Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 3 - Dydd Llun, 22ain Hydref, 2018 10:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

57.

Datgan Buddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cyng. S Baldwin fuddiant personol dan eitem 4 yr agenda, Cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned, gan ei fod yn aelod o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Datganodd y Cyng. N Clarke fuddiant personol dan eitem 4 yr agenda, Cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned, gan ei bod yn aelod o Gyngor Tref Porthcawl.

 

Datganodd y Cyng. P Davies fuddiant personol dan eitem 3 yr agenda, Diweddariad ynghylch y Flaenraglen Waith, gan fod aelod o'i deulu yn gweithio yn Kier, Tondu a than eitem 4 yr agenda, Cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned gan ei fod yn aelod o Gyngor Tref Maesteg ac yn Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau.

 

Datganodd y Cyng. Hussain fuddiant personol dan eitem 4 yr agenda, Cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned, gan ei fod yn Gynghorydd Cymuned y Castellnewydd.

 

Datganodd y Cyng. D Lewis fuddiant personol dan eitem 4 yr agenda, Cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned, gan ei fod yn aelod o Gyngor Cymuned Llansanffraid ar Ogwr.

 

Datganodd y Cyng. R Shaw fuddiant personol dan eitem 4 yr agenda, Cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned, gan ei fod yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Cwm Garw, yn aelod o Gr?p Llywio Canolfan Chwaraeon Gymunedol Cwm Garw, yn Gadeirydd Canolfan Llangeinor, yn Gadeirydd Cymdeithas Chwaraeon Pontycymer ac yn Gadeirydd elusen Calon y Cwm.

 

Datganodd y Cyng. J Spanswick fuddiant personol dan eitem 4 yr agenda, Cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned, gan ei fod yn aelod o Gyngor Cymuned Bracla.

 

Datganodd y Cyng. R Stirman fuddiant personol dan eitem 4 yr agenda, Cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned, gan ei bod yn aelod o Gyngor Cymuned Cwm Garw.

 

Datganodd y Cyng. R Young fuddiant personol dan eitem 4 yr agenda, Cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned, gan ei fod yn aelod o Gyngor Cymuned Coety Uchaf.

 

58.

Diweddariad ynghylch Y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adborth o gyfarfodydd blaenorol Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 ynghyd â rhestr o'r ymatebion, gan gynnwys y rhai nad oeddent eto wedi cael sylw.

 

Cymeradwyodd yr Aelodau'r adborth a gafwyd yn sgil yr eitem am Briffyrdd a ystyriwyd yn y cyfarfod ar 12 Mehefin 2018 ynghyd â'r adborth a gafwyd yn sgil yr eitem 'Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Di-blastig' a ystyriwyd yn y cyfarfod ar 23 Gorffennaf 2018. 

 

Ystyriodd yr Aelodau'r adborth a gafwyd yn sgil yr eitem am Wasanaethau Gwastraff a ystyriwyd yn y cyfarfod ar 17 Medi 2018.

  • Gofynnodd yr Aelodau pryd y byddai'r pecynnau croeso i denantiaid newydd landlordiaid preifat a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael eu gweithredu.
  • Gofynnodd yr Aelodau am gadarnhad bod yr Arweinydd wedi ysgrifennu at bob archfarchnad a chynhyrchwr bwyd lleol ynghylch peidio â defnyddio bagiau plastig mwyach a holwyd a oedd ymateb wedi dod i law.
  • Gofynnodd yr Aelodau faint o rybuddion Adran 46, Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a gyhoeddwyd (nid Rhybuddion Cosb Benodedig fel yr amlinellwyd yn yr ymateb).
  • Gofynnodd yr Aelodau am eglurder ynghylch y mathau o gerbydau a dderbynnid yn y safle ailgylchu cymunedol ac i'r wybodaeth hon gael ei rhoi ar y wefan.

 

Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch adborth yn cael ei golli a bod yr un eitem yn cael ei hystyried gan ddau Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc. Codwyd yr angen hefyd i weithredu ar argymhellion. 

Awgrymodd Aelod y gellid ystyried hyn wrth i'r strwythur craffu gael ei adolygu.

 

Soniodd y Swyddog Craffu y byddai'r gyllideb yn cael ei hystyried yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr ac y byddai'r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn cael sylw yn y cyfarfod ym mis Ionawr 2019. Gofynnodd yr Aelodau i'r adroddiad ynghylch Trosglwyddo Asedau Cymunedol gynnwys diweddariad yngl?n â'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Craffu yn ei gyfarfod 12 mis yn ôl. Gofynnodd yr Aelodau hefyd sawl gwaith yr oedd y Gr?p Tasg a Gorffen wedi cwrdd a faint o Gynghorwyr oedd y rhan o'r gr?p.    

