Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Gysylltiad Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Gwnaed y datganiadau o gysylltiad canlynol:
Datganodd y Cynghorydd N Clarke gysylltiad personol yn eitem 5 yr agenda, Trosglwyddo Ased Cymunedol, oherwydd ei bod hi’n aelod o Gyngor Tref Porthcawl ac ynghlwm mewn proses Trosglwyddo Ased Cymunedol ar hyn o bryd.
Datganodd y Cynghorydd R Stirman gysylltiad personol yn eitem 5 yr agenda, Trosglwyddo Ased Cymunedol, oherwydd ei bod hi’n aelod o Gyngor Cymuned Cwm Garw. |
|
Cymeradwyo’r Cofnodion PDF 84 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 22/10/2018 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 dyddiedig 22 Hydref 2018 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Diweddariad y Blaenraglen Waith PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu’r adborth o gyfarfodydd blaenorol Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 a gofynnodd i’r aelodau a oedd angen unrhyw wybodaeth ychwanegol mewn perthynas ag Eiddo Gwag, a fyddai’n cael eu hystyried yng nghyfarfod 25 Chwefror 2019. Gofynnodd yr Aelodau a ellid darparu diweddariad ar yr amserlen er mwyn i swyddog ymchwilio ac, a ellid darparu protocol. Gofynnodd yr Aelodau hefyd am nifer yr eiddo gwag oedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a nifer y bobl ddigartref yn yr un ardal. Esboniodd y Swyddog Craffu y byddai adroddiad ar y Strategaeth Ddigartrefedd yn cael ei chyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.
Ychwanegodd y Swyddog Craffu, yn ogystal â’r adborth yn yr adroddiad, anfonwyd llythyr at Un Llais Cymru mewn perthynas â gwahoddiad i gyfarfod 22 Hydref lle ystyriwyd Cydweithredu gyda Chynghorau Tref a Chymuned. Atebodd cynrychiolydd Un Llais Cymru fod y gwahoddiad wedi’i anfon ymlaen at y Prif Swyddog Gweithredol ac yna wedi’i esgeuluso’n anffodus, ond datganodd yr hoffai gymryd rhan yng nghyfarfodydd y dyfodol.
Cyflwynodd y Cynghorwyr Venables a Howells ymddiheuriadau ar gyfer cyfarfod mis Chwefror. Gofynnodd aelod am adroddiad cynnydd ar ollwng sbwriel a baw c?n. Fe’i cynghorwyd i lenwi ffurflen atgyfeirio.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor: 1. Yn cymeradwyo’r adborth o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc a nodwyd yr ymatebion oedd yn weddill. 2. Yn gofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’r adborth uchod. 3. Yn nodi gwybodaeth ychwanegol yr oeddent yn dymuno’i chael wrth ystyried eitemau a ddirprwywyd i gyfarfodydd y dyfodol.
|
|
Trosglwyddo Asedau Cymunedol PDF 415 KB Gwahoddedigion: Mark Shephard, Prif Weithredwr (Dros Dro) Zak Shell, Pennaeth Gweithrediadau Gwasanaethau Cymunedol Guy Smith, Swyddog
Trosglwyddo Asedau Cymunedol Carly McCreesh,
Canolfan Cydweithredol Cymru
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol adroddiad yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith Gr?p Gorchwyl a Gorffen Trosglwyddo Asedau Cymunedol, gweithredu’r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu 3 ym mis Ionawr 2018, newidiadau arfaethedig i bolisi a phrosesau Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor a gweithgarwch Trosglwyddo Asedau Cymunedol y presennol a’r dyfodol. Amlinellodd newidiadau diweddar i’r strwythur staffio yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau, gan gynnwys newidiadau i rolau a’r llinellau adrodd. Darparodd gefndir i Trosglwyddo Asedau Cymunedol ac esboniodd fod rhaid i’r Cyngor barhau i weithio ar y cyd â sefydliadau’r sector gwirfoddol i ddiogelu’r gwasanaethau o werth i’r cymunedau. Cyfeiriodd at yr adroddiad yn ymwneud â Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Pharciau a Phafiliynau a ystyriwyd gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 a’r Cabinet oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymgymryd ag ymarfer ymgynghori ar gynigion i wneud darpariaeth caeau chwarae, cyfleusterau chwaraeon awyr agored a phafiliynau chwarae’r Cyngor yn fwy ariannol gynaliadwy wrth symud ymlaen. Byddai’r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddosbarthu maes o law.
Esboniodd Pennaeth Gweithrediadau, y Gwasanaethau Cymunedol fod canllawiau diweddar ar Trosglwyddo Asedau Cymunedol wedi’u dosbarthu ym mis Hydref 2015 ac roedd yn seiliedig ar Arweiniad i’r Arfer Gorau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd Gr?p Gorchwyl a Gorffen Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn argymell newidiadau i’r broses nad oeddent yn unol â’r Arweiniad i’r Arfer Gorau. Cadarnhaodd fod y Bwrdd Rheoli Corfforaethol wedi cytuno i ymestyn y contract i’r swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol am 3 blynedd bellach.
Amlinellodd Pennaeth Gweithrediadau, y Gwasanaethau Cymunedol weithgarwch Trosglwyddo Asedau Cymunedol, y cymhellion ariannol a chymorth arall, gwaith Gr?p Gorchwyl a Gorffen Trosglwyddo Asedau Cymunedol, gan gynnwys rhestr o argymhellion interim. Ychwanegodd y byddai’r argymhellion terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet i gyd-daro gyda’r adroddiad oedd yn amlinellu canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a chyflwyniad arfaethedig o’r adferiad cost lawn. Gofynnodd aelod am ragor o wybodaeth yn ymwneud â’r amserlenni ar gyfer yr ymgynghoriad. Esboniodd Pennaeth Gweithrediadau, y Gwasanaethau Cymunedol ei bod hi’n debygol y byddai’r ymgynghoriad yn para 12 wythnos, byddai’n cymryd oddeutu mis i goladu’r canlyniadau a pharatoi adroddiad i’r Cabinet i wneud penderfyniad ar y ffordd ymlaen.
Esboniodd y Swyddog CAT i’r Pwyllgor fod y cymhorthdal o 80% oedd ar gael yn atal partïon cyfrannogrhag ymroi i’r broses, ond roeddent yn ymwybodol o’r broses ac yn ymgysylltu â’r awdurdod. Ychwanegodd fod 40 pafiliwn, 6 i 7 clwb bowlio a 4 i 5 maes chwarae ond nid oedd pob un ohonynt yn addas ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Gofynnodd yr aelodau am sicrhau bod rhestr ddiweddar lawn ar gael i bob aelod er mwyn iddynt allu gweld pa asedau oedd ar gael i’w trosglwyddo.
Awgrymodd aelod oherwydd yr amser yr oedd yn ei gymryd i gwblhau 4 trosglwyddiad, y dylai’r Cyngor roi i fyny ar y syniad o Drosglwyddo Asedau Cymunedola dechrau bod yn gyfrifol am redeg ei wasanaethau ei hun. Ni fyddai gan lawer o’r grwpiau’r wybodaeth na’r arbenigedd i gymryd rhan yn y broses ac ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 64. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |