Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

52.

Datgan buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd P Davies fod ganddo fuddiant yn Eitem 5 ar yr Agenda, Gwasanaethau Gwastraff, gan fod aelod o’i deulu’n gweithio i Kier, Tondu.

53.

Cymeradwyo’r cofnodion pdf eicon PDF 83 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 23/07/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3, dyddiedig 23 Gorffennaf 2018, yn gywir.

54.

Gwasanaethau Gwastraff pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad am y modd roedd Cytundeb Gwasanaethau Gwastraff y Cyngor yn cael ei weithredu. Ers cyflwyno’r gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu newydd ar 5 Mehefin 2017, meddai, roedd y sefyllfa wedi gwella’n raddol, ond yn arwyddocaol. Roedd problemau’n codi o bryd i’w gilydd mewn ambell leoliad ond roedd swyddogion yn cydweithio’n agos â’r contractwyr i’w datrys. Esboniodd bod yr ymatebion i’r cwestiynau penodol a ofynnwyd yn y cyfarfod diwethaf wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ac roeddent yn dangos bod perfformiad wedi gwella. Ystyriwyd bod y perfformiad yn gyffredinol yn awr cystal â safonau’r diwydiant er ei fod yn cydnabod nad oedd rhai problemau wedi’u datrys yn llawn. Esboniodd fod y Cyngor, o’r 22 awdurdod lleol, yn safle 21 ar un adeg ond erbyn hyn, roedd yn yr ail safle. Nid oedd hyn yn adlewyrchu casgliadau blwyddyn lawn ac roedd yn rhagweld y byddai’r gyfradd ailgylchu dros 70%. Ychwanegodd fod canran y cynwysyddion na chawsant eu gwagu hefyd yn is na’r ganran yn 2016.

 

Rhoddodd Rheolwr Rhanbarthol Kier, Mr Maz Akhtar, ychydig o ystadegau i ddangos sut roedd y gwasanaeth wedi gwella. Esboniodd fod cydberthynas i’w weld rhwng ceisiadau am gynwysyddion a chartrefi a oedd yn llenwi mwy na dau fag o wastraff. Roedd nifer y ceisiadau’n uwch nag y buont yn y gorffennol ond roeddent yn dechrau sefydlogi. Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol fod nifer y galwadau i’r ganolfan alwadau’n awr yn cyfateb i’r contract gwreiddiol ac roedd dros 7000 o ddigwyddiadau wedi’u cofnodi ar y wefan ers i’r system newydd fynd yn fyw.  Roedd y system hon yn cael ei hyrwyddo a dosbarthwyd taflen wybodaeth ym mis Mehefin gyda’r calendrau.

 

Esboniodd fod cynnydd o 15% yn nifer y ceisiadau am y gwasanaeth casglu nwyddau hylendid amsugnol. Roedd cynnydd yn nifer y ceisiadau am y gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd ac roedd y porthol ar-lein wedi denu dros 1800 o gwsmeriaid. Wrth ddadansoddi’r ystadegau ar gyfer y tair blynedd diwethaf, y ffigurau diweddaraf oedd y gorau hyd yma (ar wahân i un cyfnod ym mis Chwefror yn ystod tywydd garw).

 

Nododd y Pwyllgor fod y cyfraddau ailgylchu wedi codi ers cyflwyno’r gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu newydd ym mis Mehefin 2017 ac roedd yn ddiolchgar i bobl Pen-y-bont ar Ogwr am ddefnyddio’r cynllun ailgylchu newydd.

 

Cyfeiriodd un Aelod at y gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd a’r dryswch a ddeilliodd o’r ffaith bod dau galendr wedi’u cyhoeddi, yn dangos dyddiadau gwahanol. Esboniodd y Rheolwr Rhanbarthol y bu’n anodd amcangyfrif faint fyddai’n defnyddio’r gwasanaeth; roedd dros 650 o gwsmeriaid mewn un ardal a dim ond 7 mewn ardal gyfagos. O ganlyniad, roeddent wedi gorfod newid y dyddiau a chyhoeddi’r ail galendr. Byddai ganddynt syniad gwell o’r niferoedd erbyn dechrau’r flwyddyn nesaf a byddai’n haws cynllunio’n fwy effeithiol.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y cwestiynau penodol a ofynnwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2017 a’r ymatebion a gafwyd yn yr adroddiad. Cafwyd cwestiynau ychwanegol neu gofynnwyd am eglurhad ynghylch rhai pwyntiau.

 

Cwestiwn 2, Ailgylchu plastig du.

 

Gofynnodd yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 54.

55.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z