Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: o bell - trwy Dimau Microsoft

Cyswllt: Gwasaneathau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

136.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

137.

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) Arolwg o Ofal Cartref mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 126 KB

Gwahoddwyr:

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cynghorydd Nicole Burnett - Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Jackie Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Carol Owen - Rheolwr Gwasanaeth Darparwyr - Cefnogaeth Cartref/Gwasanaethau Llety

Jane Lewis - Rheolowr Gwasanaethau Gweithredol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad, a’i gyngor oedd ei bod hi’n bwysig i adrodd ar adroddiadau rheoliadol mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a oedd yn berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor Craffu hwn. Talodd deyrnged i Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, fel yr unigolyn sy’n gyfrifol am y gwasanaeth, i’r staff a gweithlu’r rheng flaen, yn ogystal â’r Rheolwr Darparwr Gwasanaethau - Cymorth Cartref/Gwasanaethau Llety a’r Rheolwr Gwasanaethau Gweithredol a oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Yna cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr adroddiad.

 

Diolchodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y Swyddogion a oedd yn bresennol am yr adroddiad a’r sylwadau cadarnhaol a dderbyniwyd gan bobl a oedd dan ofal. Roedd hi’n teimlo fod gweithwyr gofal yr Awdurdod yn haeddu derbyn y ganmoliaeth uchaf, ac roedd yn awyddus iawn i ddangos ein diolchgarwch am eu gwaith. Dywedodd ei bod mor falch a diolchgar o bawb am eu cyfraniad.

 

Gofynnodd yr Aelodau'r canlynol:

 

Nododd un Aelod ei bod hi’n bleser darllen yr adroddiad, gan nodi’r dyfyniad derbyniol ar bwynt 4.3 yr adroddiad. Fel Aelodau, roedd hi’n hawdd craffu a beirniadu ar unrhyw adeg, ond pan dderbynnir arolygiadau ac adroddiadau tebyg i’r rhain, fe ddylid rhannu’r clod hwnnw â phawb yn y Gwasanaeth.

 

Nododd Aelod arall ei bod hi’n falch o’r ffaith fod gan yr Awdurdod record dda o ran gofalu am bawb. Nododd fod lefelau salwch, heb gyfrif cyfnod y Pandemig, yn eithaf uchel yn y proffesiwn gofal, a bod hynny’n ddealladwy. Gofynnodd yr Aelod beth oedd y lefelau salwch yn ystod y pandemig.

 

Esboniodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod yna gyfnodau ers dechrau’r pandemig, lle’r oedd yr absenoldeb yn uwch. Roedd rhai o’r timau wedi gweld bod gostyngiad o 25% yn nifer y staff. Roedd rhai yn dioddef gyda salwch oedd yn gysylltiedig â Covid-19 a rhai’n hunanynysu fel canlyniad i’r broses profi ac olrhain. Yn y sector gofal, fe welwn fod ffigyrau uchel ymysg staff gofal uniongyrchol er, trwy gydol y pandemig, yr hyn oedd yn bosib oedd edrych ar y gweithlu’n gyffredinol, gyda staff yn barod i fynd i weithio mewn lleoliadau gwahanol er mwyn llenwi’r lefelau salwch hynny. Doedd gan Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y lefelau salwch i law ond, yn y gwasanaethau i oedolion, roedd y sefyllfa ychydig bach yn uwch na’r hyn oedd y flwyddyn flaenorol ac roedd hynny’n cynnwys sefyllfaoedd Covid-19. Roedd rhannau o’r gwasanaeth lle cafwyd lefelau isel o salwch ac eraill lle gwelwyd timau cyfan yn sâl ar rai adegau. Yn ôl y dystiolaeth, yr hyn a ddangosodd yr adroddiad oedd, tra bod rhai lefelau o salwch, roedd y gwasanaeth yn parhau i gyflenwi gofal a chynlluniau cymorth i bawb ac yn gallu delio â phob rhan o’r gwasanaeth a oedd ar waith.        

 

Nododd un Aelod ardaloedd lle mae angen gwelliant yn 4.7 a gofyn sut y deliwyd â’r rhain. Nododd yr Aelod hefyd yn 4.8 y geiriad ‘ar sail angen gwybod’, gan holi am esboniad. 

