Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
|
Galw Penderfyniad y Cabinet i Mewn: Strategaeth Carbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr PDF 124 KB Gwahoddwyr:
Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet Cymunedau
Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau Zak Shell - Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd - Craffu yr adroddiad a’i bwrpas oedd galluogi'r Pwyllgor i graffu ar benderfyniad y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2022 mewn perthynas â'r adroddiad ar Strategaeth Garbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd, yn unol ag Adran 7.23 o Gyfansoddiad y Cyngor, fod tri Aelod o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, ac un Cadeirydd Craffu, wedi gofyn am Alw i Mewn y penderfyniad Gweithredol a wnaed gan y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2022.
Dywedodd mai’r argymhelliad oedd i’r Pwyllgor ystyried penderfyniad y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2022 ynghylch Strategaeth Garbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr a phenderfynu a oedd yn dymuno:
i) Cyfeirio’r penderfyniad yn ôl er mwyn i’r Cabinet ei ailystyried, gan nodi’n ysgrifenedig natur ei bryderon; ynteu ii) Penderfynu peidio â chyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau oedd wedi cefnogi Galw i Mewn i siarad am y rhesymau dros Alw i Mewn.
Dywedodd yr Aelodau fod y prif resymau dros Alw i Mewn yn cynnwys:
- Diffygion yn y Strategaeth ac yn y cwestiynu gan y Cabinet wrth wneud y Penderfyniad. - Nid oedd unrhyw wybodaeth na dealltwriaeth wirioneddol o effaith ariannol y penderfyniad polisi. - Diffyg eglurder ynghylch y ffordd y câi perfformiad ei fonitro. - A oedd y Strategaeth yn cael ei goruchwylio a'i llywodraethu'n gywir ac a ddylai eistedd ar lefel uwch. - Roedd diffyg eglurder ynghylch sut y byddai cyflawni'r Strategaeth yn cael ei ariannu. - Pryder ynghylch y diffyg o 34,000 tunnell o ran cyrraedd y targed o garbon sero net, y gost a beth oedd yn cael ei wneud i liniaru hynny.
Fe wnaeth Arweinydd y Cyngor (yr Arweinydd):
- Dynnu sylw at bwysigrwydd pwnc y newid yn yr hinsawdd a'r angen i bawb chwarae rhan yn yr ymateb iddo. - Dywedodd y byddai monitro'r targed a chyflawni’r Strategaeth yn digwydd drwy'r Cynllun Corfforaethol y creffir arno o leiaf bob chwarter drwy fframwaith y Perfformiad Corfforaethol - Eglurodd y câi'r mesuriadau perfformiad o amgylch y cynllun sero net eu nodi a'u mesur ar lefel gorfforaethol ac y byddai cynlluniau busnes y cyfarwyddiaethau hefyd yn cynnwys targedau a dangosyddion perfformiad perthnasol. - Esboniodd y byddai'r Strategaeth yn eiddo i'r Cyngor llawn ar lefel uchaf y fframwaith cynllunio ar gyfer yr Awdurdod. - Dywedodd eu bod wedi ymrwymo i adolygu'r strategaeth yn llawn yn 2024 a 2027 oherwydd bod y diwydiant datgarboneiddio ynghyd â thechnoleg yn newid ac y byddent yn croesawu mewnbwn craffu i'r adolygiad. - Tynnodd sylw at ansefydlogrwydd costau a'r angen i addasu i newidiadau. - Dywedodd ei fod yn agenda a rennir gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac roedd yn cydnabod y byddai rhai newidiadau yn ddrud, a bod angen cymorth ariannol sylweddol gan y llywodraeth ganolog.
Fe wnaeth Aelod y Cabinet dros y Cymunedau:
- Roi gwybod bod y Strategaeth yn ddogfen gorfforaethol ac er mai Cyfarwyddiaeth y Cymunedau oedd yn ei rheoli, cynhelid cyfarfodydd y Bwrdd Lleihau Carbon yn rheolaidd a mynychid y rhain gan ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 25. |