Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Democratic Services Manager

Eitemau
Rhif Eitem

78.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd David Lewis a’r Cynghorydd Venables

79.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim

80.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 100 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 25/02/2019 and 18/03/2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y 25/02/2019 fel cofnod gwir a chywir o'r cyfarfod

 

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y 18/03/2019 fel cofnod gwir a chywir o'r cyfarfod yn amodol ar y newidiadau canlynol:

 

Roedd y Cynghorydd Rod Shaw, y Cynghorydd Roz Stirman, a'r Cynghorydd Norah Clarke yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Roedd y Cynghorydd Paul Davies yn bresennol yn y cyfarfod a rhoddodd y Cynghorydd Pam Davies ymddiheuriadau am absenoldeb

81.

Y Diweddaraf am y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu ddiweddariad y flaenraglen waith i'r Aelodau a thynnodd sylw at yr eitemau a ddirprwywyd i'r Aelodau ar gyfer eu dau bwyllgor nesaf.

 

PENDERFYNWYD: Ar ôl trafod, gofynnodd yr Aelodau am gael cyflwyno'r eitem am y cerbyd gorfodi yng nghyfarfod mis Tachwedd, ar yr un pryd â'r adroddiad ar Briffyrdd.

82.

Adroddiad Adborth Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Nododd yr Aelodau yr ymatebion a ddaeth i law.  Gofynnodd yr Aelodau i bob statws RAG sy’n goch neu’n ambr fod â gweithred ddilynol ar ôl 6 mis, fel bo’r Aelodau'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd pethau’n parhau â’r argymhelliad.

83.

Enwebiad i Banel Craffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Enwebwyd y Cynghorydd David Lewis fel cynrychiolydd i Banel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

84.

Adroddiad ar Enwebu Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Enwebwyd y Cynghorydd David White yn wahoddai i Bwyllgor y Cabinet ar Rianta Corfforaethol

85.

Strategaeth Ynni Ardal Leol Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chynllun Ynni Clyfar pdf eicon PDF 106 KB

Gwahoddedigion:

 

Cyng Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd (yn cynrychioli Cyng Young);

Zak Shell, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth;

Michael Jenkins – Arweinydd Tim Datblygu Cynaliadwy

Ieuan Sherwood – Rheolwr Grwp - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd

Denis Richard, Pennaeth Rhaglenni Mawr- Energy Systems Catapult

Paul Smith, Rheolwr Datblygu RhanbartholCymru - Energy Systems Catapult

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y gwahoddedigion i'r cyfarfod a diolchodd i'r gwahoddedigion allanol am deithio i fynychu'r Pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol adroddiad i'r Pwyllgor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sy'n cael ei wneud i gyflawni Strategaeth Ynni Ardal Leol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cynllun Ynni Clyfar.  Atgoffodd yr Aelodau fod y Cabinet wedi cymeradwyo bod yn rhan o’r rhaglen SSH ar 3 Chwefror 2015 a bod Pen-y-bont ar Ogwr yn un o’r tri Awdurdod Lleol a gymerodd ran yn y prosiect peilot.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau i gynrychiolwyr yr Energy Systems Catapult am fynychu'r cyfarfod ac am eu cyfraniad amhrisiadwy i'r prosiect hyd yma. Dywedodd mai Pen-y-bont ar Ogwr oedd yr unig Awdurdod Lleol i gynhyrchu Strategaeth Ynni Ardal Leol.  Ychwanegodd y byddai gwaith yn y dyfodol gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn datblygu rhaglenni prentisiaethau ac y byddai cydweithio hefyd yn y dyfodol gydag Awdurdodau Lleol Bury a Newcastle, a oedd hefyd yn rhan o’r rhaglen beilot

 

Mewn ymateb i bryderon yr Aelodau bod y cynllun yn rhy uchelgeisiol, atebodd y swyddogion y byddai angen i'r cyhoedd brynu'r cynllun ond y rhoddid dewis i ddefnyddwyr, ac na fyddai'r cyhoedd yn cael eu gorfodi i wneud newidiadau i'w systemau gwresogi, a bod nifer o ffyrdd eraill na fyddai'n gostus y gallent wneud gwahaniaeth.

