Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Y Cynghorydd Norah Clarke |
|
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorwyr Jonathan Pratt, William
Kendall a Mike Kearn ddatgan buddiannau personol fel Aelodau
o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu gan ddweud pe bai’r
Pwyllgor yn dechrau trafod y cais cynllunio, y byddai hynny’n
ei wneud yn fater o ragfarn ac y byddent wedyn yn datgan buddiant
rhagfarnus ac yn gadael y cyfarfod. |
|
Galw Penderfyniad y Cabinet i Mewn. Adolygiad Porth Prosiect HyBont PDF 124 KB
Gwahoddwyr:
Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd - y Cynghorydd
Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd - Craffu yr adroddiad a’i bwrpas oedd galluogi'r Pwyllgor i graffu ar benderfyniad y Cabinet a wnaed ar 19 Medi 2023 mewn perthynas â'r adroddiad ar Adolygiad Porth Prosiect HyBont.
Dywedodd hi: - Yn unol ag Adran 7.23 o Gyfansoddiad y Cyngor, sy’n datgan bod angen 3 Aelod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu, a Chadeirydd Craffu, er mwyn i benderfyniad gael ei alw i mewn, derbyniwyd Hysbysiad Galw i Mewn gan 4 Aelod a Chadeirydd, yn gofyn am i’r penderfyniad Gweithredol a wnaed gan y Cabinet ar 19 Medi 2023 gael ei Alw i Mewn.
- Rôl y Pwyllgorau Craffu wrth alw penderfyniad i mewn oedd: · Rhoi prawf ar rinweddau’r penderfyniad; · Ystyried y broses a ddilynwyd i lunio'r penderfyniad; · Gwneud argymhellion (i gefnogi’r penderfyniad, newid agweddau ar y penderfyniad, neu wahodd y person neu’r corff a wnaeth y penderfyniad i ailystyried); · Awgrymu camau pellach cyn i benderfyniad gael ei wneud (ond peidio â cheisio cymryd y camau hynny yn lle’r person neu’r corff a wnaeth y penderfyniad); · Ffurfio barn mewn cyfnod cymharol fyr, er mwyn peidio â pheryglu cyflymder ac effeithlonrwydd y broses benderfynu.
- Roedd argymhelliad yr adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried penderfyniad y Cabinet ar 19 Medi 2023, a gafodd ei Alw i Mewn, ynghylch Adolygiad Porth Prosiect HyBont a phenderfynu a oedd yn dymuno, naill ai:
a) cyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’r Cabinet i’w ailystyried, gan nodi yn ysgrifenedig natur ei bryderon; ynteu b) penderfynu peidio â chyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet.
Eglurodd y Cadeirydd pwy oedd Aelodau’r
Pwyllgor a’r Aelodau nad oeddent ar y Pwyllgor oedd wedi
cefnogi Galw’r Penderfyniad i Mewn.
Dywedodd yr Aelodau fod y prif resymau dros Alw i Mewn yn cynnwys:
- Diffyg chwilfrydedd proffesiynol, herio neu gwestiynu’r rhagdybiaethau a wnaed yn yr adroddiad. - Dewisiadau gwahanol heb gael eu hystyried yn yr adroddiad nac yn ystyriaethau'r Cabinet. - Y wybodaeth ariannol ddim yn ddigonol i fedru gwneud penderfyniad gwybodus p’un a oedd y prosiect yn dal i gynrychioli elw da ar fuddsoddiad. - Ni roddwyd sylw i faterion y tir. - Ni thrafodwyd sut y gellid adennill yr arian oedd wedi cael ei wario hyd yma nac a oedd modd edrych am gyllid arall. - Mae'r penderfyniad yn gwrth-ddweud Strategaeth Garbon Sero Net 2030 y Cyngor gan fod materion ariannol wedi cael eu hystyried yn bwysicach na lleihau allyriadau carbon i wrthsefyll argyfwng yr hinsawdd. - Roedd angen craffu ymhellach ar y penderfyniad
Gwahoddodd y Cadeirydd unrhyw Aelodau eraill oedd wedi cefnogi Galw i Mewn i siarad ac yna gwahoddodd unrhyw Aelodau eraill o'r Pwyllgor i ofyn cwestiynau neu roi sylwadau.
Roedd y trafodaethau manwl rhwng Aelodau, Aelodau’r Cabinet a Swyddogion yn cynnwys: - Y diffyg cyllideb i ariannu’r diwydrwydd technegol dyladwy angenrheidiol hyd at ei gwblhau i weld a oedd y prosiect arfaethedig yn effeithiol, a oedd dichon ei gyflawni ac a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 55. |