Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 3 - Dydd Iau, 19eg Ebrill, 2018 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

35.

Datgan Buddiannau

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim.

36.

Diweddariad am y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethau adroddiad a gyflwynwyd gan y Swyddog Craffu. Ei fwriad oedd:

 

a.)   Cyflwyno’r eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (PTCC) gan gynnwys yr eitem nesaf i’w dirprwyo i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc hwn;

b.)   Cyflwyno i’r Pwyllgor restr o eitemau posibl eraill i'w blaenoriaethu ac i roi sylwadau arnynt;

c.)   Gofyn i’r Pwyllgor nodi eitemau eraill i’w hystyried gan ddefnyddio’r ffurflen meini prawf a bennwyd ymlaen llaw;

d.)   Ystyried a chymeradwyo’r adborth o gyfarfodydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3, a nodi’r rhestr o ymatebion, gan gynnwys unrhyw beth sydd dal yn weddill yn Atodiad A at yr adroddiad.

 

Rhoddodd yr adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndirol, yna cyfeirio at Atodiad B, y Flaenraglen Waith (BW) gyffredinol ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc (PTCP), yn cynnwys y pynciau a flaenoriaethwyd gan y PTCC ar gyfer y gyfres nesaf o PTCP yn Nhabl A yr adroddiad, yn ogystal â phynciau a ystyriwyd yn bwysig i’w blaenoriaethu yn y dyfodol yn Nhabl B.

 

Roedd Aelod o’r farn y dylid rhoi sylw dilynol i’r pwnc Eiddo Gwag, ac felly, dylai'r Eitem bwysig hon aros ar y BW a dod yn ôl ati ar ôl 6 mis.    

 

PENDERFYNWYD:                 Derbyn a nodi’r adroddiad.

37.

Llety Brys pdf eicon PDF 122 KB

Gwahoddedigion

 

Cllr Dhanisha Patel, Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol

Andrew Jolley, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethiol

Martin Morgans, Pennaeth Gwasanaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth Lynne Berry, Rheolwr Gr?p Adfywio Tai a Chymuned

Andrew Ireland, Y Wallich

Gareth Jones, Y Wallich

Lorraine Griffiths, Rheolwr Ardal, Grwp Pobl

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad ar ddarpariaeth llety brys i bobl ddigartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Canolbwyntiodd yr adroddiad ar ddarpariaeth hostel ym Mrynmenyn, gyda’r bwriad o ymateb i ymholiadau’r Pwyllgor yn ymwneud ag ansawdd a phriodoldeb y ddarpariaeth.  Yn olaf, nododd yr adroddiad nifer o opsiynau ‘rhestr hir’ i’w hystyried fel darpariaeth bosibl arall yn lle (ar gyfer hostel Brynmenyn).

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p, Tai ac Adfywio Cymunedol amlinelliad o’r adroddiad a chynghori bod Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi newid canolbwynt y gefnogaeth i ddigartrefedd a thai i atal a lleddfu digartrefedd, ac i sicrhau bod pobl yn y sefyllfa hon yn cael cymorth cyn gynted â phosibl.

 

Adlewyrchodd y tabl ym mharagraff 3.2 yr adroddiad fod Cyfanswm y bobl yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref wedi cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.  Roedd hyn oherwydd y ffaith yr oedd pawb a ystyriwyd yn gymwys â hawl i gael cymorth; fodd bynnag, roedd nifer y derbyniadau digartref anfwriadol yn rhan o’r angen blaenoriaeth ‘dyletswydd derfynol’ wedi gostwng yn sylweddol.

 

Ychwanegodd fod rhaid i’r Awdurdod ynghyd â’i bartneriaid ymateb mewn modd adweithiol mewn cyfnod byr o amser, i sicrhau bod llety dros dro/brys ar gael i unrhyw un a oedd yn ddigartref, yn enwedig yr unigolion hynny sy'n agored i niwed, hyd oni ddaethpwyd o hyd i lety parhaol addas.   Petai nifer y derbyniadau ‘dyletswydd derfynol’ wedi cynyddu, yna byddai’r galw a ddisgwylir ar gyfer llety dros dro/brys hefyd yn uwch.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p, Tai ac Adfywio Cymunedol, y darparwyd llety brys yn yr hostel ym Mrynmenyn, yn ogystal ag yn Nh? Ogwr a Cornerstone, gwelyau brys ym mhrosiect Kerrigan a llety dros dro wedi’i brydlesu.  Er nad yw’n rhan o’r llety brys hwn, tynnwyd sylw at wybodaeth am y gofod llawr nosol (gofod llawr yn y Kerrigan dan reolaeth Gwalia) yn yr adroddiad, er mwyn rhoi cyd-destun o anghenion darpariaeth ddigartref ar y stryd ar gyfer y rhai hynny nad oes gan yr Awdurdod unrhyw ‘ddyletswydd’ o ran tai ar eu cyfer, ond sydd serch hynny angen lle i gysgu dros nos.  Roedd hyn ar ffurf darpariaeth mynediad uniongyrchol a oedd â 9 gofod llawr nosol i bobl sy’n cysgu ar y stryd.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p, Tai ac Adfywio Cymunedol nad oedd y ddarpariaeth hon ar gyfer teuluoedd a oedd angen tai brys yn unig, gan fod tuedd hefyd bellach i gefnogi pobl sengl heb blant.

 

Rhoddwyd gwybod i Aelodau gan yr Aelod Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant, fod y prif le yn y Fwrdeistref Sirol yn Hostel Brynmenyn, lle y gellid rhoi llety brys i unigolion, yn fwyaf effeithiol o ran darparu gwasanaeth.  Y broblem oedd bod yr adeilad yn hen, ac angen moderneiddio yn ogystal ag addasiadau eraill.

 

Roedd Aelod o‘r farn bod y gwasanaeth a ddarparwyd o ran Llety Brys wedi’i ystyried yn dda.   Fodd bynnag, roedd yna fater ynghylch hyn yn cael ei ddarparu i unigolion yn cael yn y cymoedd, gan eu bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 37.

38.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.