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 137.

138.

Adroddiad Enwebu Pencampwr Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio adroddiad, gyda’r pwrpas o ofyn i’r Pwyllgor i enwebu un Aelod fel ei Bencampwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli’r Pwyllgor fel aelod sy'n cael ei wahodd i gyfarfodydd Rhianta Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet.

 

Gwahoddwyd enwebiadau gan y Cadeirydd, ac yn dilyn hynny

 

PENDERFYNWYD:                        Y dylid enwebu’r Cynghorydd. P J White i gynrychioli’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 2 fel un fyddai'n cael ei wahodd i gyfarfodydd Rhiant Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet.

           

139.

Enwebiad i Banel Craffu Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio adroddiad, gyda’r pwrpas o ofyn i’r Pwyllgor i enwebu un Aelod i eistedd ar Banel Craffu Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Gwahoddwyd enwebiadau gan y Cadeirydd, ac yn dilyn hynny

 

 

PENDERFYNWYD:                        Y dylid enwebu’r Cynghorydd. P J White i gynrychioli’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 2 fel un sy'n cael ei wahodd i gyfarfodydd Panel Craffu Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus. 

 

140.

Y Diweddaraf ar y Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch-swyddog Gwasanaethau Democrataidd - Craffu, amlinelliad drafft arfaethedig y Blaenraglen Waith (BRW) (Atodiad A) i’r pwyllgor i’w drafod a’i ystyried, gan ofyn i unrhyw wybodaeth benodol a nodir gan y Pwyllgor gan ei chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys gwahoddedigion maen nhw’n dymuno iddyn nhw fynychu, gofyn i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i’w hystyried ar y Blaenraglen Waith gyda golwg ar y meini prawf dewis ym mharagraff 4.6 a gofyn i’r Pwyllgor i nodi y byddai adroddiad ar ddrafft arfaethedig y Blaenrhaglenni Gwaith ar gyfer y Pwyllgor yng nghyfarfod nesaf COSC, gyda sylwadau gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun priodol, yn dilyn ystyriaeth yn eu Cyfarfodydd ym mis Mehefin.

 

 

Trafododd Aelodau’r Pwyllgor y canlynol:

 

Holodd Aelod a fyddai’r adroddiad ar Raglen Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a oedd yn dod i'r pwyllgor ym mis Gorffennaf, yn gallu delio ynghylch sut oedd y gwasanaeth am weithredu yn y flwyddyn sydd i ddod, o ran gweithio o bell ac o gartref, a beth all hynny ei olygu i’r gwasanaeth ac a fyddai/os bydd pethau'n gwella.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am y diweddaraf ar y canlynol:

 

  1. Beth sy’n digwydd ynghylch gweithio o bell / wyneb-yn-wyneb i’r Aelodau yn y flwyddyn o’n blaenau?

 

  1. Mae staff wedi derbyn Cyfarpar Sgrin Arddangos ar gyfer gweithio o gartref, ond beth am y gofynion i Aelodau i gwblhau asesiadau CSA?

 

  1. A roddwyd ystyriaeth i Aelodau o ran amseroedd addas ar gyfer cyfarfodydd / egwyl?

 

Cododd Aelod y mater ynghylch y ffaith nad oedd ymateb wedi bod i’r cwestiynau a geisiwyd yn y cyfarfod blaenorol ynghylch Diogelu. Yn ôl y Cadeirydd, fe fyddai’n cael ei godi gyda’r Gyfarwyddiaeth yng Nghyfarfod nesaf y Swyddogion Cynllunio, sef yr angen i ymateb mewn da bryd.

 

Ni chafwyd fod unrhyw eitemau pellach i’w hystyried ar y Blaenraglen Waith gyda golwg ar y meini prawf dewis yn 4.6, ac y gellid ailedrych ar hyn yn y cyfarfod nesaf. 

 

Ni chafwyd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor yn ystyried a chytuno ar amlinelliad drafft arfaethedig y Blaenraglen Waith yn Atodiad A, gan nodi y byddai adroddiad ar y Blaenrhaglenni Gwaith drafft arfaethedig ac unrhyw adborth gan y Pwyllgor, yn cael eu hadrodd yn ôl yng nghyfarfod nesaf COSC.

 

141.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z