Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Julie Ellams  Democratic Services Officer

Eitemau
Rhif Eitem

25.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd N Clarke fuddiant personol yn eitem 5 ar yr agenda - Adfywio Canol Trefi oherwydd ei bod yn adnabod un o'r gwahoddedigion.

 

Datganodd y Cynghorydd S Baldwin fuddiant personol yn eitem 5 ar yr agenda - Adfywio Canol Trefi oherwydd ei fod yn Gyfarwyddwr / perchennog busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

26.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 93 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 06 12 17

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:            1) Diweddariad o'r Flaenraglen Waith  - Yn amodol ar ychwanegu "eitem" o flaen "ddirprwyedig" yng nghasgliad 1, ac ychwanegu atalnod llawn ar ddiwedd y frawddeg gyntaf yng nghasgliad 2, penderfynwyd bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 3 a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2017 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

 

                                2) Gofynnodd yr Aelodau pam nad oedd Cofnodion  17 eg Ionawr 2018 wedi'u rhestru ar yr Agenda i'w cymeradwyo. Eglurodd y Swyddog Craffu fod y cyfarfodydd wedi cael eu cynnal yn agos at ei gilydd yn y dyddiadur ac nad oedd y cofnodion yn barod ar yr adeg cyhoeddi. Roedd swyddogion yn ymwybodol o'r argymhellion a gynhwyswyd yn y cofnodion a byddent yn gweithredu lle roedd hynny'n briodol.

27.

Diweddariad Rhaglen Gwaith pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad yn nodi'r eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol gan gynnwys yr eitem nesaf a ddirprwywyd i'r Pwyllgor hwn. Cyflwynodd restr o eitemau posibl i'r Pwyllgor roi sylwadau arnynt a’u blaenoriaethu hefyd a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried gan ddefnyddio ffurflen y meini prawf. Gofynnwyd i'r Aelodau gymeradwyo'r adborth o'r cyfarfodydd blaenorol hefyd a'r rhestr o ymatebion gan gynnwys unrhyw rai nad oedd wedi cael sylw eto.

 

Mynegodd yr Aelodau bryderon yngl?n â’r Gwasanaethau Gwastraff a’r problemau yr oedd trigolion yn dal i’w hwynebu. Esboniodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor yn ystyried yr eitem hon mewn cyfarfod yn y dyfodol lle byddai'r Aelodau'n cael cyfle i drafod pryderon gyda'r swyddogion perthnasol yn bresennol.

 

O ran yr eitem ar Eiddo Gwag, gofynnodd yr Aelodau am astudiaeth waelodlin ar ba eiddo oedd yn wag, pa mor hir oedd yr eiddo wedi bod yn wag a pha ymdrechion a wnaed i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, cyn y cyfarfod. Gofynnwyd hefyd am ddiffiniad o "eiddo gwag" ac a oedd hyn yn cynnwys eiddo oedd yn wag ac ar werth.

 

Gofynnodd yr Aelodau am sicrhau bod y Gwasanaethau Gwastraff yn cael eu hychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer blaenoriaethu a bod Eiddo Gwag yn cael ei gyflwyno ar gyfer gweddarlledu. 

 

PENDERFYNWYD:                  Fe wnaeth y Pwyllgor:

 

(i)  Gymeradwyo’r adborth o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 3 a nododd y rhestr o ymatebion gan gynnwys unrhyw rai oedd yn dal heb gael sylw eto yn Atodiad A;

 

(ii) O ran Eiddo Gwag, gofynnodd yr Aelodau am astudiaeth waelodlin ar ba eiddo oedd yn wag, pa mor hir yr oedd yr eiddo wedi bod yn wag a pha ymdrechion a wnaed i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, cyn y cyfarfod nesaf. Gofynnwyd hefyd am ddiffiniad o "eiddo gwag" ac a oedd hyn yn cynnwys eiddo oedd yn wag ac ar werth.

 

(iii)   Nodwyd manylion pellach oedd yn ofynnol ar gyfer eitemau eraill yn y Flaenraglen Waith gyffredinol yn Nhabl B Atodiad B;

 

(iv)   Nodwyd Gwasanaethau Gwastraff i'w hystyried yn y dyfodol ar Flaenraglenni Craffu mewn cyfarfodydd yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol ym mis Mai 2018;

 

(v) Awgrymwyd argymell Eiddo Gwag ar gyfer Gwe-ddarlledu.

