Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 3 - Dydd Llun, 23ain Gorffennaf, 2018 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

47.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim

48.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 78 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/04/2018 a 12/06/2018

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD : Bod cofnodion y Pwyllgor Trosolwg Pwnc

a Chraffu 3 dyddiedig 19 Ebrill 2018 a 12 Mehefin 2018 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.       

49.

Diweddariad ar y Flaenraglen waith pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Swyddog Craffu gyflwyno'r adborth o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 3 a rhestr o'r ymatebion gan gynnwys y rhai hynny a oedd yn dal i fod ar y gweill.

 

Esboniodd un aelod ei fod wedi cyflwyno cwestiwn i'r Cyngor

ynghylch Gwasanaethau Gwastraff, ond roedd y dyddiad cau wedi mynd rhagddo. Gofynnodd pan fydd yr eitem hon yn cael ei hystyried nesaf, a allai'r adroddiad gynnwys y contract a pha sancsiynau a oedd ar waith yn sgil diffyg cyflenwi yn y cyfnod cyntaf. Roedd am wybod pa gamau a oedd wedi cael eu cymryd yn sgil peidio â chadw at y dyddiadau cau, y costau ychwanegol yn ymwneud â phroblemau ar ddechrau'r contract a nifer yr atgyfeiriadau gan aelodau. Gwnaeth y Swyddog Craffu atgoffa'r aelodau, fel yr esboniwyd yn flaenorol, y gallai’r agweddau ariannol ar y contract gael eu hystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.

 

Gofynnodd un aelod i'r adroddiad gynnwys diweddariad ar orfodi, a chanlyniad yr adolygiad, yn benodol mewn perthynas ag ardal Melin Wyllt.

 

Gofynnodd y Swyddog Craffu i'r Pwyllgor a oeddent am gael gwybodaeth bellach ynghylch unrhyw eitemau neu a oeddent am flaenoriaethu unrhyw eitemau.

 

Cyfeiriodd un aelod at anghenion dysgu ychwanegol a deddfwriaeth aelodau preifat ynghylch awtistiaeth a gofynnodd am fwy o fanylion ynghylch yr hyn oedd yn cael ei fwydo i’r broses. 

 

Gofynnodd yr aelodau a ellir blaenoriaethu Parciau a Chaeau, y broses CAT ddiwygiedig ac adeiladau gwag.

 

PENDERFYNWYD:                  Bod yr adroddiad a'r sylwadau a wnaed yn    

                                                  cael eu nodi.

 

50.

Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr di-blastig pdf eicon PDF 82 KB

Invitees:

Zak Shell, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth

Andrew Hobbs, Rheolwr Gr?p - Gwaith Stryd

Paul Thomas, PrifSyrfëwrEiddo a cyfleusterau rheolaeth

Cllr Richard Young, Aelod Cabinet - Cymunedau

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth gyflwyno adroddiad yn hysbysu'r pwyllgor ynghylch llygredd yn sgil gwastraff plastig a'r cais am "Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr di-blastig".

 

Gwnaeth un aelod fynegi ei siom am fod yr adroddiad yn cyflwyno safbwynt negyddol gan roi rhesymau pam na ellid rhoi camau ar waith yn hytrach na'r hyn y gellir ei wneud. Gwnaeth y Cadeirydd gytuno mai'r ymdeimlad cyffredinol a gafwyd gan y pwyllgor oedd mai adroddiad arwynebol oedd hwn. Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod hwn yn bwnc cymhleth ac nad oedd wedi bwriadu bod yn negyddol. Roedd yn awyddus i sicrhau y byddai sylw dyledus yn cael ei roi i'r materion a byddai camau gweithredu yn cael eu cymryd at y dibenion cywir. Gwnaeth esbonio bod y cynnig, yn wreiddiol, wedi cael ei gyflwyno i'r Cyngor ond yna cafodd ei dynnu yn ôl er mwyn iddo gael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu. Bwriad yr adroddiad oedd ennyn trafodaeth ynghylch defnyddio plastig untro yn hytrach na thybio y byddai'r awdurdod yn symud ymlaen â’r penderfyniad i roi’r gorau i’w defnyddio. Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth esiampl drwy gymharu ysgrifbin untro sy'n cael ei brynu’n eang gan yr awdurdod ar hyn o bryd ac ysgrifbin parker sy'n ail-lanwadwy. Roedd un yn ddrutach o lawer na'r llall, ond nid oedd angen ei daflu. Tynnodd sylw at yr elfen fach hon o wariant cyson, a’r ffaith ei bod yn arwain at achos busnes cymharol gymhleth wrth ystyried cost yn erbyn y budd amgylcheddol a byddai angen ystyried hyn yn ofalus er mwyn i'r Awdurdod wneud y penderfyniad gorau ynghylch pa un i'w brynu.  Diben yr adroddiad oedd tynnu sylw at y cymhlethdodau hyn er mwyn osgoi gwneud penderfyniad difeddwl i newid polisi cyn deall y goblygiadau.

 

Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth gyfeirio at 'Blue Planet' sef cyfres deledu gan y BBC a oedd yn dangos sut yr oedd plastig yn cael ei ddefnyddio a'i waredu’n anghyfrifol, a fyddai’n amlwg yn peri pryder mawr i unrhyw un sy’n gwylio.  Esboniodd y bu datblygiadau sylweddol yn y dull o waredu plastig ar garreg y drws ac wrth gasglu cynhyrchion gwastraff amsugnadwy. Er bod camau gweithredu cadarnhaol wedi’u cymryd eisoes, roedd effaith a diffiniad 'Pen-y-bont ar Ogwr ddi-blastig' yn gymhleth ac nid oedd y buddiannau yn glir. Roedd yn dal i fod lle i wella yn bennaf mewn swyddfeydd lle gellir defnyddio rhywbeth yn lle deunyddiau plastig untro. Gallai'r newidiadau fod yn eang ac effeithio ar bob rhan o'r Awdurdod gan gynnwys cymorth busnes a chaffael. Ychwanegodd, er mwyn gwir ddeall yr effaith lawn byddai angen gwneud astudiaeth bellach i weld faint byddai’n ei gostio i roi terfyn ar hyn, yr effaith y byddai'n ei chael, a beth fyddai'r arbedion yn yr hirdymor. Byddai'n rhaid i'r awdurdod fod yn ymwybodol o'r achos busnes a'r holl faterion ynghlwm ag ef.  Esboniodd y byddai'n bosibl newid o fagiau gwastraff bwyd biodiraddiadwy i ddefnyddio bagiau plastig untro a allai gael eu tynnu o'r broses. Mae'n cymryd gormod o amser i'r bagiau biodiraddiadwy bydru  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 50.

51.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.