Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Galvin/Andrew Rees 

Eitemau
Rhif Eitem

66.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim.

67.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 328 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 24/01/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 3 dyddiedig 24 Ionawr 2019 fel cofnod gwir a chywir yn amodol ar ychwanegu enw'r Cynghorydd RMI Shaw at y rhestr o ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y cyfarfod.

68.

Eiddo Gwag pdf eicon PDF 167 KB

Gwahoddedigion:

 

Cyng Hywel Williams - Dirprwy Arweinydd

Cyng Dhanisha Patel - Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol

Martin Morgans - Pennaeth Gwasanaeth - Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth Lynne Berry - Rheolwr Gr?p Adfywio Tai a Chymuned

Jonathan Flower - Uwch Swyddog Strategol

Helen Rodgers - Rheolwr refeniw

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau gyflwyniad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y cynnydd a wnaed yn dilyn yr adroddiad ym mis Mawrth 2018 mewn perthynas ag Eiddo Gwag ac yn arbennig yn ymdrin â’r canlynol:

 

      Dull Cyfunol a Rhagweithiol

      Capeli ac Eglwysi

      Cyfleoedd o ran Treth y Cyngor

      Eiddo Gwag heb Fand

      Recriwtio Swyddog Eiddo Gwag “penodol”

      Strategaeth yn nhermau Pam, Ymagwedd a Chynnydd hyd yma o ran ble rydym ni.

Diolchodd y Pwyllgor i'r Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau a'r Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Lles am y gwaith sydd wedi'i wneud ar hyn ac roeddent yn falch o weld Eiddo Gwag yn dod yn ôl i'r pwyllgor a'r strategaeth sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. 

Gofynnodd yr Aelodau a allai'r Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau egluro ei sylw y byddai’r Swyddog Eiddo Gwag yn gweithio'n 'bennaf' ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Cadarnhaodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau fod hwn yn air anghywir i'w ddefnyddio a bod y Swyddog Eiddo Gwag yn canolbwyntio ar eiddo Pen-y-bont yn unig.

Pwysleisiodd yr Aelodau fod hwn yn ymrwymiad trawsbleidiol a bod pawb eisiau iddo fod yn llwyddiant ac felly roedd angen gwneud perchnogion eiddo yn ymwybodol y bydd yr Awdurdod yn defnyddio'r ddeddfwriaeth i orfodi os oes angen. Soniodd yr Aelodau am niferoedd yr eiddo a’r wybodaeth sydd ganddynt amdanynt wrth geisio eu cydlynu. Awgrymodd y Pwyllgor, er mwyn cynyddu gwybodaeth yr Awdurdod am eiddo gwag, y gellid cysylltu â’r Aelodau. Un o'r ffyrdd gorau o ddelio â hyn oedd rhannu'r rhestr fesul ward, gydag aelod pob ward yn derbyn y rhestr honno fel y gallent ychwanegu rhai o'r eiddo heb fandiau nad ydynt yn hysbys er mwyn cael rhestr gynhwysfawr gyfredol.  Siaradodd yr Aelodau hefyd am refeniw ac er eu bod yn sylweddoli bod grantiau'n gymhelliant, roedd yna obaith y gellid codi refeniw ychwanegol drwy dreth y cyngor o ganlyniad i ailddefnyddio'r eiddo hwn, ac efallai y gellid neilltuo'r refeniw hwnnw i greu mwy o arian i helpu i greu gweithgaredd economaidd.

Pwysleisiodd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar dref Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd a gofynnwyd i'r Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau pryd y byddai hyn yn cael ei ehangu i weddill y fwrdeistref. Cadarnhaodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau ei fod, wrth siarad am Ben-y-bont ar Ogwr, yn cyfeirio at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac nid Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn benodol, gan gymryd ymagwedd holistig ar draws yr holl eiddo ledled yr awdurdod.

Gofynnodd yr Aelodau i'r Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau pam nad oedd unrhyw Aelod etholedig ar y gweithgor ac a oedd y panel yn annog Aelodau i fynd â hyn yn ôl i'w hadrannau eu hunain. Cadarnhaodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau fod y gweithgor yn bwydo i'r Cabinet yn ei gyfanrwydd, ond y gallai edrych ar ddod ag aelod etholedig yn ôl os oedd angen.  Yn ogystal, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Lles y cynhelir cyfarfodydd bob pythefnos  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 68.

69.

Diweddariad ar y Rhaglen Waith ar gyfer y Dyfodol pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu yr adborth o'r cyfarfod blaenorol mewn perthynas â Throsglwyddo Asedau Cymunedol a gofynnodd i'r Aelodau gymeradwyo'r ymatebion / sylwadau fel y nodwyd yn yr adroddiad. 

Dywedodd y Swyddog Craffu fod yr eitem Grantiau Cefnogi Pobl i fod i fynd i SOSC1 ym mis Chwefror, ond y cytunwyd y byddai'r eitem hon yn cyd-fynd â'r eitem ar y Strategaeth Digartrefedd, ac felly cytunwyd y byddai'r ddwy eitem hyn yn dod i SOSC3, yn hytrach nag i SOSC1 fel y bwriadwyd yn wreiddiol.  Byddai aelodau SOSC1 yn cael eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod ar 18 Mawrth 2019.

Amlinellodd y Swyddog Craffu fod y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 1 af Mai 2019 wedi ei neilltuo fel Gweithdy'r Flaenraglen Waith i drafod eitemau yn y dyfodol, ond yn dilyn Cyfarfod Cynllunio'r Flaenraglen Waith gyda'r Prif Weithredwr Dros Dro a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol fod nifer o eitemau wedi’u cyflwyno a allai effeithio ar y Gweithdy.

PENDERFYNWYD :            Fe wnaeth y Pwyllgor:

1.        Gymeradwyo'r adborth o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau a nodi'r rhestr o ymatebion;

2.        Nododd y Pwyllgor y dirprwywyd eitemau iddo ynghylch y Strategaeth Digartrefedd a Grantiau Cefnogi Pobl ar gyfer ei gyfarfod nesaf;

Nododd y Pwyllgor fod Gweithdy Cynllunio’r Flaenraglen Waith wedi'i drefnu ar gyfer ei gyfarfod ym mis Mai, ond y gallai hyn newid.

70.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z