Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

30.

Datgan Buddiannau

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

 

Cofnodion:

Datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd E Venables fuddiant rhagfarnus yn eitem 5 – Eiddo Gwag, gan ei bod yn berchen ar ddau eiddo gwag.  Gadawodd y Cynghorydd Venables y cyfarfod wrth i'r eitem hon gael ei hystyried.   

31.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 82 KB

I dderwyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 17/01/18 a 12/02/18

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:            Cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Pwnc 3 ar 17 Ionawr a 12 Chwefror 2018 yn gofnod gwir a chywir.   

32.

Diweddariad Rhaglen Gwaith pdf eicon PDF 63 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Swyddog Craffu ar yr eitemau a gafodd eu blaenoriaethu gan y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Corfforaethol a oedd yn cynnwys yr eitem nesaf a ddirprwywyd i’r Pwyllgor hwn ei hystyried.  Cyflwynodd restr o eitemau posibl eraill hefyd i'w blaenoriaethu a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau eraill i'w hystyried drwy ddefnyddio'r ffurflen meini prawf a bennwyd ymlaen llaw. 

 

Casgliadau

 

(1)  Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adborth o'i gyfarfod blaenorol a nododd y rhestr o ymatebion, gan gynnwys y rhai oedd yn dal heb eu cyflawni;

(2)  Nododd aelodau’r Pwyllgor fod eitem am Dai Brys wedi cael eu dirprwyo iddynt ar gyfer y cyfarfod nesaf;

(3)  Nodwyd bod angen manylion pellach ar gyfer eitemau eraill yn Nhabl B Atodiad B y Flaenraglen Waith cyffredinol;

(4)  Ystyriodd y ffurflenni meini prawf a gwblhawyd yn Atodiad C a phenderfynodd a oedd yn dymuno ychwanegu’r eitemau hyn a gynigiwyd at y Flaenraglen Waith.

33.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cadeirydd gyflwyniad gan Jennifer Ellis, Rheolwr Strategaeth Tai a Buddsoddiad, Cyngor Rhondda Cynon Taf, ynghylch y dull a gymerodd Cyngor Rhondda Cynon Taf i fynd i’r afael ag eiddo gwag fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefnau'r Cyngor o fewn y Cyfansoddiad, er mwyn iddo gael ei ystyried ar y cyd â’r adroddiad am Eiddo Gwag. 

34.

Eidd Gwag pdf eicon PDF 178 KB

Invitees:

 

Cllr Hywel Williams – Dirprwy Arweinydd

Cllr Richard Young – Aelod Cabinet - Cymunedau

Andrew Jolley – Cyfarwyddwr CorfforaetholGwasanaethau a Phartneriaethol

Martin Morgans – Pennaeth GwasanaethPerfformiad a Gwasanaethau

Jonathan Parsons – Rheolwr Grwp Datblygu

Helen Picton – Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Jennifer Ellis, Rheolwr Strategaeth a Buddsoddiad Tai Cyngor Rhondda Cynon Taf, gyflwyniad i’r Pwyllgor ynghylch mynd i’r afael ag eiddo gwag.  Dywedodd fod y dull o fynd i’r afael ag eiddo gwag yn deillio o gael 3,375 o eiddo gwag yn 2014/15, a oedd yn cynrychioli 2% o’r stoc, o gymharu â’r sefyllfa yn CBSP, lle mae 2,800 o eiddo gwag, sy'n cynrychioli 2% o'r stoc.  Sefydlodd Cyngor Rhondda Cynon Taf Weithgor Craffu, a gyflwynodd gyfres o argymhellion, gan gynnwys nodi cyfleoedd ariannu, cyflwyno dull targedig, codi ymwybyddiaeth a rhoi cyngor a gwybodaeth. 

 

Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Tai a Buddsoddiad wrth y Pwyllgor y rhoddwyd ystyriaeth i ardaloedd â galw uchel, gan gydnabod nad oedd pob t? yn gweddu i bawb oherwydd roedd gwahaniaethau eang rhwng cymunedau yng ngogledd a de'r Fwrdeistref o ran y galw am dai.  Anfonwyd arolwg drwy’r post i berchenogion eiddo a oedd wedi bod yn wag am 6 mis er mwyn deall cyflwr yr eiddo a bwriadau’r perchenogion yn well. 

  

Tynnodd sylw at rôl y Cyngor, yr adnoddau a’r projectau ar gyfer mynd i’r afael ag eiddo gwag a thynnodd sylw hefyd at astudiaeth achos a welodd Hen Neuadd y Dref yn Aberdâr yn dod yn ôl i ddefnydd.  Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo 117 o Grantiau Eiddo Gwag hyd yn hyn a oedd yn dod i gyfanswm o £2.2m yn 2018/19. Amlinellodd y Rheolwr Strategaeth Tai a Buddsoddiad y dulliau gorfodi a gymerodd Cyngor Rhondda Cynon Taf.  Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn bwriadu sefydlu Rhith-dîm Eiddo Gwag; strategaeth eiddo gwag newydd; cynyddu’r raddfa; nodi ffynonellau ariannu pellach a chyfleodd i weithio'n rhanbarthol, ac ymgymryd â gwaith ymchwil pellach i danategu dulliau newydd.

 

Dywedodd Rheolwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth wrth y Pwyllgor am ddull CBSP a oedd yn cael ei gydlynu gan Bennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth.  Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd fod y Cyngor wedi cymeradwyo swydd Swyddog Eiddo Gwag a gofynnodd i’r Pwyllgor argymell sut i fynd ati i sicrhau adnoddau ar gyfer y swydd.  Dywedodd ei fod yn parhau i gael cymorth gwych gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) a bod posibilrwydd y gallai’r GRhR ymgymryd â’r rôl hon oherwydd arbenigedd y gwasanaeth o ran delio ag eiddo segur a chan fod gan y gwasanaeth fwy nag un aelod o staff yn y rôl hon.   

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth wrth y Pwyllgor fod Gweithgor Traws-gyfarwyddiaeth wedi cael ei sefydlu, a’i flaenoriaeth gyntaf yw deall beth yw’r sefyllfa o ran nifer yr eiddo gwag, o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a ledled y DU.  Dywedodd fod tipyn yn digwydd ar hyn o bryd i fynd i’r afael ag eiddo gwag. Fodd bynnag, nid oedd Cyfarwyddiaethau wedi gweithredu yn gydlynol yn y gorffennol wrth ddelio â’r broblem.  Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd fod arferion gorau o ran sut i ymdrin ag eiddo gwag a bod gan y GRhR lawer o wybodaeth ar ei gronfa ddata eiddo.  Mae holiadur yn cael ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 34.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z