Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgan Budd To receive declarations of personal and prejudicial interest (if any) from Members/Officers in accordance with the provisions of the Members Code of Conduct adopted by Council from 1 September 2008 (including whipping declarations)
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd T Beedle fudd personol yn eitem 4 ar yr agenda - Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22 fel aelod o Gymdeithas Rhandiroedd Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysgrifennydd Rhandiroedd Bronfair, Maesteg.
Datganodd y Cynghorydd G Thomas fudd personol yn eitem 4 ar yr agenda - Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22 gan fod ganddo randir ym Mryncethin. |
|
Y Diweddaraf ar y Flaenraglen Waith PDF 62 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Siaradodd y Swyddog Craffu am eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a oedd yn cynnwys yr eitem nesaf i gael ei dirprwyo i’r Pwyllgor hwn i’w hystyried. Cyflwynodd hefyd restr o eitemau eraill posibl i roi sylwadau arnynt a’u blaenoriaethu. Gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau eraill i’w hystyried gan ddefnyddio'r ffurflen meini prawf a bennwyd yn flaenorol.
Casgliadau
3. Dylid gofyn i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol flaenoriaethu 5 eitem o’r Flaenraglen Waith ac y dylid cadw un slot y Pwyllgor yn rhydd am y tro; |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22 PDF 235 KB Invitees: Mark Shephard – Corporate Director Communities Zak Shell – Head of Streetscene Satwant Pryce – Head of Regeneration, Development and Property Services Cllr Richard Young – Cabinet Members Communities Cllr Charles Smith – Cabinet Member Education and Regeneration
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad, gyda’r nod o gyflwyno’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ddrafft ar gyfer 2018-19 i 2021-22, a oedd yn nodi blaenoriaethau gwariant y Cyngor, ei brif amcanion buddsoddi a meysydd y gyllideb sydd wedi’u targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd hefyd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2018-22 a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2018-19.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymunedau) y cyd-destun ar gyfer cynigion y gyllideb, a oedd wedi’i osod yn erbyn cefndir o saith mlynedd yn olynol o fesurau caledu a llai a llai o adnoddau. Dywedodd fod cyllidebau wedi cael eu torri 35% - 40% mewn rhai gwasanaethau.
Dywedodd y Pwyllgor nad oedd proses gyllidebu’r Cyngor yn gyson, yn ôl pob golwg. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymunedau) fod y Cyngor yn gweithredu’n gyson ac mai uchelgais y Bwrdd Rheoli Corfforaethol yw dod o hyd i arbedion drwy’r awdurdod cyfan, nad ydynt yn effeithio’n uniongyrchol ar y cyhoedd. Cafwyd trafodaethau gyda’r Cabinet ynghylch torri’r gyllideb ar sail y blaenoriaethau corfforaethol y cytunwyd arnynt leiaf.
Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o ganran y toriadau yn y gyllideb yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau o gymharu â’r Cyfarwyddiaethau eraill. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet (Cymunedau) fod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau wedi gorfod torri ei chyllideb 6.4% o gymharu â’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd sydd wedi torri 1% yr un o’u cyllidebau. Dywedodd fod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau wedi gorfod torri ei chyllideb dros y saith mlynedd diwethaf a bod hyn yn anghymesur o gymharu â’r Cyfarwyddiaethau eraill. Dywedodd hefyd nad oedd torri’r gyllideb byth yn dderbyniol gan fod llawer o’r toriadau yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau yn amlwg. Dywedodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo wrth y Pwyllgor fod meysydd penodol wedi cael eu clustnodi ar gyfer toriadau yn y gyllideb a bod gan y Gyfarwyddiaeth Cymunedau feysydd nad oeddent yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth, o safbwynt corfforaethol. Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd fod cyfanswm o 37% o doriadau wedi’u gwneud i’r gyllideb Adfywio a Datblygu Economaidd.
Dywedodd y Pwyllgor fod y gwasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Cymunedau yn amlwg i’r cyhoedd a bod angen i wasanaethau eraill yn yr awdurdod wneud eu cyfran nhw o doriadau yn eu cyllideb. Dywedodd y Pwyllgor ei fod yn pryderu bod toriadau’n cael eu gwneud i ddatblygiad economaidd ar adeg pan ddylai mewnfuddsoddiad gael ei annog er mwyn cynhyrchu refeniw. Roedd y Pwyllgor hefyd yn credu y dylai’r Cyngor ystyried cynyddu taliadau er mwyn creu refeniw drwy fynd ar drywydd cyfleoedd i ddatblygu ac nid drwy werthu asedau. Dywedodd y Pwyllgor fod gan y Cyngor flaenoriaeth gorfforaethol i gefnogi’r economi leol ac y gallai torri cyllideb y Gyfarwyddiaeth Cymunedau annog pobl i beidio â buddsoddi yn yr ardal.
Aeth y Pwyllgor ati i longyfarch y Gyfarwyddiaeth am greu swydd newydd, sef Swyddog Eiddo Gwag, fydd yn gyfrifol am sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.
Gofynnodd y Pwyllgor a oedd Cyfarwyddiaethau eraill yn gorfod mynd ati i dorri eu cyllidebau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 18. |
|
Eitemau Brys To consider any item(s) of business in respect of which notice has been given in accordance with Part 4 (paragraph 4) of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |