Agenda a Chofnodion
Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Media
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Dim |
|
Cadarnhau Cofnodion PDF 237 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 26/04/2021 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod Cofnodion y cyfarfod cyfunol o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 a’r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu ar 26 Ebrill 2021 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir, yn dilyn y diwygiadau canlynol:
Tudalen 6, paragraff olaf, y frawddeg olaf:
“It was
about active travel routes and ensuring
Tudalen 8, y paragraff olaf ond un, ail linell: “Planning regulations would dictate how many
parking |
|
Ymateb i Newid Hinsawdd a Charbon Sero-Net erbyn 2030 PDF 726 KB Gwahoddwyr:
Cynghorydd Huw David - Arweinydd Cynghorydd Stuart Baldwin - Aelod Cabinet Cymunedau Councillor Richard Young - Cadeirydd - Bwrdd Rhaglen Datgarboneiddio Pen-y-bont ar Ogwr 2030 Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau Zak Shell - Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol Ieuan Sherwood - Rheolwr y Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd Gareth Clubb - Rheolwr Ymateb Newid Hinsawdd
Sam Wright-Green - Ymgynghorydd - Ymddiriedolaeth Garbon David Powlesland - Prif Rheolwr - Ymddiriedolaeth Garbon Cofnodion: I ddechrau, eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau rywfaint o’r naratif mewn perthynas ag Agenda 2030, cyn gwahodd cydweithwyr o'r Ymddiriedolaeth Garbon i wneud cyflwyniad. Ar ôl y cyflwyniad, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei bod yn ymwybodol bod y Pwyllgor wedi anfon rhai cwestiynau yngl?n â'r adroddiad, ond eu bod wedi cyrraedd yn rhy hwyr i’r cydweithwyr o'r Ymddiriedolaeth Garbon eu cynnwys yn eu cyflwyniad, ond y byddent yn cael eu hateb. Rhoddodd Rheolwr y Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am waith yr Awdurdod ar Gerbydau Allyriadau Isel Iawn yn y depos.
Wedi cyflwyno'r adroddiad, gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor y cwestiynau canlynol:
Roedd Aelod yn pryderu bod trafodaethau wedi canolbwyntio ar yr Awdurdod Lleol, ac unwaith eto â ffocws ar sut y gallai'r cyhoedd chwarae eu rhan, ond pa ran fyddai diwydiant yn ei chwarae a hwythau’n gynhyrchwyr carbon enfawr. Holodd yr Ymddiriedolaeth Garbon am y farn hirdymor ar allyriadau carbon gan ddiwydiannau mawr a'r fyddin.
Eglurodd Uwch Reolwr - Yr Ymddiriedolaeth Garbon fod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gosod targed 2030 ar y sector cyhoeddus oherwydd eu bod yn awyddus i'r sector arwain drwy esiampl. Mae allyriadau'r Sector Cyhoeddus yng Nghymru rhwng 1% a 3%, felly roedd gwirionedd yn yr hyn yr oedd yr Aelod wedi'i ddweud am y cyhoedd a'r diwydiant a’r angen i ddylanwadu a gosod targedau arnynt, a hynny gan fod 90% o allyriadau yn deillio oddi yno. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn cael ei ariannu'n gyhoeddus ac mae cyfrifoldeb i arwain drwy esiampl, gan gynnwys dylanwadu ar gadwyn gyflenwi'r Cyngor er mwyn sbarduno newid yn y diwydiant, gan mai caffael sy’n gyfrifol am oddeutu 75% o allyriadau'r Cyngor, a nhw yw’r rhai a fydd angen buddsoddi ac ymgymryd â'r her o ddangos i’r Cyngor fod hyn yn derbyn sylw. Roedd allyriadau diwydiant trwm wedi disgyn yn y gorffennol o dan gyfarwyddeb effeithlonrwydd ynni'r UE, a bu'n rhaid gwario cryn dipyn o arian ar gynnal archwiliadau arbed ynni. Roedd cyrff sector cyhoeddus mwy wedi bod yn rhan o Gynllun Effeithlonrwydd Ynni blaenorol yr Ymrwymiad Lleihau Carbon (CRC), ond roedd Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â chynnwys cyrff sector cyhoeddus yn y Cynllun Adrodd Ynni a Charbon Syml a ddilynodd. Fodd bynnag, bu'n rhaid i ddiwydiant trwm a SMEs mawr roi adroddiad ar eu hallyriadau o dan y cynllun hwnnw. Felly roedd llawer o waith rheoleiddio diweddar yn ymwneud â cheisio ysgogi gweithgarwch mewn diwydiant, ond yn amlwg mae angen gosod gofyniad ar y sector cyhoeddus, gyda thargedau sy’n cael eu hystyried fel cyfrifoldebau’r Awdurdodau Lleol yn eu rôl arweiniol a dylanwadol.
