Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democratic Services Officer

Eitemau
Rhif Eitem

60.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Mynegodd y Cynghorydd JE Lewis fuddiant personol yn Eitem 4 ar yr Agenda – Strategaeth Gyllido Tymor Canol 2019-20 i 2022-23 am fod ei h?yr yn mynychu Dechrau’n Deg.

61.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 82 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/10/18

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2, dyddiedig 18 Hydref 2018, fel cofnod gwir a chywir. 

62.

Strategaeth Ariannol Tymor Canol 2019-20 i 2022-23 pdf eicon PDF 242 KB

Gwahodedigion:

 

Cllr Phil White, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cllr Dhanisha Patel, Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol  

Sue Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Jackie Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant

Arron Norman, Rheolwr Cyllid - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Strategaeth Ariannol Tymor Canol ddrafft (SGTC) 2019-20 i 2022-23, sy’n esbonio blaenoriaethau gwario’r Cyngor, yr amcanion buddsoddi allweddol a meysydd y gyllideb sydd wedi eu targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd hefyd yn cynnwys rhagolygon ariannol ar gyfer 2019-23 a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2019-20.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at gyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol oedd yn debygol o arwain at ostyngiad yn y Grant Cefnogi Refeniw o 0.33% o gymharu â’r gostyngiad o 0.6% a ragdybid o’r blaen. Ystyriai’r Pwyllgor y dylai ohirio ystyriaeth o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol a chael cyfle i ailedrych ar gyllideb Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant unwaith y byddai effeithiau’r cyllid ychwanegol wedi eu cymryd i ystyriaeth. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Pwyllgor nad oedd manylion y setliad terfynol a chanlyniad yr ymgynghoriad ar y gyllideb yn hysbys eto, er y byddai cyfeiriad teithio’r gyllideb yn aros yr un fath. Cadarnhaodd yr Aelod o’r Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y cyllid ychwanegol a disgwylid am y manylion terfynol. Dywedodd na fyddai’r setliad terfynol yn hysbys tan 18 Rhagfyr 2018 a bod goblygiadau gostyngiad o 0.33% yn y Grant Cefnogi Refeniw yn dal i gael eu gwerthuso. Ystyriai’r Pwyllgor y byddai angen iddo graffu a gwneud sylwadau ar y gyllideb pan fyddai’r setliad yn hysbys. 

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Pwyllgor fod gan y Gyfarwyddiaeth, yn Chwarter 1 orwariant o £1.8 miliwn wedi ei rannu’n gyfartal rhwng Gwasanaethau Plant a Gofal Cymdeithasol Oedolion. Cynllun ariannol dwy flynedd gyda chynllun adferiad wedi ei sefydlu gyda’r gorwariant yn Gofal Cymdeithasol Oedolion a Gwasanaethau Plant yn £220 mil a £572 mil yn y drefn honno, gyda chyfanswm y gorwariant yn £800 mil. Dywedodd fod arian ychwanegol wedi dod i’r Gyfarwyddiaeth ym mis Hydref a bod yr arbedion gofynnol o £350 mil wedi eu sicrhau. Mae angen cynigion am arbedion o £1.28 miliwn yn 2019/20. Fodd bynnag, mae’r Gyfarwyddiaeth mewn sefyllfa gryfach o lawer, er bod yna bob amser berygl o gynnydd sydyn mewn plant sy’n derbyn gofal gyda theuluoedd ychwanegol yn dod i mewn i ofal. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol o £20 miliwn i awdurdodau lleol ar draws Cymru a bod y Cyngor hwn yn debygol o dderbyn Grant Cefnogi Refeniw ychwanegol o £900 mil. Dywedodd fod Grant Arbennig o £30 miliwn ychwanegol wedi cael ei roi, ac o’r swm yma dyraniad y Cyngor hwn oedd £1.3 miliwn ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol i gynorthwyo gyda phwysau’r gweithlu, y cyflog byw a gofal yn y cartref. Fodd bynnag, ni fyddai’r cyllid hwn yn cael ei ailadrodd. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod rhaid i swyddogion fod yn ddoeth iawn yn eu defnydd o’r cyllid ychwanegol. 

 

Holai’r Pwyllgor sut roedd y Gyfarwyddiaeth yn bwriadu cyflawni’r gostyngiadau arfaethedig yn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 62.

63.

Diweddariad ar y Rhaglen Waith i’r Dyfodol pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Swyddog Craffu ar eitemau oedd wedi cael eu blaenoriaethu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, gan gynnwys yr eitem nesaf a ddirprwywyd i’r Pwyllgor hwn. Derbyniodd y Pwyllgor restr o eitemau posibl pellach am sylw a blaenoriaethu a gofynnwyd iddo nodi unrhyw eitemau pellach i’w hystyried gan ddefnyddio’r ffurflen meini prawf barod. Gofynnwyd i’r Pwyllgor hefyd ystyried a chymeradwyo’r adborth o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor a nodi’r rhestr o ymatebion oedd yn weddill.  

 

Casgliadau:

Mynegodd y Pwyllgor bryder eu bod yn dal i ddisgwyl yr adborth ar yr Adolygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol ôl-16. Mynegodd y Pwyllgor bryder ymhellach nad oedd yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor wedi cael eu hystyried gan y Cabinet a allai yn eu tro fod wedi cael eu rhoi gerbron Llywodraeth Cymru i roi gwybodaeth ar gyfer y Bil. Gofynnodd y Pwyllgor am i adborth gael ei ddarparu’n brydlon.    

 

Penderfynodd y Pwyllgor y byddai’n blaenoriaethu eitem ar gyfer cyfarfod Ebrill y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Chwefror. Ystyriai’r Pwyllgor y gallai fod yna gyfle i gael trosolwg ar yr awdurdod a beth yw ei flaenoriaethau er mwyn peidio â cholli golwg ar argymhellion monitro a wneir gan bwyllgorau craffu a gofynnent i Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu symud hyn ymlaen.  

 

Ystyriai’r Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar gynigion pellgyrhaeddol i ehangu pwerau Cynghorau Tref a Chymuned a chredai fod yna bosibilrwydd efallai i Gynghorau Tref a Chymuned gynorthwyo gyda gwasanaethau o ran darpariaeth llyfrgell a rhai agweddau ar ofal cymdeithasol nad ystyrir yn rhai arbenigol. Croesawai’r Pwyllgor y cyfle i weithio mwy mewn partneriaeth â Chynghorau Tref a Chymuned. 

 

Ystyriai’r Pwyllgor hefyd, er mai cyllid sy’n llenwi trafodaethau’r awdurdod, fod rhaid iddo gadw ei gyfrifoldebau diogelu a rhianta corfforaethol mewn golwg.

 

64.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Nid oedd eitemau brys.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z