Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Ross Penhale-Thomas fuddiant personol fel gweithiwr llawn amser i elusen tai a chydraddoldeb, yr oedd y Gwahoddedigion yn aelodau ohoni. Datganodd y Cynghorydd Jonathan Pratt fuddiant personol fel Gwirfoddolwr Ymateb i Argyfwng gyda'r Groes Goch Brydeinig. Datganodd y Cynghorydd Alex Williams fuddiant personol fel landlord yn y sector rhentu preifat. Datganodd y Cynghorydd Melanie Evans fuddiant personol fel Cynghorydd Tref Pencoed. Datganodd y Cynghorydd Tim Thomas fuddiant personol fel gweithiwr llawn amser i gorff oedd yn cynrychioli asiantau eiddo. Datganodd y Cynghorydd Martyn Jones fuddiant personol fel landlord yn y sector preifat. Datganodd y Cynghorydd Amanda Williams fuddiant personol am fod cyfaill ar y gofrestr tai ac mewn llety brys. Datganodd y Cynghorydd Steven Bletsoe fuddiant personol fel gweithiwr llawn amser i gorff aelodaeth yn y sector rhentu preifat ac na fyddai’n cymryd rhan yn unrhyw drafodaethau yn ymwneud â’r sector rhentu preifat. Datganodd y Cynghorydd Heidi Bennett fuddiant personol fel landlord yn y sector preifat. Datganodd y Cynghorydd Mike Kearn fuddiant personol am fod perthynas ar y gofrestr tai. Datganodd y Cynghorydd Freya Bletsoe fuddiant personol am fod peth o incwm y teulu yn deillio o’r sector rhentu preifat a bod cyfaill mewn llety brys dros dro. Datganodd y Cynghorydd Martin Williams fuddiant personol am fod cyfaill mewn llety brys dros dro. Datganodd y Cynghorydd Richard Granville fuddiant personol am fod person yr oedd yn ei adnabod mewn llety brys dros dro. |
|
Datganiad am y Sefyllfa Dai PDF 315 KB Gwahoddwyr:
Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet Llesiant a Chendlaethau’r Dyfodol
Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid Martin Morgans - Pennaeth
Gwasanaeth - Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth Joanne Ginn - Rheolwr Atebion Tai Ryan Jones – Rheolwr Comisiynu Tai Strategol
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Gwahoddwyr:
Gr?p Tai Coastal Tai Hafod Cymdeithas Tai Linc-Cymru Cymry Unedig Cymoedd i’r Arfordir Tai Wales a’r West
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau y Datganiad am y Sefyllfa Dai gan egluro mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am newidiadau polisi yn y gwasanaethau tai a'r sefyllfa bresennol o ran ailgartrefu a digartrefedd.
Darllenodd y Cadeirydd ymateb ysgrifenedig a dderbyniwyd gan y Gr?p Tai Arfordirol oedd yn methu â bod yn bresennol yn y cyfarfod.
Gan gyfeirio at ddatganiad ystadegol diweddar gan Lywodraeth Cymru lle roedd yr Awdurdod yr ail awdurdod lleol trefol gwaethaf yng Nghymru o ran stoc tai cymdeithasol, gofynnodd yr Aelodau beth oedd y cynlluniau i wrthdroi'r duedd hon a holi a oedd modd i eiddo masnachol, nad oedd yn cael ei ddefnyddio mwyach yn dilyn y pandemig, gael ei drosi'n fflatiau neu'n rhandai. Gofynnwyd i'r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) a oedd modd ehangu'r stoc tai yn y Fwrdeistref Sirol i ddatrys y broblem a gwella'r sefyllfa.
Atebodd Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau o safbwynt yr Awdurdod a chan gyfeirio at y Cynllun Datblygu Rhaglen, fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi tua £30 miliwn y flwyddyn o ran darparu tai cymdeithasol gyda’r bwriad o greu 470 o dai dros gyfnod o ddwy flynedd. At hynny, roedd arian gan y Llywodraeth o amgylch y cyfnod trosiannol y gallai LCC wneud cais amdano ar gyfer gwella'r stoc bresennol a chyflymu’r broses o adfer defnydd rhai tai. O fewn y Cynllun Datblygu Lleol, oedd yn destun ymgynghoriad Llywodraeth Cymru (LlC) ar y pryd, yr oeddent yn edrych ar 7000 o unedau o fewn y cynllun hwnnw. Fforddiadwyedd oedd y ffactor allweddol ond gyda’r arian a’r polisi cywir yn eu lle, roeddent yn gobeithio y byddai’n eu symud ymlaen o ran datblygu eu stoc tai cymdeithasol a gwella'r sefyllfa yr adroddwyd amdani.
Holodd yr Aelodau a oedd Polisi Gosod Tai Cymdeithasol (SHAP) yn dal i fod yn addas i'r diben oherwydd newidiadau yn y pwysau ar bobl ac ar dai ers 2017 ynteu a oedd adolygiad wedi'i amserlennu.
Dywedodd y swyddogion fod yna strategaeth fyddai’n destun ymgynghoriad yn dilyn adrodd amdani wrth y Cabinet, a phan fyddai'r ymatebion wedi dod i mewn câi cynllun gweithredu ei greu, a rhan o hynny fyddai adolygu'r SHAP mewn ymgynghoriad â phartneriaid.
Gofynnodd yr Aelodau pa ddewisiadau fyddai ar gael i’r ffoaduriaid o Wcráin, pan ddeuai eu chwe mis o fyw gyda theuluoedd i ben am wahanol resymau, o ystyried yr amser aros ar y gofrestr tai cymdeithasol. A fyddai’r dewis i deuluoedd wneud eu hunain yn ddigartref, gan ei bod yn hynod o anodd i iddynt rentu gan landlordiaid preifat sy'n gofyn am dystiolaeth o 6 mis o rent a bod darpar denantiaid mewn cyflogaeth lawn amser? Gofynnwyd a oedd nifer y ffoaduriaid yn y Fwrdeistref Sirol ar gael.
Dywedodd Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau fod yna bryder yn yr adran Dai o safbwynt y ffoaduriaid a bod gweithgor dan arweiniad Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid yn monitro'r sefyllfa gyda chyfranogiad a chefnogaeth aml-sector e.e., Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg.
Cyfeiriodd swyddogion at y rhyfel yn yr Wcráin yn para yn hirach na’r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 15. |
|
Diweddariad ar y Flaenraglen Waith PDF 173 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu y Flaenraglen Waith (FWP) yn Atodiad A i'r Pwyllgor ei thrafod a'i hystyried, gan ofyn am unrhyw wybodaeth benodol a nodwyd gan y Pwyllgor i'w chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys y bobl y dymunent eu gwahodd i fynychu. Gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan gofio’r meini prawf dethol ym mharagraff 4.3 a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi y byddai'r Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor yn cael ei hadrodd wrth gyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.
Ni nodwyd unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith o ystyried y meini prawf dethol ym mharagraff 4.3, a gellid ailystyried hyn yn y cyfarfod nesaf.
Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn nodi yr adroddid am y Flaenraglen Waith wrth gyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ac yn nodi’r Argymhellion yn y Daflen Weithredu Monitro yn Atodiad B. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |