Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

87.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

 

 

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelodau/Swyddogion canlynol:-

 

Y Cynghorydd N Clarke

Y Cynghorydd K Edwards

Y Cynghorydd R Stirman

Y Cynghorydd J Williams

P Beaman

G Smith

88.

Datgan Budd

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd R Shaw ddatgan budd personol yn eitem 4 ar yr Agenda gan ei fod wedi cynnig cyngor (di-dâl) i Glwb Bowlio Pontycymer ar gynnig i drosglwyddo asedau iddo o’r Cyngor.  

 

Bu i’r Cynghorydd P Davies ddatgan budd personol yn eitem 4 ar yr Agenda fel Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Ddatblygu Caerau, a oedd yn ystyried cymryd rheolaeth ar y tir ger Canolfan Gymunedol Caerau. Fodd bynnag, roedd oedi gyda’r cynnig hwn ar hyn o bryd.

89.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 71 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 11/07/19

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Bod Cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 dyddiedig 11 Gorffennaf 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod manwl gywir.         

90.

Caeau Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau pdf eicon PDF 167 KB

Gwahoddedigion:

 

Mark Shephard, Prif Weithredwr

Cllr Richard Young, Yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Zak Shell, Pennaeth Gweithrediadau Gwasanaethau Cymunedol

Guy Smith, Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Kevin Mulcahy, Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Priffyrdd

Philip Beaman, Man Gwyrdd a Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth

Andrew Thomas, Rheolwr Gr?p , Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Gweithredol adroddiad a’i nod oedd cyflwyno i’r Pwyllgor ganlyniad yr ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer darpariaeth y Cyngor o’r uchod, er mwyn cefnogi darpariaeth fwy cynaliadwy yn ariannol, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y cynnydd cyfredol gyda Throsglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).      

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol amlinelliad o’r adroddiad ac wedyn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at unrhyw sefydliad annibynnol ar y Cyngor yn dod yn gyfrifol am fannau chwarae plant. Gofynnodd i bawb a oedd yn bresennol a fyddai’r Cyngor yn gwella’r offer mewn mannau chwarae mewn unrhyw ffordd, cyn i unrhyw broses o’r fath gael ei rhoi ar waith.

 

Cynghorodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol y byddai pob ardal yn cael sylw fesul achos mewn sefyllfaoedd fel hyn. Ychwanegodd bod rhai Cynghorau Tref/Cymuned wedi/wrthi’n dod yng ngofal mannau chwarae i blant, naill ai’n annibynnol neu drwy TAC. Roedd y Cyngor, lle byddai hynny’n bosibl, eisiau trosglwyddo mannau chwarae gydag offer i blant gyda’r offer yn gynwysedig, yn y cyflwr gorau posibl y gallai fod. I’r diben hwn, gallai unrhyw fân waith cynnal a chadw ar offer o’r fath nad oedd yn ddrud iawn gael ei wneud cyn unrhyw drosglwyddo. Ychwanegodd ymhellach y gallai grwpiau a sefydliadau eraill ddod yn gyfrifol am y cyfleusterau hyn, nid dim ond Cynghorau Tref/Cymuned.

 

Gofynnodd Aelod, pe bai Cyngor Tref/Cymuned yn dod yn gyfrifol am unrhyw fannau chwarae i blant, gydag offer neu fel arall, a fyddai ganddynt bwerau wedyn i wahardd c?n o fannau o’r fath, fel y gallai’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ei wneud. 

 

Cynghorodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol y byddai’n rhaid iddo holi am y pwynt hwn gyda’r Adran Gyfreithiol.           

 

Dywedodd Aelod, pan mae damwain yn digwydd mewn man chwarae i blant a bod unrhyw esgeulustod yn cael ei brofi, h.y. offer wedi malu ac ati, CBSP sy’n atebol am hyn a gellid gwneud hawliad o bosibl, drwy ei Yswirwyr. Gofynnodd sut byddai hyn yn gweithio pe bai Cyngor Tref/Cymuned yn dod yn gyfrifol am ardal chwarae, oherwydd gallai hyn brofi’n eithaf drud, h.y. sicrhau bod yswiriant digonol yn ei le ar gyfer unrhyw ddamweiniau o’r fath ac unrhyw hawliadau wedyn yn codi o hyn.

 

Cynghorodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol bod materion fel hyn yn cael sylw wrth i unrhyw Ddiddordeb gael ei Fynegi h.y. unrhyw gostau cudd, ac roedd y rhain yn rhan o’r trafodaethau dilynol. Roedd y Cyngor bob amser yn cynnal archwiliad blynyddol ar fannau chwarae gydag offer i blant, i sicrhau bod yr offer mewn cyflwr boddhaol yno. Roedd trosglwyddo’r cyfleusterau hyn yn nod er mwyn i’r Cyngor allu osgoi costau a gwneud yr arbedion angenrheidiol i gyd-fynd â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC), felly byddai’r gwaith o gynnal a chadw mannau o’r fath yn y dyfodol yn dod yn gyfrifoldeb y sefydliad a fyddai’n dod i ofalu am y cyfleuster. Pe bai’r offer yn cael ei gadw mewn cyflwr rhesymol dda, byddai hyn yn atal damweiniau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 90.

91.

Trosolwg a Chraffu – Adborth o Gyfarfodydd pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad a’i bwrpas oedd cyflwyno i’r Aelodau adborth o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 ar gyfer ei drafod, ei gymeradwyo a gweithredu yn ei gylch. 

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Pwyllgor yn ystyried yr adborth sydd wedi’i atodi ac ymatebion y Swyddogion fel y dangosir yn Atodiad A yr adroddiad a chytunwyd i ddosbarthu’r ymateb i’r argymhelliad fel gwyrdd yn y statws RAG gan adlewyrchu bod y mater wedi cael ymateb digonol a llawn. 

92.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad oedd yn gwneud y canlynol:

 

a)    Cyflwyno’r eitemau sydd wedi cael eu blaenoriaethu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, gan gynnwys yr eitem nesaf sydd wedi’i dirprwyo i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3;

b)    Cyflwyno i’r Pwyllgor restr o eitemau posibl pellach ar gyfer cyflwyno sylwadau a blaenoriaethu;

c)     Gofyn i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach (os oes rhai) ar gyfer eu hystyried gan ddefnyddio ffurflen meini prawf wedi’i phenderfynu ymlaen llaw.

Wedi’i hatodi yn Atodiad A yr adroddiad oedd y Flaenraglen Waith gyffredinol ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc, oedd yn cynnwys y pynciau a gafodd eu blaenoriaethu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar gyfer y gyfres nesaf o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc yn Nhabl A, yn ogystal â phynciau a ystyriwyd yn bwysig ar gyfer eu blaenoriaethu yn y dyfodol yn Nhabl B.

 

Cyfeiriodd Aelod at Atodiad A a’r cyfarfod nesaf sydd wedi’i drefnu o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3, lle’r oedd Gorfodi yn mynd i gael ei ystyried fel pwnc fel eitem agenda.

 

O ran y rhai yr awgrymwyd eu gwahodd i’r cyfarfod hwn, roedd yr Aelodau’n teimlo y dylai cynrychiolydd o’r Adran Gyfreithiol fynychu, er mwyn esbonio proses yr hysbysiadau cosb penodol sy’n cael eu rhoi gan Swyddogion Gorfodi a/neu Swyddogion yr Heddlu (ac a yw Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cael eu rhoi). Roedd gan yr Aelodau ddiddordeb hefyd mewn cael gwybod pa gamau gweithredu oedd yn cael eu rhoi ar waith wedyn, h.y. drwy’r Llysoedd, mewn perthynas ag unrhyw ddirwyon heb eu talu. Roedd y pwyllgor yn teimlo ymhellach hefyd y dylid ystyried gwahodd cynrychiolydd o 3GS i’r cyfarfod. Mae hwn yn gorff sy’n cefnogi gorfodaeth amgylcheddol ar gyfer awdurdodau lleol.

 

Roedd yr Aelodau hefyd yn teimlo y byddai’n ddefnyddiol, at ddibenion gwybodaeth, derbyn nifer yr hysbysiadau cosb penodol sy’n cael eu rhoi dros gyfnod o 12 mis, ac unrhyw ddata pellach ynghylch hyn sydd ar gael.  

 

PENDERFYNWYD:                       Nodi’r adroddiad.          

93.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z