 

28.

Adfywio Canol Trefi pdf eicon PDF 3 MB

Gwahoddedigion

 

Mark Shephard, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

Satwant Pryce, Pennaeth Adfywio Datblygu a Eiddo

Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Cyng Richard Young, Aelod Cabinet - Cymunedau

Geraint Thomas, Clerc Cyngor Tref Pencoed 

Cynrychiolydd o Cyngor Tref Maesteg

Cyng Richard Collins, Cadeirydd Siambr Busnes Maesteg

Justin Jenkins, BID Pen-y-bont

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad yn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am gyfrifoldebau'r gwasanaeth o ran Adfywio Canol Trefi, sut roeddent yn cael eu rheoli, sut y gellid eu datblygu gyda llai o adnoddau a sut roeddent yn effeithio ar ganol y tair prif dref a'u hadfywio. Roedd yr adroddiad hefyd yn ymdrin â’r ceisiadau penodol a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ei bod yn bwysig nodi nad oedd yr awdurdod yn gallu dylanwadu ar rai meysydd gymaint ag y byddai'n ei hoffi ee eiddo gwag, ond roedd llawer o enghreifftiau o lwyddiant o ran ceisiadau am arian, cynlluniau peilot yn ymwneud â pharcio a gwelliannau i’r priffyrdd, ac roedd y Cyngor yn dal i fod yn uchelgeisiol.

 

Croesawodd y Cadeirydd y gwahoddedigion i'r cyfarfod.

 

Crybwyllodd un Aelod y mater o dalu i barcio’r car a gofynnodd pam roedd yn rhaid i drigolion Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl dalu, roedd Maesteg ynghlwm wrth gyfamod ond roedd parcio ym Mhencoed yn rhad ac am ddim.  Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau nad oedd yn gwybod yr hanes ond roedd yn amau ??bod talu am barcio yn cael ei ddefnyddio fel dull o reoli parcio nad oedd yn gymaint o broblem ym Mhencoed lle roedd parcio ar y stryd ar gael.

 

Gofynnodd un o’r Aelodau am eglurhad ynghylch a oedd Pencoed yn dref ai peidio  

ac os ddim, pam fod ganddi Gyngor Tref a Maer. Roedd hi'n falch o weld bod yr adroddiad yn cyfeirio at y Cyngor yn lobïo llywodraeth y DU er mwyn gallu gweithredu cynllun a gynlluniwyd i osod pont ffordd wedi'i hail-fodelu yn lle croesfan y rheilffordd. Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio gefndir i'r mater a dywedodd fod swyddog cynllunio wedi anfon esboniad i'r Aelodau ynghylch sut yr ymdrinnir â threfi yn nhermau cynllunio. Roedd yna gynllun ar gyfer datblygiad mawr wrth  groesfan y rheilffordd a'r cam nesaf oedd sicrhau cefnogaeth gan Network Rail. Dywedodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau nad oedd anghydfod, roedd Pencoed yn dref. Roedd gan y tair prif dref ganol trefi h?n a phroblemau mawr o'i gymharu â Phencoed. Awgrymodd Aelod y dylid cynnwys talu am barcio ym Mhencoed yn yr adolygiad parcio ceir. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod yr adolygiad wedi'i gynnal dros y misoedd diwethaf a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Mawrth, gydag opsiynau ar gyfer ymgynghori ac awgrymiadau ynghylch incwm. Nid oedd unrhyw argymhellion penodol mewn perthynas â Phencoed.     

 

Gofynnodd Aelod a oedd yr adolygiad parcio ceir yn cynnwys parcio ar safleoedd ysgolion. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod talu am barcio ceir yn cael ei ddefnyddio fel dull i reoli parcio anystyriol a pheryglus. Roedd perygl y byddai talu am barcio ceir lle nad oedd hyn yn broblem yn annog parcio ar y ffyrdd a fyddai'n arwain at anhrefn. Roedd talu am barcio yn cael ei ddefnyddio yn gyffredinol yng nghanol trefi.   

 

Gofynnodd Aelod a oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 28.

29.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z