 

Byddai Eiddo Gwag yn cael sylw yn y cyfarfod ym mis Chwefror 2019. Gofynnodd yr Aelodau am ddiweddariad yngl?n â'u hargymhellion. Gofynnwyd yn benodol a oedd Swyddog Eiddo Gwag dynodedig wedi'i benodi ac a wnaethpwyd y penodiad drwy'r Cydwasanaeth Rheoleiddio.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ddiweddariad yngl?n â hyfforddiant Bridgemaps ac awgrymwyd y dylai pob Aelod gael yr hyfforddiant hwn. 

 

Gofynnodd yr Aelodau am ddisgrifiad llawn o'r hyfforddiant pan gaiff ei hysbysebu, ynghyd â gwahoddiad i gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwnnw os yw'n berthnasol, hyd yn oed os oedd yr hyfforddiant wedi'i fwriadu ar gyfer pwyllgor penodol.

 

Gofynnwyd a oedd cynrychiolaeth o blith yr Aelodau ar y gr?p a oedd yn ystyried Atgyfeiriadau gan Aelodau.

 

PENDERFYNIAD:            

 

1.    Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adborth a gafwyd yng nghyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc a nodwyd yr ymatebion nad oeddent wedi dod i law eto.

2.    Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth yngl?n â'r adborth a grybwyllwyd uchod.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 58.

59.

Cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 923 KB

Gwahoddedigion

 

Darren Mepham, Prif Weithredwr

Mark Shephard, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

Kelly Watson, Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd

Guy Smith, Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad a hysbysai'r Pwyllgor ynghylch canlyniad adolygiad cyfredol Llywodraeth Cymru o Gynghorau Tref a Chymuned a'i effaith ar y Cyngor. Amlinellai'r adroddiad y modd yr oedd y Cyngor yn elwa o'r cydweithio hwn hefyd, ynghyd â'r graddau yr oedd awdurdodau lleol eraill yn cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Cadeirydd yr estynnwyd gwahoddiad i Un Llais Cymru i'r cyfarfod ond na chafwyd ymateb ac nad oedd cynrychiolydd yn bresennol. Gofynnodd yr Aelodau a fyddai modd anfon llythyr at Un Llais Cymru yn eu hannog i fod yn bresennol pan fydd y mater yn cael sylw mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Dywedodd Aelod fod yr adroddiad yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio a'i fod hefyd yn crybwyll ansawdd y staff mewn Cynghorau Tref a Chymuned a'u gallu i gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nid oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn wastad yn rhoi digon o amser i Gynghorau Tref a Chymuned ymateb ac nid oedd yn briodol gofyn iddynt weithio i'r un lefel gan nad oedd ganddynt yr un nifer o staff na'r un capasiti â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd gwahaniaeth enfawr i'w gael o ran y gallu a'r awydd i gydweithio ac roedd yn gwbl hanfodol dod o hyd i gyfrwng cyfnewid a ffordd ymlaen a oedd yn addas i bawb. Trafododd y Pwyllgor y gwahaniaeth o ran sgiliau a medrau Cynghorwyr a Chlercod Cynghorau Tref a Chymuned yn y Fwrdeistref. Er mwyn deall y medrau hyn i gyd, awgrymodd yr Aelodau y dylid cynnal awdit sgiliau a gofynnwyd i'r pwnc gael ei gynnwys ar agenda Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned i'w drafod.

 

Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch yr angen am bwynt cyswllt. Cyn-Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd oedd y prif bwynt cyswllt ac roedd cael gweithiwr penodedig i ddelio â materion yn osgoi dryswch wrth ddod o hyd i'r person cywir i ddelio ag ymholiadau. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y cafwyd trefn anffurfiol yn y gorffennol lle byddai cyn-Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn gyfrifol am gyswllt â Chynghorau Tref a Chymuned. Ategodd fod hyn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Trafodwyd swyddogaeth y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol yng nghyd-destun cynnwys cyfrifoldebau sy'n ymwneud â chyswllt â Chynghorau Tref a Chymuned. Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch ymestyn y swyddogaeth honno a gofynnodd sut y byddai'r baich gwaith ychwanegol posib yn effeithio ar ei allu i weithio'n effeithiol.

 

Nododd Aelod nad oedd yr adroddiad yn adlewyrchu'i phrofiad hi o gydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned. Roedd rhagor o weithgareddau'n cael eu datganoli i Gynghorau Tref a Chymuned ond dim ond ychydig o staff oedd ar gael. Nid oedd rhai ohonynt yn cael tâl, nid oedd rhai wedi'u hyfforddi ac roedd gallu'r staff yn amrywio. Nid oedd gan rai yr awydd i gydweithio. Yn ei barn hi, atebolrwydd oedd y prif fater. Roedd perygl y gallai un person neu gr?p bychan ddylanwadu ar y gwaith i gyd.

 

Dywedodd Aelod yr hoffai wybod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 59.

60.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

None