwn. Yn ail, gofynnodd a fyddai Pen-y-bont ar Ogwr yn ystyried ychwanegu plant ag anghenion arbennig at eu grwpiau blaenoriaeth ar gyfer cyswllt wyneb yn wyneb oherwydd bod cyswllt ar-lein yn anaddas ar gyfer ymgysylltu. Gofynnodd sut yr oedd plant yn cael eu gweld fel blaenoriaeth pan nad oedd gan y rhai oedd yn mynychu ysgolion arbennig Weithiwr Cymdeithasol. Yn drydydd, gofynnodd yr Aelod faint o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 128.

129.

Diweddariad ar y Rhaglen Waith i’r Dyfodol pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu yr adroddiad. Dywedodd y byddai’r Aelodau’n cofio i’r Cyngor gael gwybod y byddai Setliad Ariannol Llywodraeth Leol gan Lywodraeth Cymru yn hwyrach na’r disgwyl, ac felly y byddai Pwyllgorau Craffu yn ystyried craffu ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar ôl i’r Cabinet ystyried y cynigion drafft ar y 19eg o  Ionawr, yn hytrach na chylch cyfarfodydd mis Rhagfyr, fel y cynlluniwyd yn wreiddiol. 

 

Fel y nodwyd yn y tabl ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, ac yn dilyn cymeradwyaeth yng Nghyngor mis Tachwedd roedd dyddiadau cyfarfodydd Craffu wedi cael eu symud i:   

 

20 Ionawr am 10a.m. – Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Drafft ar gyfer Cyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Chyfarwyddiaeth Cymunedau.

 

21 Ionawr am 10a.m. – Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Drafft ar gyfer Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a Chyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr.

 

Ym mharagraff 4.5, atgoffwyd y Pwyllgor am ffurflen y Meini Prawf, y gallai Aelodau ei defnyddio i gynnig eitemau pellach ar gyfer y Flaenraglen Waith, y gallai’r Pwyllgor wedyn eu hystyried ar gyfer eu blaenoriaethu mewn cyfarfod yn y dyfodol. Pwysleisiai Ffurflen y Meini Prawf yr angen i ystyried materion megis effaith, risg, perfformiad, y gyllideb a chanfyddiad y gymuned wrth nodi pynciau i ymchwilio iddynt ac i sicrhau cyfrifoldeb strategol am Graffu a manteisio i’r eithaf ar y cyfle i gael effaith.

 

Nid oedd eitemau pellach i’w hystyried ar gyfer y Flaenraglen Waith am weddill y calendr dinesig o gyfarfodydd yn defnyddio’r ffurflen gytunedig, a gellid ailedrych ar hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Pwyllgor yn nodi’r eitem nesaf ar gyfer Blaenraglen Waith y Pwyllgor a nodwyd ym mharagraffau 4.1 o’r adroddiad.

130.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.