Dywedodd Aelod nad oedd yr adroddiad wedi sôn am effaith gweithgynhyrchu yn y fwrdeistref sirol a'r cyffiniau, ond ei fod yn nodi y dylai 75% o'r arbedion ddeillio o waith caffael. Gofynnodd a ddylai'r Awdurdod fod yn prynu gan ddarparwyr lleol a oedd yn allyrru nwyon carbon, a sut y byddai caffael o'r fath yn gweithredu.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod adolygiad o'r strategaeth gaffael yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9. |
|
Darpariaeth Gwastraff ar ôl 2024 PDF 743 KB Gwahoddwyr:
Cynghorydd Hywel Williams - Dirprwy Arweinydd Cynghorydd Stuart Baldwin - Aelod Cabinet Cymunedau Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau Gill Lewis - PennaethCyllid, Perfformiad a Newid dros dro Zak Shell - Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol Sian Hooper - Rheolwr Gwasanaethau Gwastraff Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad ynghylch y trefniadau ar gyfer y gwasanaeth gwastraff ar ôl 2024, gan fod y cytundeb ailgylchu casglu gwastraff presennol yn dod i ben ym mis Mawrth 2024. Er bod y contract presennol wedi perfformio'n dda yn erbyn safonau cenedlaethol, dywedodd mai'r anhawster a wynebir oedd yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig â’r contract gwasanaeth gwastraff yn y dyfodol, a rhoddodd grynodeb ohonynt o’r adroddiad. Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn hysbys bod y cam hwn yn dod, a bod trafodaethau wedi'u cynnal fel Cabinet. Roedd safbwynt Llywodraeth Cymru (LlC) wedi newid, ac efallai y byddai'r targedau hefyd yn newid ond roedd yn amlwg nifer o bethau yn ansicr, felly byddai'n annoeth mynd ymlaen i gyfnod caffael yr adeg honno.
Dywedodd Aelod ei fod braidd yn siomedig nad oedd wedi clywed am yr opsiwn o gaffael yn fewnol, ac roedd am drafod y mater. Derbyniodd fod llawer o ddata cadarnhaol a pherfformiad da wedi bod, ond nid oedd y data cymharol gan Awdurdodau Lleol eraill wastad yn briodol gan fod hwn yn gontract allanol. Roedd angen diolch yn fawr i'r cyhoedd, a oedd wedi cymryd rhan ac wedi gwneud i'r ffigurau weithio. O ran y costau, yr oedd yr Aelod yn pryderu y gallai’r gost isel fod o ganlyniad i delerau ac amodau anffafriol i staff, o gymharu â’r hyn y gallent eu cael pe baent yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol. Dywedodd yr Aelod y byddai'n hoffi clywed y ddadl a chael y ffigurau, y costau, y dadansoddiad, a'r manteision costau a ddeillia o ddod â phethau'n ôl yn fewnol, gan ei fod o’r farn mai rheolaeth uniongyrchol oedd y ffordd orau o ddelio â'r holl ansicrwydd.
Atebodd yr Aelod Cabinet Cymunedau nad oedd am ddweud na fydd trafodaethau o’r fath yn digwydd; ond ar hyn o bryd roedd yr adroddiad yn ymwneud â'r posibilrwydd o ofyn am estyniad i'r contract presennol er mwyn caniatáu i'r Awdurdod Lleol edrych ar yr opsiynau gorau wrth barhau. O ran y ffigurau, roedd 85% o bobl o'r farn bod y gwasanaeth yn gymedrol neu’n well, a byddai'n well ganddo gymedrol na gwael neu wael iawn, gan ystyried ei fod yn wasanaeth a oedd yn derbyn beirniadaeth gan y cyhoedd yn aml. Dywedodd fod yr adroddiad heddiw yn ymwneud ag ymestyn y contract yn hytrach nag thrafod y materion ehangach, ond pan fydd y goblygiadau ehangach hynny yn cael eu trafod gallai hyn ddychwelyd at y Pwyllgor Craffu.
Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol, o ran yr opsiynau, mai trafodaethau yn y dyfodol fyddent ynghylch sut y gallai'r Awdurdod Lleol ddarparu'r gwasanaeth yn y tymor hir. Yn y cyfamser, roedd yr adroddiad hwn yn ceisio archwilio'r holl resymau dros yr ansicrwydd, ac mai'r ateb gorau a mwyaf syml ar hyn o bryd oedd cael estyniad byr, o gofio bod yr holl ddata'n dangos bod pethau'n iawn ar hyn o bryd
Dywedodd yr Aelod nad oedd yn deall pam na ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10. |
|
Y Diweddaraf am y Flaenraglen Waith PDF 316 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwnaeth y Pwyllgor yr argymhelliad canlynol:
Bod adroddiad ar gyflwyno'r Gorfodi Parcio Ar y Pafin Llywodraeth Cymru cael eu hychwanegu at Flaenraglen Waith y Pwyllgor, ar ôl arolygu strydoedd a choladu gwybodaeth ar gyfer Gorchmynion Parcio Traffig posibl, ond cyn iddo gael ei weithredu.
Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol fel rhan o’r eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNIAD: Bod y Pwyllgor wedi cymeradwyo'r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn amodol ar yr ychwanegiad uchod, ac wedi nodi y byddai'r Flaenraglen Waith ac unrhyw ddiweddariadau gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i gyfarfod nesaf COSC, ac wedi nodi'r Daflen Argymhelliad Gweithredu Monitro yn Atodiad B. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Dim |