Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democratic Serviceas Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

40.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim

41.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 74 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 21 03 18.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  Cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Pwnc 3 ar 21 Chwefror 2018 yn gofnod gwir a chywir. 

42.

Diweddariad am y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gymeradwyo’r adborth o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testunau 3 gan nodi rhestr yr ymatebion gan gynnwys y rhai sy’n weddill o hyd. 

 

Esboniodd y Swyddog Craffu nad oedd unrhyw eitem eto wedi cael ei hamserlennu ar gyfer cyfarfod 23 Gorffennaf ac awgrymodd y gallai'r Pwyllgor ofyn bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ddyrannu’r eitem Bwrdeistref Sirol Heb Blastig a gyfeiriwyd gan y Cyngor, i’r cyfarfod hwnnw. Gallai hyn gynnwys cymhariaeth ag awdurdodau eraill a manylion am yr hyn oedd yn cael ei wneud mewn swyddfeydd y cyngor gan gynnwys ailgylchu.

 

Gofynnodd yr aelodau a oedd yr adroddiad hwnnw’n barod a hefyd trafododd opsiynau eraill megis y ffurflen meini prawf Grant Cefnogi Pobl a gafodd ei gyflwyno, adborth gan Kier (gan gynnwys cynnydd flwyddyn i mewn i’r contract ac opsiynau ar gyfer dod â’r contract i ben), caffael, a rhwymedigaeth i fod yn bresennol yn Caffael os y gofynnir, Parciau a Meysydd Chwarae, Proses CAT a chynnydd ers yr adroddiad diwethaf, ac Eiddo Gwag. Eglurodd y Swyddfa Caffael y sefyllfa parthed Kier ac esboniodd bod Kier wedi cael ei wahodd i un cyfarfod a bod swyddogion wedi bod yn bresennol yn unol â hyn. 

 

Cytunodd yr aelodau i ofyn bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn dyrannu ‘r eitem ar y Bwrdeistref Sirol Heb Blastig a gyfeiriwyd gan y Cyngor i'r cyfarfod ar 23 Gorffennaf 2018. Gofynnodd yr Aelodau i CAT gael ei ddyrannu i’r cyfarfod ym mis Medi wedi'i ddilyn gan Barciau a Meysydd Chwarae.

 

Casgliadau

 

(1)                  Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adborth o'r cyfarfodydd blaenorol a nododd y rhestr o ymatebion, gan gynnwys y rhai oedd yn dal heb eu cyflawni.

(2)                   Gofynnodd y Pwyllgor bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn dyrannu’r eitem Bwrdeistref Sirol Heb Blastig a gyfeiriwyd gan y Cyngor i’r cyfarfod ar 23 Gorffennaf  ac i CAT (cynnydd ers yr adroddiad diwethaf)  i gael ei ddyrannu i'r cyfarfod mis Medi wedi'i ddilyn gan Barciau a Meysydd Chwarae.  

(3)                  Ystyriodd y Pwyllgor y ffurflen meini prawf ar Atodiad C.  

 

43.

Enwebu’r Aelod i’r Panel Craffu pdf eicon PDF 64 KB

Cofnodion:

Argymhellwyd 

 

Enwebodd y Pwyllgor y Cynghorydd David Lewis i eistedd ar Banel Trosolwg a Chraffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

44.

Adroddiad Enwebu Pencampwr Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Argymhellwyd

 

                 Enwebodd y Pwyllgor y Cynghorydd DBF White fel ei Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli'r Pwyllgor mewn cyfarfodydd o#r Pwyllgor Cabinet Rhianta Corfforaethol.   

45.

Adolygiad o Wasanaethau’r Priffyrdd pdf eicon PDF 423 KB

Gwahoddedigion:

 

Cyng Richard Young – Aelod Cabinet Cymunedau

Mark Shephard – Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau

Zak Shell – Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth

Kevin MulcahyRheolwr Grwp Priffyrdd

Andrew Hobbs – Rheolwr Grwp Gwaith Stryd

 

Cofnodion:

Ystyriodd aelodau adroddiad ar effaith y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) ar Wasanaethau’r Priffyrdd.  Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau lefel yr arbedion effeithlonrwydd yng nghyllideb gwasanaethau'r priffyrdd a’r gostyngiad o ran staff wrth geisio cadw lefel gwasanaeth briodol.  Esboniodd fod mwyafrif y gwasanaethau yn ddarpariaeth statudol fodd bynnag ni phenodwyd union lefel y gwasanaeth neu'r safon.     Amlinellodd werth asedau rhwydwaith y priffyrdd a’r pwysau a ddisgwylir yn y dyfodol.  Hefyd cyfeiriodd at yr angen am atebion arloesol a chydweithio i wella ymatebolrwydd a gwydnwch yn y dyfodl 

 

Roedd Aelodau’n disgwyl adroddiad People2 i gael ei gynnwys yn yr Adolygiad Gwasanaethau Priffyrdd a  gwnaethant gwestiynu gwerth ystyried yr adroddiad hwn heb y wybodaeth honno. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau nad oedd adroddiad People 2 yn rhan o’r Adolygiad Gwasanaethau Priffyrdd.

 

Trafododd yr aelodau torri gwair ac yn benodol, amodau tywydd presennol, adrodd am beryglon, hydoedd torri gwahanol, coridorau draenio ac ecolegol, gwiriadau o waith y contractwyr, caffael a meini prawf ar gyfer y tendr a gwerth am arian.   Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaethau nad oedd torri gwair yn rhan o'r Adolygiad o Wasanaethau’r Priffyrdd ac nid oed y swyddogion a oedd yn arbenigo mewn torri gwair yn bresennol.  Fodd bynnag, byddai’n trosglwyddo sylwadau’r Pwyllgor i’r swyddogion perthnasol cyn caffael contract torri gwair newydd.  

 

Cyfeiriodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau'r Priffyrdd i’r gwasanaeth DLO a phrofiad ac amrywiaeth y tîm wrth ymgymryd â dyletswyddau a fyddai fel arall yn gofyn am gontractau arbenigol unigol y tu allan i'r awdurdod. Gofynnodd yr aelodau am amserlennu ar gyfer torri gwair ac ail-arwynebu priffyrdd o fewn y Bwrdeistref.       

 

Trafododd yr Aelodau gynnal a chadw arwyddion stryd, glanhau a thorri’r isdyfiant. mae TCC yn rhannu costau adnewyddu arwyddion a gofynion statudol ac anstatudol i lanhau arwyddion gwahanol.      Esboniodd Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau'r Priffyrdd fod ei tîm yn gyfrifol am y gwaith ac y bu gostyngiad sylweddol o ran staff. Byddai Arolygwyr y Priffyrdd yn nodi unrhyw waith yr oedd angen ei wneud a châi atodlenni eu diweddaru er mwyn  ymgorffori adnewyddiadau, torri yn ôl neu lanhau os bydd  gofyn gwneud hynny.

 

Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod 4 giang peryglon yn wreiddiol ond bod hyn wedi lleihau i 1. Gwnaeth y tîm bob ymdrech i ddyrannu’r adnoddau’n effeithiol ond roedd yn her enfawr. Adroddodd fod grant amgylcheddol wedi’i sicrhau am astudiaeth i mewn i fioamrywiaeth ar ymylon y ffyrdd a byddai’r canlyniadau ar gael yn hwyrach eleni.

 

Trafododd yr aelodau nifer o faterion eraill gan gynnwys gwaith cynnal a chadw yn yr orsaf fysiau, trwsio ceudyllau, clirio gylïau a defnydd geifr i glirio tir mewn ffordd fwy naturiol.  

 

Adroddodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ei fod yn gwrando ar gwestiynau, pryderon a sylwadau’r Pwyllgor ar olwg yr ardal.  Roedd y Swyddogion yn ymwybodol o ddiogelwch ac yn gwneud y gorau y gallent.   Roedd hefyd yn ddiolchgar i rai o’r Cynghorau Tref am gamu i’r adwy ac ymgymryd â rhai o’r cyfrifoldebau.

 

Gofynnodd aelodau am fwy o wybodaeth am namau a lefelau ymyrraeth cyffredinol. Adroddodd Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth eu bod wedi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 45.

46.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z