 

Nododd un aelod y mater y gallai Cynllun Gwres D?r Cloddfeydd Caerau fod yn anodd ei werthu i'r cyhoedd gan fod rhai trigolion yng Nghaerau yn dal i ddioddef canlyniadau inswleiddio eu heiddo, pan fu llawer o broblemau gydag ansawdd y gwaith a lleithder yn yr eiddo yn sgil hynny.  Cafodd y contractwr a oedd yn gwneud y gwaith ei ddiddymu heb wneud iawn am yr eiddo yr effeithiwyd arno.   Ymatebodd y swyddog gan ddweud bod gwersi wedi'u dysgu ac y byddai dull gwahanol yn cael ei ddefnyddio y tro hwn o ran rheoli ansawdd.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau ei bod yn hanfodol fod pawb a oedd yn gallu lleihau eu hôl troed carbon yn gwneud hynny.  Fel corff cyhoeddus mawr, roedd CBSP mewn sefyllfa i arwain y ffordd ac annog y cyhoedd i gyfrannu hefyd.

 

Mynegodd rhai Aelodau bryder mai nad hyn oedd y defnydd gorau o arian ar adeg pan oedd yr Awdurdod yn gorfod gwneud toriadau anffafriol mewn cyfnod o galedi.

Atebodd yr Aelodau Cabinet dros Gymunedau fod angen i'r Awdurdod fuddsoddi mewn storio trydan a diogelu'r ffordd y mae pobl yn cynhesu eu cartrefi yn y dyfodol.  Ychwanegodd fod pobl yn agored i newid os ydynt yn deall y cyfleoedd sydd ar gael iddynt, ac os ydynt yn ymwybodol o sut maent yn diogelu'r blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Gofynnodd Aelod a oedd yr Awdurdod yn rhannu arferion gorau gyda'r 2 Awdurdod lleol arall a oedd yn rhan o'r cynllun peilot.  Ymatebodd y Swyddog drwy ddweud bod adolygiadau misol yn cael eu cynnal gyda phob un o'r Awdurdodau Lleol dan sylw.

 

Argymhellion:

 

Argymhellodd yr Aelodau y dylid cyflwyno papur briffio i bob  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 85.

86.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Mynegodd yr Aelodau bryderon am y ffaith bod lai o adnoddau o fewn y tîm Gwasanaethau Democrataidd a nodwyd nad neb wedi cymryd lle dau aelod o staff wedi iddynt adael eu swyddi.  Nodwyd pryderon ganddynt fod y Swyddog Craffu bellach yn gorfod cymryd cofnodion yn y Pwyllgorau a'u bod yn pryderu bod hyn yn defnyddio adnoddau gwerthfawr a allai fod wedi’u defnyddio gan y tîm i'w galluogi i wneud gwaith ymchwil ystyrlon. Nodwyd hefyd bod sawl camgymeriad wedi bod yn y setiau diwethaf o funudau

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n cyflwyno hyn yn y Pwyllgor Corfforaethol nesaf.

Gofynnodd yr Aelodau am y wybodaeth ddiweddaraf gan y swyddog monitro yngl?n â’r canlynol:

 

  • Pa bryd fydd yr adolygiad o waith Craffu yn cael ei gynnal a'i gwblhau
  • Beth oedd y cynllun ar gyfer recriwtio/amnewid staff gwasanaethau democrataidd a oedd wedi gadael eu swyddi
  • Gofynnodd yr Aelodau i’r mater gael ei grybwyll yn CMB hefyd

Gofynnodd yr Aelodau i'r mater gael ei grybwyll yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd nesaf

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z