Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Mercher, 5ed Mehefin, 2019 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

76.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Cyng. Mike Clark; Cyng. Pam Davies; Cyng. Martyn Jones; Cyng. Kay Rowlands; Cyng. Steve Smith; Cyng. Jane Gebbie; Cyng. D White; Ciaron Jackson; Parch. Canon Evans.

77.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

William Bond - Llywodraethwr yn Heronsbridge.

78.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 68 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  27/03/2019

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd:

I dderbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 2 a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2019 fel rhai gwir a chywir.

79.

Adolygiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Ôl-16 pdf eicon PDF 120 KB

Invitees:

Lindsay Harvey - CyfarwyddwrCorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cllr Phil White – Aelod Cabinet   Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Nicola Echanis, PennaethAddysg a Chymorth Cynnar

Andy Rothwell, UwchYmgynghorydd Her Consortiwm Canolbarth y De

John Fabes,  SwyddogArbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant

Kathryn Morgan, Prif Seicolegydd Addysg

Robin Davies, RheolwrGr?p Strategaeth Fusnes a Pherfformiad

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant yr adroddiad gan roi diweddariad ar yr adolygiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Ôl-16 ar draws yr awdurdod. Yn 2016, sefydlwyd bwrdd adolygu strategol (SRB) ac yn ei dro, sefydlodd yr SRB, Fwrdd Gweithredol Ôl-16 i adolygu darpariaeth ôl-16 ar draws y Fwrdeistref Sirol.  Mae'r Byrddau hyn wedi cyflwyno cyfres o adroddiadau i'r Cabinet.  Drwy gydol y daith, roedd yna feysydd hanfodol a oedd yn gofyn am ddatrysiadau unigryw penodol. O ganlyniad i'r cymhlethdodau sylweddol o amgylch darpariaeth ADY, law yn llaw â'r ddarpariaeth ôl-16 brif ffrwd cafodd darn penodol o waith ei gynnal. Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda chydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (Cydlynwyr ADY) mewn ysgolion ac ysgolion arbennig, ar y cyd ag uwch dimau rheoli, Gyrfa Cymru, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr ac uwch reolwyr yn y Gwasanaeth Cynhwysiant, y cyfeirir atynt yn y canfyddiadau.  Arweiniodd y Gwasanaeth Cynhwysiant ddarn o waith a ariannwyd gan y Gronfa Arloesi ADY i ddatblygu dadansoddiad 'mapio a llenwi'r bylchau', y mae disgwyl iddo ddod yn set o Brotocolau. Mae llawer o waith yn cael ei yrru ar lefel ranbarthol, ac mae swyddogion awdurdod lleol yn parhau i ymgysylltu â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn datblygu a chefnogi darpariaeth ar gyfer dysgwyr sydd dros oed addysg orfodol.

 

Mae llwybrau dilyniant cyfredol yn bennaf mewn tri lleoliad. Mae dysgwyr Heronsbridge yn symud i fyny drwy'r ysgol hyd nes eu bod yn 19 oed, ceir carfan sy'n mynychu Ysgol Bryn Castell (YBC), gyda'r nifer uchaf o ddysgwyr yn mynychu Coleg Pen-y-bont ar Ogwr. Amlygodd y Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant yr angen i ganolbwyntio ar y berthynas gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr a'r darpariaethau ar gyfer dysgwyr gydag ADY. O ran pwysau gan Lywodraeth Cymru (LlC) a'r mathau o gymwysterau y mae'r Sector Addysg Bellach (AB) angen canolbwyntio arnynt, caiff hyn ei fonitro. Mae darpariaeth yn YBC yn dda gyda rhai dysgwyr yn mynd am ddiwrnod i'r Coleg fel darpariaeth. Mae darpariaeth yn Ysgol Heronsbrigde wedi ei theilwra i bob carfan ac yn canolbwyntio ar ddysgu yn seiliedig ar waith/sgiliau galwedigaethol. O ganlyniad i eglurdeb gwell o ran meini prawf lleoliad ar gyfer mynediad i Ysgol Heronsbrigde, mae gan ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 anghenion dysgu fwy cymhleth, a bydd hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r darpariaethau Ôl-16 gael eu haddasu i fodloni anghenion y carfannau hyn.

 

Amlygodd y Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant y gwaith o ymweld ag ysgolion i adnabod y nodweddion sy'n gweithio'n dda o ran trosglwyddiadau llwyddiannus gan gynnwys cysylltiadau gyda Chydlynwyr ADY, cysylltiadau â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr a'r gwaith gyda chynghorwyr Gyrfa Cymru.  Maent hefyd yn cefnogi dysgwyr i wneud ceisiadau, mewn ymweliadau a thrwy siarad â rhieni a chydlynwyr yn y coleg, er bod hwn yn adnodd sydd dan gryn dipyn o bwysau. Mae angen deall yn glir safbwyntiau'r myfyrwyr a'u rhieni, a'r dyheadau sydd ganddynt ar gyfer trosglwyddo. Mae cael y cwrs yn iawn yn hanfodol wrth symud ymlaen ac ystyrir eu cael i uwchsgilio eu hunain yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 79.

80.

Enwebiad i Banel Craffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoli adroddiad i enwebu Aelod i eistedd ar Banel Trosolwg a Chraffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Penderfynwyd: I enwebu'r Cynghorydd S Dendy i eistedd fel Aelod o'r Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 2 ar Banel Trosolwg a Chraffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

81.

Adroddiad Enwebu Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoli adroddiad, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor enwebu Aelod fel ei Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli'r Pwyllgor fel Gwahoddedig i gyfarfodydd Pwyllgor y Cabinet ar faterion Rhianta Corfforaethol.

 

Penderfynwyd: I enwebu'r Cynghorydd M Clarke i eistedd fel Aelod o'r Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 2 ar Bwyllgor y Cabinet ar faterion Rhianta Corfforaethol fel un o'r gwahoddedigion.

82.

Diweddariad ar y Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Gwnaeth y Pwyllgor:

 

1               Gymeradwyo'r adborth o'r cyfarfod blaenorol;

2               Nodi mai Diogelwch fyddai'r eitem nesaf i'r SOSC 2;

Blaenoriaethu Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol ar gyfer y cyfarfod sydd wedi ei drefnu ar gyfer mis Medi 2019.

83.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim