Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 3 - Dydd Llun, 26ain Medi, 2022 16:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Norah Clarke – Datgan buddiant rhagfarnus gan ei bod wedi bod yn wirfoddolwr gyda’r Elusen Credu.

Y Cynghorydd Colin Davies – Datgan buddiant personol gan ei fod ynghlwm wrth gynnig SPF yn y Fro.

Y Cynghorydd Ian Williams – Datgan buddiant personol fel Cynghorydd Tref Pen-y-bont ar Ogwr, rhag i adnewyddu a chyllid y dref gael eu trafod.

8.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 227 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 16 02 2022 a 18 07 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cynghorydd Norah Clarke wrth drafod pwynt 5b yng nghofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 18 Gorffennaf 2022, fod PRIF yn golygu Porthcawl Resort Investment Focus, nid Forecast.

 

PENDERFYNWYR:    

Y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 dyddiedig 16 Chwefror 2022 ac 18 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir a gwirioneddol.

9.

Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig pdf eicon PDF 154 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet Cymunedau

Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet Adfywio

Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet Llesiant a Chendlaethau’r Dyfodol

 

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau

Ieuan Sherwood - Rheolwr y Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yr adroddiad ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) sef yr hyn yr oedd Llywodraeth y DU wedi’i roi ar waith i ddisodli Cronfa Fuddsoddi Strwythurol Ewrop (ESIF), yn dilyn y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd (EU) ar 31 Ionawr 2020. Nododd bod dyraniad Pen-y-bont hyd yma yn £23 miliwn a oedd yn rhaid ei wario dros dair blynedd, ac roedd oddeutu hanner yr hyn yr oeddent wedi arfer ei gael gan yr EU. Felly, roedd creu’r cynllun buddsoddi wedi bod yn heriol. Roedd hi’n bwysig i’r Pwyllgor ddeall ei fod ar gyfer mentrau ledled y Sir, roeddent wedi gweithio gyda’r trydydd sector a’r colegau er mwyn creu’r cynllun. Dylent fod â phenderfyniad ar y cynllun buddsoddi erbyn canol mis Hydref.

 

Nododd Rheolwr Gr?p yr Economi, Cyfoeth Naturiol a Chynaliadwyedd mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi diweddariad ar waith Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a throsolwg yn Atodiad Un o’r cynigion a allai gael eu cyflwyno. Dywedodd bod adnodd penodol ochr yn ochr â’r flaenoriaeth Pobl mewn Sgiliau yn benodol ar gyfer ymyrraeth ledled y DU o’r enw Multiply. Nod Multiply oedd gwella sgiliau rhifedd oedolion yn y rhanbarth. 

 

Eglurodd bod awdurdodau lleol wedi’u gwahodd i gydweithio a chreu un cynllun buddsoddi lleol ar gyfer y rhanbarth. Yn rhan o hyn, cytunwyd y byddai Rhondda Cynon Taf yn cymryd rôl awdurdod lleol arweiniol ar gyfer y rhanbarth. Golyga hyn y byddai gan Lywodraeth y DU un cytundeb cyllid yn uniongyrchol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac y byddai ganddyn nhw gytundebau wedyn gyda phob awdurdod yn y rhanbarth. Roedd peth hyblygrwydd o ran sut y byddai’n cael ei gyflawni mewn Canllawiau gan Lywodraeth y DU, gydag opsiynau ar gyfer cyllid grant at ddibenion caffael, comisiynu a darpariaeth fewnol.

 

Nododd er nad oedden nhw fel Awdurdod angen datblygu cynllun buddsoddi, roedd hi’n bwysig datblygu’r wybodaeth yn Atodiad Un a oedd yn nodi’r blaenoriaethau a’r lleoedd gorau i ddyrannu arian y gronfa Ffyniant Gyffredin. Roedd yn awyddus i bwysleisio bod y cynigion wedi’u datblygu heb ganllawiau manwl am y gronfa gan Lywodraeth y DU, ac yn hynny o beth, gallai newid yn enwedig gan fod rhai o’r gweithgareddau arfaethedig, modelau cyflawni a gwerthoedd cyllid yn debygol o amrywio. O ran cyflawni, roedd y Cabinet wedi cytuno ar strwythur llywodraethu â dwy haen, partneriaeth economaidd a fyddai’n denu partneriaid aml-sector o bob rhan o’r Sir, y rhanbarth a Chymru, a bwrdd rhaglen economaidd mewnol. Eglurodd er bod ganddynt ddyraniad cyffredinol o £23 miliwn, roedd £3.99M o hwnnw wedi’i ddyrannu i’r Rhaglen Multiply, a oedd yn gadael £19.1 miliwn ar gyfer yr hyn a oedd y cael ei ystyried yn weithgarwch cronfa ffyniant gyffredin craidd dan dair thema. Roedd Llywodraeth y DU yn awgrymu y gellid rhannu’r cyllid i ddyraniadau blynyddol sefydlog a oedd cyfwerth ag oddeutu 12% yn y flwyddyn gyntaf, 24% yn yr ail flwyddyn, a 64% yn y drydedd flwyddyn. Doedd dim gwybodaeth o ran a oedd modd cario cyllid  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

Prosiectau Blaenoriaeth y Gronfa Ffyniant Bro pdf eicon PDF 169 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet Cymunedau

Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet Adfywio

 

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau

Ieuan Sherwood - Rheolwr y Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd

Delyth Webb – Rheolwr Grwp Adfywio Strategol

Jonathan Parsons - Rheolwr Gr?p Gwasanethau Cynllinio a Datblygu

Richard Hughes – Prif Weithredwr, Awen

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yr adroddiad gan egluro mai ail hanner Agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU oedd y gronfa, a oedd wedi’i gyhoeddi yn adolygiad gwariant Llywodraeth y DU yn 2020. Roedd yn rhaglen o waith cyfalaf yn bennaf, gydag ychydig o refeniw hyd at 2025, gyda dyraniad o £4 biliwn ledled y DU, a £800 miliwn ar gyfer Cymru. Nododd y gallai pob awdurdod lleol gyflwyno cais am hyd at £20 miliwn ar gyfer pob etholaeth AS - roedd dau ym Mhen-y-bont; Pen-y-bont ac Ogwr.  Yn ail, gellid cyflwyno cais trafnidiaeth fawr am hyd at £50 miliwn. Roedd yn gronfa gyfalaf gyda meini prawf penodol iawn, megis cefnogi asedau diwylliannol, adfywio canol trefi a threfi a chymunedau, a thrafnidiaeth. Nododd bod rhaid darparu 10% arian cyfatebol ar gyfer pob cais, felly byddai angen sicrhau cyllid gan naill ai trydydd parti, cyllid y Loteri Genedlaethol neu’r Cyngor ei hun. Roedd dau fid wedi’u cyflwyno; un er mwyn adnewyddu’r Pafiliwn ym Mhorthcawl, ac un ar gyfer Pont Ffordd Penprysg ym Mhencoed i waredu’r groesfan a gosod pont ffordd a llwybr cerdded newydd.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p, Economi, Cyfoeth Naturiol a Chynaliadwyedd drosolwg o’r adroddiad, ac ar ôl hynny, trafodwyd y canlynol: 

 

Gofynnodd Aelodau a fyddai £20M yn ddigon ar gyfer y prosiect adnewyddu’r Pafiliwn, o ystyried prisiau cynyddol. Os na, o ble byddai angen i’r arian ychwanegol ddod, ac a oedd Cadw’n awyddus ac yn derbyn yr addasiadau arfaethedig i’r cynllun.

 

Nododd Swyddogion bod problemau annisgwyl yn gallu dod i’r amlwg wrth ddechrau gwneud gwaith ar hen adeiladau, fodd bynnag, roedd gwersi wedi’u dysgu o gynlluniau blaenorol ac roedd wedi’i gydnabod bod llawer o gynlluniau wrth gefn o ran y cynllun hwn, a llawer o fesurau i wneud yn iawn am risgiau pe byddai’r rheiny’n dod i’r amlwg. Pe byddai unrhyw amgylchiadau annisgwyl neu gostau cynyddol, byddai angen ail-edrych ar y dyluniad a pheirianneg eto, gan nad oedd cyllid ychwanegol i wario ar yr adeilad. Drwy beirianneg o werth, byddent yn edrych ar yr adeilad a pha waith all gael ei wneud tuag at ddiwedd y cynllun pe byddai rhagor o arian yn dod ar gael. Nododd y Rheolwr Gr?p Adfywio Strategol bod Cadw yn ymwybodol o’r adeilad, a’u bod yn derbyn y newidiadau yn yr un modd â Thîm Cadwraeth a Dylunio yr Awdurdod ei hun.

 

Nododd yr Aelodau bryder y gallai’r Pafiliwn fod ar gau am hyd at ddwy flynedd pe byddai’r prosiect yn mynd yn ei flaen. Gofynnwyd am opsiynau o ran sicrhau bod rhai digwyddiadau’n gallu cael eu cynnal ym Mhorthcawl. 

 

Atebodd y Swyddogion drwy ddweud y byddai hynny’n amodol ar yswiriant risg ac atebolrwydd y contractwr ar ôl dechrau ar y gwaith adeiladu, felly er ei fod wedi’i ystyried, ni fyddai’n bosibl caniatáu defnydd o’r adeilad bryd hynny. Fodd bynnag, byddant yn gweithio gydag Awen sy’n gweithredu’r cyfleuster o ran sicrhau lleoliadau eraill.

 

Eglurodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen mai’r flaenoriaeth fyddai’r defnyddwyr lleol bob tro, ac y byddant yn gweithio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

Diweddariad ar y Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl ystyried yr adroddiad ar Ddiweddariad y Blaenraglen Waith, gofynnodd y Pwyllgor i’r eitemau canlynol gael eu hychwanegu:

 

1.    Diweddariad ar gynnal a chadw Priffyrdd. 

2.    Diogelwch cerddwyr mewn pentrefi hanesyddol.

 

Trwyddedu Tacsis

 

Gwnaeth y Pwyllgor:

 

-  fynegi pryder bod tacsis ond yn gallu defnyddio un orsaf MOT ag achrediad DVSA, ac os yw’r cerbyd yn methu, does dim modd gwneud y gwaith trwsio yn fanno. Mae’n rhaid trefnu apwyntiad mewn modurdy arall i wneud y gwaith, ac yna threfnu i fynd i’r orsaf MOT unwaith eto am ffi ychwanegol a phrawf arall, a all arwain at dacsis yn gorfod bod oddi ar y ffordd am gyfnod hirach, costau uwch a cholled sylweddol o ran incwm. Hefyd, mae’r modurdy’n brysur iawn gyda phrofi cerbydau Heddlu De Cymru a BCBC. 

-  gyfeirio at Awdurdodau Lleol eraill, e.e. Caerdydd, yn caniatáu’r defnydd o unrhyw orsaf MOT ag achrediad DVSA sy’n gwneud pethau’n haws i weithredwyr ac yn fwy teg i orsafoedd MOT ag achrediad DVSA.

-  mynegi pryder ynghylch yr effaith bellach y gallai hyn fod yn ei gael yn lleol ynghylch y cyfnod byr y mae tacsis ar gael yn y Fwrdeistref Sirol yn gyffredinol, ac yn enwedig yn hwyr yn y nos.

-  gofyn sut roedd perfformiad/dibynadwyedd tacsis yn cael ei fonitro drwy adnewyddu trwyddedau neu fel arall, a sut roedd yr Awdurdod yn adolygu achosion o ganslo, achosion o ganslo’n hwyr yn y nos, argaeledd ar ôl oriau, a beth oedd yn cael ei wneud i alluogi gwelliant a fflyd tacsis dibynadwy.

-   cyfeirio’r pwnc i’r Pwyllgor Trwyddedu er ystyriaeth a gweithredu.

 

 

 

 

Adroddiad Adnewyddu Porthcawl

 

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad ar Adnewyddu Porthcawl a oedd wedi’i drefnu ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 ar 20 Chwefror 2023, gan wneud cais i gael clywed cefndir y prosiect Cosy Corner yn rhan o gwmpas yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Pwyllgor i gynrychiolwyr o’r sefydliadau canlynol gael gwahoddiad i ddod i graffu’r adroddiad.

 

-       Croeso Cymru

-       Credu Charity Limited, o’r enw Community Interest Company gynt,

-       Porthcawl Harbourside

 

PENDERFYNWYD:       Cymeradwyodd y Pwyllgor y Blaenraglen waith yn Atodiad A, yn amodol ar yr ychwanegiadau a’r ceisiadau uchod. Nodwyd y Blaenraglen waith a byddai unrhyw ddiweddariadau o’r Pwyllgor yn cael eu hadrodd yn y cyfarfod nesaf. Nodwyd hefyd y Daflen Weithredu Monitro Argymhellion yn Atodiad B.   

12.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim