Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Llun, 16eg Medi, 2019 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

89.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Y Cyng. Sean Aspey

Y Cyng. Mike Clarke

Y Cyng. Sorrel Dendy

Y Cyng. Jane Gebbie

Y Cyng. Mike Kearn

Y Cyng. Kay Rowlands

Y Cyng. Stephen Smith

Y Cyng. Gary Thomas

Y Cyng. David White

90.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

91.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 85 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  05/06/2019 and 03/07/2019

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 ar gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2019 yn amodol ar y diwygiadau canlynol:

 

Mai'r Cyng. Cheryl Green oedd y Cadeirydd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2019.

 

92.

Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc pdf eicon PDF 97 KB

Gwahoddedegion:

Mark Shephard, Prif Weithredwr

Lindsay Harvey – Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Charles Smith – Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Susan Cooper - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Nicola Echanis – Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Mark Lewis - Rheolwr Grwp Gwaith Integredig a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Dhanisha Patel - Aelod Cabinet   Lles a Chenedlaethau Dyfodol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd grynodeb o brif bwyntiau'r adroddiad a oedd yn dwyn y teitl 'Y Diweddaraf am Gynllun Gwella Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr'.  Amlinellodd gefndir yr adroddiad, gan gynnwys y ddyletswydd statudol i atal troseddu. Aeth hefyd yn ei flaen i esbonio'r penderfyniad i symud gwasanaethau iechyd Pen-y-bont o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Daeth y newid hwnnw i rym ar 1 Ebrill 2019. Yn ôl arolygiad mis Rhagfyr 2018 gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi o Wasanaethau Ymyrraeth Cyfiawnder Ieuenctid Bae'r Gorllewin, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2019, daethpwyd i'r farn gyffredinol bod y Gwasanaethau Ymyrraeth yn ddiffygiol. Mae'r gwasanaethau bellach yn cael eu monitro ac mae nifer yn craffu arnynt. 

 

Aeth yn ei flaen i esbonio'r sefyllfa bresennol, sef bod y Cabinet wedi cytuno, ym mis Ebrill 2019, i chwalu'r Gwasanaeth Ymyrraeth. Dan y drefn newydd, byddai Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont yn dod yn rhan o bortffolio Rheolwr Gr?p sy'n perthyn i'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar hyn o bryd. I fynd i'r afael ag argymhellion Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi, mae Uwch Reolwyr yn yr Awdurdod Lleol bellach yn cwrdd â chydweithwyr yn y Bwrdd Troseddwyr Ifanc bob pythefnos i fonitro'r cynnydd yn unol â'r blaenoriaethau gwella. Crëwyd Bwrdd Rheoli newydd, ac mae Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Aelod Cabinet dros Gymunedau yn ei gadeirio ar y cyd. Bydd y ddau ohonynt yn goruchwylio'r broses o weithredu ar y 14 argymhelliad sydd i'w cael yn yr Adroddiad Arolygu.

 

Hysbysodd y Rheolwr Gr?p - Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd yr Aelodau y daeth ymgynghoriad i adolygu'r strwythur presennol i ben ddiwedd Awst a bod hysbyseb ar gyfer 2 Ymarferydd Arweiniol, sydd â chymwysterau gwaith cymdeithasol, eisoes wedi'i chyhoeddi. Credwyd yn gryf bod angen cymhwyster ar weithwyr cymdeithasol i wneud cynnydd yn y broses benodi. Er mwyn dechrau gweithredu ar y 14 argymhelliad yn yr Adroddiad Arolygu, ychwanegodd fod Bwrdd Rheoli wedi'i sefydlu sy'n cwrdd bob mis.

 

I grynhoi, dywedodd y Rheolwr Gr?p - Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi chwalu Gwasanaeth Ymyrraeth Cyfiawnder Troseddol Bae'r Gorllewin a chreu Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr. Maent wedi cychwyn ailstrwythuro'r gwasanaeth fel y bydd ganddo drefniadau llywodraethu cadarn. Bydd hefyd yn cwrdd yn rheolaidd â chydweithwyr yn y sector iechyd i sicrhau y gweithredir ar yr argymhellion yn y cynllun gwella.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar fod gan Gwm Taf wasanaeth eisoes sy'n cael ei redeg ar y cyd ag Abertawe a bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ei wasanaeth ei hun. Gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr benderfyniad bryd hynny i sicrhau bod y gwasanaeth mewn sefyllfa gref cyn ystyried unrhyw gydweithredu newydd.

 

Nododd y Cadeirydd fod gan Ben-y-bont wasanaeth da yn y gorffennol. Ymddengys bod problemau wedi codi pan ddaeth yn rhan o Wasanaethau Ymyrraeth Cyfiawnder Troseddol Bae'r Gorllewin. Cydnabu'r Pennaeth Addysg  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 92.

93.

Trosolwg a Chraffu - Adborth yn sgil Cyfarfodydd pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad i'r Aelodau a roddai adborth yn sgil cyfarfodydd blaenorol Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 i'w drafod a'i gymeradwyo.

 

Derbyniodd yr Aelodau yr adborth a gafwyd yn sgil yr Arolwg o'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Ôl-16. Fodd bynnag, gofynnwyd am ragor o fanylion ynghylch yr astudiaethau achos er mwyn sicrhau bod persbectif y defnyddwyr yn cael sylw. Cytunodd y Pwyllgor Craffu i gyfleu'r neges hon i'r Swyddogion er mwyn dwyn y mater i sylw'r Pwyllgor unwaith eto er gwybodaeth.   

94.

Y Diweddaraf am y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad i'r Aelodau ar yr eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol. Yn eu plith yr oedd yr eitem nesaf a ddirprwywyd i'r Pwyllgor. 

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am yr eitem sydd i'w thrafod yn y cyfarfod nesaf, sef 'Atal Salwch a Lles'.

 

Gofynnodd yr Aelodau hefyd am osgoi cynnal cyfarfodydd ar ddydd Llun gan fod nifer o'r Aelodau yn gweithio ar y diwrnod hwnnw ac roedd presenoldeb yn y Pwyllgorau dydd Llun hynny'n isel. 

 

95.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim