Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 3 - Dydd Llun, 16eg Tachwedd, 2020 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB

Media

Eitemau
Rhif Eitem

106.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim.

107.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 101 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 14/11/19 a 23/01/20

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                      I dderbyn Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 3 wedi'u dyddio 14 Tachwedd 2019 a 23 Ionawr 2020 fel rhai gwir a chywir.

 

108.

Diweddariad ar y Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 95 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu'r adroddiad. Dywedodd, yn dilyn y cyfnod clo ym mis Mawrth, fod Pwyllgorau Craffu wedi'u gohirio i ddechrau arni gan fod y Cyngor yn canolbwyntio ar flaenoriaethau mewn ymateb i bandemig Covid-19. Gofynnodd adroddiad i'r Cabinet ym mis Mehefin fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystyried creu Panel Adfer Trawsbleidiol, a gafodd ei gymeradwyo yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf. Sefydlwyd panel gyda'r nod o siapio, llywio a chynghori'r Cabinet ar gynllunio adferiad y Cyngor i ffurfio sail i gyfnod adfer y pandemig. Cyfarfu'r Panel chwe gwaith ym mis Awst a chynhyrchodd argymhellion i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Medi, a gafodd eu hadrodd i'r Cabinet wythnos yn ddiweddarach. Disgwyliwyd ymateb ffurfiol gan y Cabinet yn fuan. Roedd y Panel Adfer yn awr yn disgwyl i Asesiad o Effaith ar y Gymuned y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried y canfyddiadau, cyn dewis ei faes ffocws nesaf i'w archwilio mewn mwy o fanylder.

 

Cynhaliwyd cyfarfod ar y cyd o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu 1 a 2 ym mis Gorffennaf i ystyried adroddiadau ar Addysg Ôl-16 a Theithio Dysgwyr. Roedd y cyfarfod hwn wedi'i ohirio ers mis Mawrth. Ystyriwyd argymhellion ar gyfer Addysg Ôl-16 gan y Cabinet ym mis Gorffennaf, a benderfynodd ar yr opsiwn a ffafriwyd. Ystyriodd yr argymhellion ar gyfer Teithio Dysgwyr ym mis Medi, gan ohirio'r penderfyniad i ddiwygio Polisi Teithio Dysgwyr yr Awdurdod Lleol tan ar ôl yr adolygiad o'r pellteroedd statudol cyfredol gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021.

 

Cynhaliwyd cyfarfodydd y Panel Ymchwilio a Gwerthuso Cyllideb ym mis Gorffennaf. Mae pedwar cyfarfod wedi cael eu cynnal hyd yn hyn, gyda'r cyfarfod terfynol wedi'i drefnu ar gyfer mis Rhagfyr.

 

Cytunwyd ar Amserlen Cyfarfodydd ar gyfer gweddill y flwyddyn drefol yn y Cyfarfod Cyngor Blynyddol ym mis Medi, a chan fod y Panel Adfer wedi'i sefydlu bellach, cydnabuwyd, wrth symud ymlaen, y byddai angen i gyfarfodydd Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu gael ffocws a bod yn strategol i osgoi dyblygu gwaith. 

 

Mae'r Cyngor ers hynny wedi cael gwybod y bydd y Setliad Ariannol Llywodraeth Leol gan Lywodraeth Cymru yn hwyrach na'r disgwyl. Golygai hyn y byddai angen i'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) gael ei hystyried gan y Pwyllgorau Craffu ar ôl i'r Cabinet ystyried y cynigion drafft ar 19 Ionawr ac nid yng nghylch cyfarfodydd mis Rhagfyr fel y cynlluniwyd yn wreiddiol. O ganlyniad, byddai trefniadau yn cael eu gwneud i symud dyddiadau cyfarfodydd mis Ionawr i hwyluso hyn, a byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud yng Nghyfarfod y Cyngor ar 18 Tachwedd.  

 

Gyda'r newidiadau hyn mewn golwg, cynigwyd y byddai'n amserol, yn ei gyfarfod nesaf ar 17 Rhagfyr, fod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad ar lafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol ynghylch effaith pandemig Covid-19 ar faes Gwasanaethau Cymunedol, a'r ymateb gweithredol.

 

O ran cyfarfodydd craffu ar ôl y MTFS, gofynnwyd i'r Pwyllgor adnabod unrhyw eitemau eraill i'w hystyried ar y Blaenraglen Waith dros dro ar gyfer gweddill y calendr trefol o gyfarfodydd.  Byddai angen pwyslais ar ystyried materion fel effaith, risg, perfformiad, cyllideb  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 108.

109.

Adroddiad Enwebu Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynoddy Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheolaethol adroddiad, a'i ddiben oedd gofyn i'r Pwyllgor enwebu un Aelod fel ei Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli'r Pwyllgor fel gwahoddedig i gyfarfodydd Pwyllgor y Cabinet ar faterion Rhianta Corfforaethol.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau o'r llawr, ac yn dilyn hyn

 

PENDERFYNWYD:                        I enwebu'r Cynghorydd J Radcliffe i gynrychioli'r Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 3 fel Gwahoddedig i gyfarfodydd y Cabinet ar faterion Rhianta Corfforaethol.

 

110.

Enwebiad i Banel Craffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Cyflwynoddy Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheolaethol adroddiad, a'i ddiben oedd gofyn i'r Pwyllgor enwebu un Aelod i eistedd ar Banel Craffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau o'r llawr, ac yn dilyn hyn

 

PENDERFYNWYD:                      I enwebu'r Cynghorydd P Davies fel cynrychiolydd y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 3 i eistedd fel Aelod o Banel Craffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

111.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.