Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Mercher, 11eg Tachwedd, 2020 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

120.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

121.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 73 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  16/03/2020

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                      Bod Cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 dyddiedig 16 Mawrth 2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

.

122.

Y Diweddaraf am y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Craffu. Dywedodd fod y Pwyllgorau Craffu wedi cael eu gohirio i ddechrau yn dilyn y cyfyngiadau symud ym mis Mawrth wrth i'r Cyngor ganolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol mewn ymateb i bandemig Covid-19. Roedd adroddiad i'r Cabinet ym mis Mehefin yn gofyn i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ystyried creu Panel Adfer Trawsbleidiol, a chymeradwywyd a sefydlwyd panel yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf gyda'r nod o lunio, hysbysu a chynghori'r Cabinet ar gynllunio adferiad y Cyngor i fod yn sail i gam adfer y pandemig. Cyfarfu'r Panel chwe gwaith ym mis Awst a chynhyrchodd argymhellion i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ym mis Medi, a adroddwyd i'r Cabinet wythnos yn ddiweddarach. Disgwylid ymateb ffurfiol gan y Cabinet cyn bo hir. Roedd y Panel Adfer bellach yn aros i Asesiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o'r Effaith ar y Gymuned ystyried y canfyddiadau, cyn dewis ei faes ffocws nesaf i'w archwilio'n fanylach.

 

Yna, mynychodd aelodau'r Pwyllgor hwn gyfarfod cyfunol Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 a 2, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf, i ystyried adroddiadau ar Addysg Ôl-16 a Theithio gan Ddysgwyr. Gohiriwyd hyn o fis Mawrth. Cafodd argymhellion ar gyfer Addysg Ôl-16 eu hystyried gan y Cabinet ym mis Gorffennaf, a wnaeth benderfyniad ar yr opsiwn a ffefrir ac yna ystyried yr argymhellion ar Deithio gan Ddysgwyr ym mis Medi, gan ohirio'r penderfyniad i ddiwygio Polisi Teithio gan Ddysgwyr yr Awdurdod Lleol tan ar ôl yr adolygiad o'r pellteroedd statudol presennol gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021.

 

Dechreuodd cyfarfodydd y Panel Ymchwil a Gwerthuso'r Gyllideb ym mis Gorffennaf. Roedd pedwar cyfarfod wedi'u cynnal hyd yma, a'r cyfarfod olaf wedi'i drefnu ar gyfer mis Rhagfyr.

 

Cytunwyd ar y Rhestr o Gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn drefol sy'n weddill yn y Cyngor Blynyddol ym mis Medi, a chan fod y Panel Adfer bellach wedi'i sefydlu, cydnabuwyd y byddai angen i gyfarfodydd Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc, wrth symud ymlaen, ffocysu a bod yn strategol er mwyn osgoi dyblygu gwaith. 

 

Ers hynny, cynghorwyd y Cyngor y byddai'r Setliad Ariannol Llywodraeth Leol gan Lywodraeth Cymru yn hwyrach na'r disgwyl. Golygai hyn y byddai angen i Bwyllgorau Craffu ystyried craffu ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar ôl i'r Cabinet ystyried y cynigion drafft ar 19 Ionawr, ac nid yn y cylch o gyfarfodydd ym mis Rhagfyr fel y bwriadwyd yn wreiddiol. O ganlyniad, byddai trefniadau'n cael eu gwneud i symud dyddiadau cyfarfodydd mis Ionawr i hwyluso hyn, a byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud yn y Cyngor ar 18 Tachwedd.  

 

Gyda'r newidiadau hyn mewn golwg, cynigiwyd, yn ei gyfarfod nesaf ar 14 Rhagfyr, y byddai'n amserol i'r Pwyllgor gael briff diweddaru llafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar effaith pandemig Covid-19 ar ardal y Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, a'r ymateb gweithredol.

 

O ran cyfarfodydd craffu ar ôl yr MTFS, gofynnwyd i'r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith dros dro ar gyfer gweddill y calendr trefol o gyfarfodydd. Roedd angen rhoi pwyslais ar ystyried  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 122.

123.

Adroddiad ar Enwebu Hyrwyddwr Rhieni Corfforaethol pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio adroddiad, a'i ddiben oedd gofyn i'r Pwyllgor enwebu un Aelod fel ei Hyrwyddwr Rhieni Corfforaethol i gynrychioli'r Pwyllgor fel person gwahoddedig i gyfarfodydd Pwyllgor y Cabinet dros Faterion Rhieni Corfforaethol.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau o'r llawr, ac yn dilyn hynny cafwyd

 

PENDERFYNIAD:                        Bod y Cynghorydd D White yn cael ei enwebu i gynrychioli’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 fel person gwahoddedig i gyfarfodydd Pwyllgor y Cabinet dros Faterion Rhieni Corfforaethol.

 

 

 

124.

Enwebiad i Banel Craffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio adroddiad, a'i ddiben oedd gofyn i'r Pwyllgor enwebu un Aelod i eistedd ar Banel Craffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau o'r llawr, ac yn dilyn hynny cafwyd

 

PENDERFYNIAD:                      Bod y Cynghorydd S Dendy yn cael ei enwebu fel cynrychiolydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 i fod yn Aelod o Banel Craffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

125.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.